Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorwyr John Roberts a Matthew Vaux
(Aelod Cabinet) am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Evans am adael y cyfarfod
yn gynnar oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor. iii.
Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorydd John Roberts yn
dilyn salwch diweddar. Hefyd, estynnwyd cydymdeimlad i’r Cynghorydd John
Roberts a’i deulu ar golli ei wyres. iv.
Dymunwyd yn dda i'r Cynghorydd
Wyn Evans ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: i.
Datganodd
y Cynghorydd Wyn Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn
perthynas ag eitem 3 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei
drafod a buddiant personol mewn perthynas ag eitem 4. ii.
Datganodd
y Cynghorydd Eryl Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 3. iii.
Datganodd
y Cynghorydd Sian Maehrlein fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 6. Gweithdrefn Cytunwyd y byddai eitem 8 yr
agenda yn cael ei ystyried cyn eitem 6 yr agenda sydd i’w gweld ar y papurau
agenda. |
|
Cynllun Gwasanaeth Bwyd a Bwyd Anifeiliaid 2023-2024 PDF 791 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies (Arweinydd y Cyngor
ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a
Phobl a Threfniadaeth) yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod y
Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a
Diogelu’r Cyhoedd). Roedd rheolaethau rheoleiddiol ar gyfer bwyd a bwyd
anifeiliaid yn hanfodol ar gyfer sicrhau diogelwch bwyd a dilysrwydd y gadwyn
fwyd o'r fferm i'r fforc. Roedd yn bwysig bod rheolaethau rheoleiddiol yn cael
eu cymhwyso'n gyson ar draws y DU gyfan er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw
fethiant mewn safonau yn y gadwyn fwyd a allai effeithio ar ddilysrwydd a hyder
defnyddwyr yn y bwyd roeddent yn ei fwyta. Roedd dilysrwydd y gadwyn fwyd
anifeiliaid yn hanfodol nid yn unig i les anifeiliaid, ond hefyd er mwyn osgoi
unrhyw weddillion niweidiol mewn bwyd anifeiliaid a allai effeithio ar unrhyw
anifail oedd yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ddynol. Roedd Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyhoeddi Codau Ymarfer oedd yn
rheoleiddio sut oedd Awdurdodau Lleol yn darparu eu gwasanaethau bwyd a bwyd
anifeiliaid. Roedd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol gael
digon o adnoddau i archwilio busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yn rheolaidd yn
ôl y risg i iechyd a achoswyd ganddynt. Roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gynhyrchu
Cynllun Gwasanaeth i ddangos sut y caiff y gofynion bwyd a bwyd anifeiliaid eu
cyflawni a sut ddarparwyd adnoddau digonol bob blwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys
gofyniad i'r Cynllun Gwasanaeth fynd trwy'r broses ddemocrataidd. Roedd y Cynllun
Gwasanaeth yn rhoi amlinelliad o'r gofynion arolygu bwyd a bwyd anifeiliaid ar
gyfer 2023/2024. Roedd y flwyddyn hon yn cynrychioli newid sylweddol i
arolygiadau "deuol", lle roedd hylendid bwyd a safonau bwyd yn cael
eu cyfuno mewn un arolygiad. Roedd Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd wedi ymgymryd â
hyfforddiant ac asesiad sylweddol i fod yn gymwys i gynnal yr arolygiadau deuol
hyn yn unol â safonau Codau Ymarfer yr ASB. Canlyniad dymunol arolygiadau deuol
yw ei fod yn lleihau'r baich arolygu ar fusnesau bwyd ac yn cynyddu
effeithlonrwydd i'r Awdurdod o ran osgoi dau ymweliad ar wahân. Roedd adolygiad
o adnoddau yn y Cynllun Gwasanaeth wedi canfod, gyda'r cyllid ychwanegol, y
dylai'r gwasanaeth fod ag adnoddau digonol i gyflawni'r rhaglen bwyd a bwyd
anifeiliaid y flwyddyn hon. Fodd bynnag, roedd hyn yn dibynnu ar allu
Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd i gyflawni eu dyraniad arolygu. Gallai galwadau
eraill ar y gwasanaeth a salwch ac ati effeithio ar eu gallu i gwblhau'r
rhaglen. Roedd yn ofynnol i'r swyddogion hyn weithio ar draws maes cyfan
Diogelu'r Cyhoedd, felly gallai unrhyw flaenoriaethau iechyd y cyhoedd oedd yn
gwrthdaro gael effaith andwyol. Rhoddodd Carwen Evans, Rheolwr Corfforaethol: Diogelu’r Cyhoedd drosolwg o'r Cynllun Gwasanaeth Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a'r heriau presennol ac yn y dyfodol wrth ddarparu'r gwasanaeth statudol. Roedd gorfodi cyfraith bwyd yn swyddogaeth a rhannwyd ac fe'i cyflawnwyd gan swyddogion y timau Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach, a gydnabyddwyd ar y cyd o fewn yr Awdurdod fel "Diogelu'r Cyhoedd". Ymgymerwyd ag ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies (Arweinydd y Cyngor
ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a
Phobl a Threfniadaeth) yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Matthew Vaux. Roedd y Ddeddf
Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro)
(Cymru) 2023 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno Cam 1 o’r gwaharddiad ar fusnesau a
sefydliadau yng Nghymru i werthu neu gyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro i ddefnyddwyr, a daeth i rym ar 30.10.2023. Roedd y Ddeddf
yn ei gwneud yn drosedd i fusnesau a sefydliadau gyflenwi’r cynhyrchion canlynol:
•
Platiau plastig untro •
Cytleri plastig untro – fel cyllyll, ffyrc a llwyau •
Trowyr plastig untro ar gyfer
diodydd •
Cwpanau wedi'u gwneud o rai mathau o bolystyren •
Cynwysyddion cludfwyd wedi'u gwneud
o rai mathau o bolystyren •
Ffyn plastig ar gyfer balwnau •
Ffyn cotwm plastig untro •
Gwellt yfed plastig untro – ar
wahân i bobl sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol Roedd y gwaharddiad yn effeithio ar fanwerthwyr,
gwerthwyr bwyd, siopau cludfwyd a'r diwydiant
lletygarwch ac roedd yn berthnasol i gyflenwadau dros y cownter ac ar-lein.
Fodd bynnag, roedd nifer o eithriadau, er enghraifft caniateir i fferyllfeydd
barhau i ddarparu gwellt plastig mewn achosion lle'r oedd unigolion eu hangen i
fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol. Roedd eithriadau eraill yn gweld
ffyn cotwm â choesau plastig yn dal i gael eu defnyddio mewn lleoliadau gofal
iechyd a chaniateir cyflenwi llwyau plastig gyda meddyginiaethau hylifol er
mwyn mesur dos. Bydd
gwaharddiadau Cam 2 yn dod i rym erbyn Ebrill 2026. Bydd hyn yn effeithio ar y
cyflenwad o fagiau siopa plastig untro, caeadau
polystyren ar gyfer diodydd a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi'u gwneud o
fath o blastig a elwir yn blastig ocso-ddiraddadwy. Rhagwelwyd, fel
yn achos cyflwyno’r tâl am fagiau siopa untro rai
blynyddoedd yn ôl, y byddai’r gyfraith newydd yn ymwreiddio’n ddidrafferth,
gyda chydymffurfiaeth lawn yn cael ei chyflawni. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Bryan Davies.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd yr
aelodau’n gefnogol i’r ddeddfwriaeth newydd o ystyried yr heriau amgylcheddol
ac awgrymon nhw fod addysgu pobl i gael gwared â sbwriel yn gywir yn allweddol.
Cydnabuwyd y byddai'r ddeddfwriaeth o bosibl yn arwain at ganlyniadau
anfwriadol fel sy'n digwydd yn aml. · Roedd
busnesau’n ymwybodol o’r ddeddfwriaeth newydd cyn iddi ddod i rym ac o’r
trafodaethau gyda 200-250 o fusnesau hyd yma, nid oedd dim problemau wedi’u
nodi. O safbwynt gorfodi, roedd pwyslais yn gyntaf ar addysgu busnesau yn
hytrach nag ar gamau cyfreithiol. · Cydnabuwyd bod
elfen o gost i fusnesau yn sgil cyflwyno’r gwaharddiad, fodd bynnag, roedd
llawer o fusnesau wedi mabwysiadu’r dull o weithredu cyn iddo ddod yn gyfraith.
Pe bai gan fusnesau blastigau untro gormodol, eu
cyfrifoldeb nhw oedd cysylltu â chyflenwyr am ad-daliad neu gael gwared â nhw’n
gywir. · Codwyd pryderon pe bai’r un dull o weithredu o ran y gwaharddiad ar blastig untro yn cael ei gymhwyso i amaethyddiaeth, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies (Arweinydd y Cyngor
ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a
Phobl a Threfniadaeth) yr adroddiad ar ran y Cynghorydd Matthew Vaux. O fewn Cyngor
Sir Ceredigion, roedd diogelu a chymeradwyo safonau uchel o les anifeiliaid, yn
bennaf fel rhan o gefnogi'r diwydiant ffermio, ac i gefnogi'r rhai sy'n mwynhau
cadw anifeiliaid fel anifeiliaid anwes. Roedd yr awdurdod felly yn cefnogi
ymgyrch yr RSPCA ar "roi anifeiliaid anwes fel gwobrau" drwy gynnig
gweithredu gwaharddiad ar roi anifeiliaid byw ar eiddo Cyngor Sir Ceredigion.
Ers dechrau ymgyrch yr RSPCA, roedd 13 o awdurdodau lleol Cymru wedi cefnogi’r
ymgyrch. Hyd y gŵyr
Cyngor Sir Ceredigion, nid oedd yr un digwyddiad a gynhaliwyd ar dir y Cyngor
yn cynnig Anifeiliaid Anwes fel Gwobrau ar hyn o bryd. Cynhaliwyd ffeiriau yn
ystod yr Hydref yn Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth, fodd bynnag, deallwyd
nad oedd pysgod aur yn cael eu rhoi fel gwobrau gan y gweithredwyr hyn. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Bryan Davies.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Eglurwyd mai
pwrpas y cynnig oedd gweithredu gwaharddiad ar roi anifeiliaid byw fel gwobrau
megis mewn rafflau neu ffeiriau lle nad oedd person wedi paratoi'n ddigonol ar
gyfer yr anifail, yn hytrach na gwneud cynnig am anifail byw mewn arwerthiant. · Amlygwyd bod
Covid-19 wedi effeithio ar les anifeiliaid gan fod y nifer uchaf erioed o bobl
wedi prynu cŵn bach, ond yn ddiweddarach, yn methu â gofalu amdanynt.
Ffocws y cynnig oedd gwella a diogelu lles anifeiliaid. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i argymell i'r
Cyngor wahardd yn llwyr roi anifeiliaid byw fel gwobrau, ar unrhyw ffurf, ar
dir y Cyngor. |
|
Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar
gyfer Gydol Oes a Llesiant) mai pwrpas yr adroddiad oedd i graffu ar
ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd a’r Cynllun Gweithredu oedd wedi’i
ddatblygu, gan wneud argymhellion i’r Cabinet. Ar 06.12.2022, cymeradwyodd y
Cabinet y dylai’r Gwasanaeth fwrw ymlaen i gynnal ymarfer ymgysylltu ac
ymgynghori ehangach yn 2023 gan ganolbwyntio ar ail-lunio’r cyfleoedd o ran y
gwasanaethau dydd a’r ddarpariaeth seibiant. Wrth ymgysylltu ac ymgynghori,
rhoddwyd ystyriaeth fanwl i brif egwyddorion y Strategaeth Llesiant Gydol Oes
ochr yn ochr â’r Strategaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol oedd yn gysylltiedig
ag Anableddau Dysgu, Plant sy’n Derbyn Gofal a chyfleoedd o ran seibiant ar
sail gydol oes. Bu i’r
adolygiad ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:- •
Cyfleoedd o ran gwasanaethau dydd i oedolion hŷn gan
gynnwys y rheiny sy’n byw gyda diagnosis o ddementia •
Cyfleoedd o ran gwasanaethau dydd i unigolion sy’n byw ag
anableddau dysgu, awtistiaeth ac anawsterau dysgu dwys a lluosog •
Llwybrau pontio gydol oes ar gyfer y rheiny sy’n byw ag
anableddau dysgu / awtistiaeth •
Darpariaeth seibiant (dydd a phreswyl) gydol oes Cafodd ymarfer
ymgysylltu ac ymgynghori eang ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Awst 2023.
Gwnaed y gwaith hwn gan gwmni annibynnol (Practice Solutions Limited) ac ariannwyd y gwaith drwy’r Gronfa Integreiddio
Rhanbarthol. Bu ystod eang o randdeiliaid yn rhan o’r
gwaith, gan gynnwys pobl oedd yn derbyn gofal seibiant a chyfleoedd dydd,
teuluoedd a gofalwyr, sefydliadau darparu gwasanaethau, gweithwyr y cyngor oedd
yn gweithio mewn canolfannau gofal cymdeithasol a chyfleoedd dydd, gweithwyr
iechyd, pobl ag anableddau dysgu, pobl â dementia, plant a phobl ifanc a phobl
oedd ag anghenion cymhleth. Dosbarthwyd arolwg i'r rhai oedd yn defnyddio
gwasanaethau, eu teuluoedd, gofalwyr di-dâl eraill, staff y Cyngor a staff yn y
sefydliadau oedd yn bartneriaid i’r Cyngor. Paratowyd
arolwg ar gyfer y cyhoedd a oedd ar gael ar wefan y Cyngor ac yn ystod y cyfnod
ymgysylltu, cafwyd 205 o ymatebion. Ochr yn ochr â hynny, fe wnaeth Practice
Solutions ymgysylltu â 206 o bobl wyneb yn wyneb ac ar-lein. Cymerodd cyfanswm
o 411 o bobl ran yn yr adolygiad. Ar ôl cwblhau'r ymarferion ymgysylltu a’r
ymarferion pen desg, dadansoddwyd y data a nodwyd y canfyddiadau. O'r
canfyddiadau allweddol hyn datblygwyd nifer o argymhellion, er mwyn i'r Cyngor
eu hystyried. Darparwyd trosolwg o’r canfyddiadau allweddol, yr argymhellion
a’r camau nesaf fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Nodwyd na fyddai’n bosibl parhau i ddarparu gwasanaethau fel y gwnaethant dros yr 20 mlynedd diwethaf o ystyried y cynnydd mewn galw a chymhlethdod. Roedd adolygiad system gyfan o sut roedd gwasanaethau’n cael eu darparu, ac roedd yr holl gyfleoedd ac asedau’n cael eu hystyried er mwyn sicrhau’r budd mwyaf i gymunedau lleol a byddai cynllun cadarn yn cael ei roi ar waith. Roedd llawer o awdurdodau lleol eraill wedi cwblhau taith debyg neu ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cynllun Gweithredu wedi'i ddiweddaru gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar ol 6 mis AGC PDF 292 KB Cofnodion: Rhoddwyd
ystyriaeth i Gynllun Gweithredu Diweddaredig AGC y
gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor amdano 6 mis ar ôl yr arolygiad. Eglurodd
Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal a
Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro ei bod yn fodlon ar
y cynnydd ac er bod rhai meysydd yn arafach nag eraill, roedd hyn oherwydd yr
heriau recriwtio. Yn dilyn penodi Swyddog Sicrhau Ansawdd, roedd cynnydd wedi'i
wneud yn y meysydd hyn hefyd a byddai'r holl gamau gweithredu wedi'u cwblhau
erbyn 31.03.2024. Roedd AGC yn fodlon ar y cynnydd hefyd ac yn gwerthfawrogi’r
ddeialog gyda’r awdurdod lleol. Eglurodd y
Cadeirydd fod Swyddogion wedi dweud y byddai fformat a gosodiad y Cynllun
Gweithredu yn haws ei ddefnyddio pan fyddai'n cael ei gyflwyno eto ymhen 6 mis
arall. Dywedodd y
Cynghorydd Alun Williams ei fod yn fodlon ar yr arolygiad, ond fel bob amser,
roedd yna feysydd i'w gwella a nodwyd gan Swyddogion. Yn dilyn yr arolygiad,
roedd Cynllun Gweithredu wedi'i ddatblygu yn canolbwyntio ar y gwelliannau sydd
eu hangen. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022.2023 PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams Adroddiad Blynyddol
Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/2023. Roedd
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei
ddiffinio yn Rhan 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
o dan y “Cod Ymarfer ar Swyddogaeth y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol”.
Nod yr Adroddiad Blynyddol oedd i greu darlun cyflawn o Adran Gwasanaethau
Cymdeithasol Ceredigion, gan roi adborth amserol ar gyfer prosesau cynllunio a
chyllido. Nodwyd bod
cyfnod o newid wedi bod o ran Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol,
a bu Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal a
Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro yn allweddol yn
ystod y cyfnod hwn ac o ran cynhyrchu'r adroddiad. Eglurodd Audrey
Somerton-Edwards, yn dilyn newid yn y ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchu
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, y
byddai’n ddogfen fwy cryno wrth symud ymlaen. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 1 2023-2024 PDF 589 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 1
2023/2024. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau
bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol.
Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a
ddefnyddiwyd i fesur y canlyniadau ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal a phlant
oedd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys
Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth oedd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod
adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch
effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei
anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod
adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar
y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor
cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn
bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 2 plentyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn
ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd
yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oedd yn, gallai gyfeirio'r
achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod
adolygu yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yr adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o
fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant oedd yn Derbyn Gofal Amlasiantaethol
oedd yn cwrdd bob chwarter; roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a
gweithredu ar berfformiad a materion eraill oedd yn ymwneud â'r maes gwaith
hwn. Roedd yr adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan
Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a
chynhaliwyd y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y Cynghorydd Alun Williams
ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr
adroddiadau. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr
adroddiad a’r lefelau o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol. |
|
Cofnodion: Rhoddwyd
ystyriaeth i gofnodion y Cyd-weithgor Craffu o gyfarfod Cyd-bwyllgor Iechyd a
Gofal Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar 12.09.2023. Nodwyd y bydd Cyd-bwyllgor
Canolbarth Cymru yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn yn y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi’r
cofnodion a’r trefniadau newydd. |
|
Ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor 2023.2024 PDF 140 KB Cofnodion: Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a
gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol: ·
Gweithdy ar Fenter Gwasanaethau
Seibiant a Gwasanaethau Dydd Ceredigion ·
Cytunodd yr Aelodau i estyn
gwahoddiad i Barcud a Thai Wales and West (Mawrth 2024) ·
Eitem ar ddarparu gwasanaethau
cymorth iechyd meddwl yn y sir |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18.09.2023. Materion sy’n codi: Dim. |