Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elaine Evans, Ann Bowen Morgan a Sian Maehrlein
am na fedrent ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Strategaeth Dai 2023-2028 PDF 2 MB Cofnodion: Ystyriwyd fersiwn ddrafft Strategaeth
Dai Leol 2023-2028. O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, roedd gan awdurdodau lleol
swyddogaeth strategol o ran y modd yr oedd y farchnad dai leol yn gweithio. Un
o’r prif ffyrdd yr oeddent yn cyflawni’r swyddogaeth honno oedd drwy greu
Strategaeth Dai Leol. Y nod oedd i’r awdurdod lleol arwain y gwaith o ddatblygu
dull gweithredu ar gyfer tai ymhob sector a sicrhau bod tai priodol a
gwasanaethau cysylltiedig yn cael eu cyflenwi er mwyn bodloni’r anghenion
lleol. Bu’r
Strategaeth Dai Leol bresennol ar waith ers 2018 ac roedd yn gynllun ar gyfer 5
mlynedd. O ystyried hyn, cafodd y Strategaeth Dai ei hadolygu a’i diweddaru.
Roedd Uwch Swyddogion y Tîm Tai, partneriaid allweddol a Rheolwyr Corfforaethol
pob un o’r Pyrth yn rhan o’r adolygiad a gwnaed llawer o waith i gasglu a
dadansoddi data. Roedd
y Strategaeth Dai ddiwygiedig yn amlinellu’r weledigaeth am 5 mlynedd arall: “Bydd digon o lety addas a
chynaliadwy ar gael i fodloni anghenion trigolion y sir yn awr ac yn y
dyfodol”. Yn
dilyn trafodaeth, CYTUNWYD ar y canlynol: (i)
argymell y dylai’r Cabinet gymeradwyo fersiwn ddrafft y strategaeth a dechrau’r
ymgynghoriad ffurfiol ar y strategaeth; a (ii) dylai’r Cabinet ystyried argymhelliad yr Aelodau sy’n
nodi y dylai’r Cabinet ysgrifennu at Ms Elin Jones, Aelod Etholaeth yn Senedd
Cymru, a’r pedwar Aelod Rhanbarthol yn Senedd Cymru, i fynegi pryder nad oedd
yn bosib darparu digon o dai i ddiwallu’r anghenion yng Ngheredigion gan fod y
Rheoliadau Cynefinoedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol
ystyried effaith datblygiadau arfaethedig ar ffosffadau ac ansawdd y dŵr o
fewn dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Roedd hyn yn cael
effaith sylweddol ar yr argyfwng tai presennol a dylid ystyried y mater. ft Local Housing Strategy 2023- |
|
Cofnodion: Ystyriwyd
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/2021
a 2021/2022. Diffiniwyd y ddyletswydd i lunio Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr
Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Rhan 8 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014 o dan y ‘Cod Ymarfer ar Rôl Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau
Cymdeithasol’. Bu
oedi wrth gwblhau’r adroddiadau yn ystod yr argyfwng COVID-19. Adroddwyd na
fyddai rheswm dros oedi wrth gynhyrchu a chyhoeddi’r adroddiad ar gyfer y
flwyddyn bresennol. Yn
dilyn cwestiynau o’r llawr, cytunwyd i argymell y dylai’r Cyngor dderbyn yr
adroddiad er gwybodaeth. Diolchodd
yr Aelodau i’r Swyddogion am eu gwaith caled ac ymroddiad yn ystod cyfnod
anodd. |
|
Cyflwyno i'r Pwyllgor ddiweddariad ar Wasanaeth Therapi Galwedigaethol Porth Gofal PDF 287 KB Cofnodion: Roedd gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol
niferoedd uchel o bobl ar y rhestr aros ac roedd y niferoedd hyn wedi cynyddu
yn sgil y cyfyngiadau COVID gan mai ymweliadau brys a gynhaliwyd yn unig yn
ystod y cyfyngiadau. Gan na lwyddwyd i recriwtio i lanw swyddi gwag am gyfnod
hir, nid oedd y gwasanaeth yn gallu lleihau’r rhestr aros. Yn ogystal, roedd
rhywfaint o salwch hirdymor yn y gwasanaeth ac roedd yr unig Therapydd
Galwedigaethol llawn amser newydd ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod
mamolaeth. Adroddwyd mai’r heriau i’r gwasanaeth
ar y pryd oedd fel a ganlyn:- 1) Recriwtio Therapyddion Galwedigaethol
cymwys – roedd hysbyseb ar gyfer 2 swydd Therapydd Galwedigaethol lawn amser
wedi bod allan ers bron i flwyddyn heb unrhyw ymgeiswyr. 2) Roedd y Gwasanaeth Therapi
Galwedigaethol Integredig yn arwain ar bryderon am y gallu i reoli’r tîm
oherwydd mynediad i TG a’r adnoddau oedd ar gael. Ar y pryd roedd y galw am y
gwasanaeth yn fwy na’r hyn yr oeddent yn medru ei ddarparu ac o’r herwydd
roeddent wedi camu nôl o reolaeth weithredol i ddarparu cyfarwyddyd clinigol yn
unig. Roedd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn cael ei reoli’n weithredol
gan Reolwr Brysbennu Integredig Porth Gofal a oedd yn Weithiwr Cymdeithasol. 3) Roedd 2 Uwch Ymarferydd wedi rhoi
rhybudd eu bod yn gadael eu swyddi. Roedd 1 wedi ymddeol ar 18.5.2022. Roedd y
llall yn gweithio o bell ac wedi’i leoli y tu allan i Geredigion, ac roedd ar
rybudd estynedig tan 31/3/23. 4) Ni chafwyd unrhyw ymgeiswyr ar gyfer
hysbyseb diweddar am 2 uwch ymarferydd (ers y mis Mai blaenorol). Ar y pryd,
roedd y swydd wag yn cael ei rheoli gan weithiwr asiantaeth tra bo’r uwch
ymarferydd arall yn gweithio cyfnod rhybudd estynedig. 5) Roedd risg y byddai’r rhestr aros yn
parhau i gynyddu, gan arwain at fwy o risg oherwydd yr oedi pellach ac wrth i
sefyllfaoedd waethygu ar gyfer unigolion a theuluoedd. 6) Cynnydd yn yr angen am ofal a
chymorth yn sgil oedi yn yr ymyrraeth ataliol a oedd ar gael gan y Gwasanaeth
Therapi Galwedigaethol. 7) Cynnydd yn nifer y cwynion a diffyg
ffydd yn y gwasanaeth wrth i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd deimlo’n
rhwystredig gyda’r oedi a’r ffaith nad oedd datrysiad nac amserlen i fynd i’r
afael â’r problemau. O ran y penderfyniad i ddefnyddio asiantaeth allanol i gynorthwyo gyda’r rhestr aros, ni fu hyn mor llwyddiannus â’r disgwyl oherwydd cafodd yr asiantaeth drafferthion wrth geisio cael gafael ar Therapyddion Galwedigaethol a oedd yn medru teithio i Geredigion. Dim ond 34 asesiad a gwblhawyd mewn cyfnod o 4 mis a chodwyd pryderon am ansawdd y gwaith felly terfynwyd y contract. Roedd y gwasanaeth wrthi’n trafod ag asiantaeth arall yn Ne Cymru a oedd wedi dweud y byddent yn fodlon darparu nifer o Therapyddion Galwedigaethol er mwyn cefnogi’r gwasanaeth i leihau’r rhestr aros a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3, 2022/2023 PDF 859 KB Cofnodion: Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch Adroddiad
Rheoli Perfformiad y Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer Chwarter 3 2022/2023. Roedd
yr adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gwaith monitro a sicrhau ansawdd
mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal a adolygwyd yn ystod trydydd
chwarter 2022/23. Roedd y wybodaeth hon yn cynorthwyo’r Aelodau i gyflawni eu
swyddogaethau fel Rhieni Corfforaethol. Sail y wybodaeth oedd y ffurflenni
monitro a gwblhawyd gan y Swyddogion Adolygu Annibynnol yn dilyn pob Adolygiad
Statudol o Blant sy’n Derbyn Gofal yn ogystal â’r wybodaeth arall yr oedd y
Gwasanaethau Plant yn ei chasglu am berfformiad. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddiwyd i fesur canlyniadau
ar gyfer plant sy’n derbyn gofal adeg eu hadolygiad statudol, gan gynnwys
Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru a Thargedau Perfformiad Lleol. Ar
sail y wybodaeth a oedd ar gael a’r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu
plant sy’n derbyn gofal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn llunio barn
broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd Cynllun Gofal y plentyn / person ifanc o
ran bodloni ei anghenion, a gallai argymell newidiadau i’r Cynllun Gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu
roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar y
plentyn / person ifanc i nodi pobl eraill berthnasol er mwyn cael cyngor
cyfreithiol / cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o’r
farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 1 person ifanc yn ystod y cyfnod dan
sylw. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a fu unrhyw
dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn / person ifanc, ac os felly, gallai
gyfeirio’r achos i CAFCASS. Ni chododd yr angen i gymryd y cam hwn mewn unrhyw
adolygiad. CRYNODEB O’R PRIF BWYNTIAU:
|
|
Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Gorllewin Cymru PDF 2 MB Cofnodion: Roedd yr holl ddeddfwriaeth ddiweddar o
ran iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod bod eiriolaeth yn sylfaenol bwysig
mewn sefyllfaoedd pan fo angen i unigolion a grwpiau a oedd ar y cyrion gael
cefnogaeth i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u hawliau’n cael eu
parchu. Roedd eiriolaeth yn cael ei chynllunio a’i chyflwyno er mwyn annog
unigolion a grwpiau i gymryd rhan yn y penderfyniadau a’r prosesau a oedd yn
effeithio ar eu bywydau. Er nad oedd yn ofyniad statudol, roedd y
Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol yn ceisio llunio ein trefniadau
comisiynu i fodloni’r gofynion cyfreithiol er mwyn sicrhau bod eiriolaeth o
ansawdd da ar gael yn rhwydd i bawb sydd ei heisiau, neu sydd ei hangen, yn
rhanbarth Gorllewin Cymru, sef Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Roedd y strategaeth hon yn seiliedig ar
gyfnod estynedig o ymgysylltu â dinasyddion, yn enwedig felly’r rheiny a oedd
yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau
eiriolaeth, ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, comisiynwyr statudol a
rhanddeiliaid perthnasol eraill. Roedd gan y Strategaeth Eiriolaeth
Oedolion hon bum maes blaenoriaeth, ac roedd pob un ohonynt yn anelu at wella’r
canlyniadau ar gyfer y bobl a oedd angen eiriolaeth. Cafodd y blaenoriaethau eu
diffinio yng ngoleuni gweithgarwch cydgynhyrchu hyd
yn hyn, ymgysylltu, yr Asesiad Poblogaeth Rhanbarthol ac roeddent yn ymateb i’r
gofynion deddfwriaethol. Roeddent yn cynnwys y canlynol: • Blaenoriaeth
1. Cynnal a datblygu ein dull cydgynhyrchu ymhellach.
• Blaenoriaeth
2. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o eiriolaeth. • Blaenoriaeth
3. Gofalu bod eiriolaeth ar gael yn hwylus ac i bawb. • Blaenoriaeth
4. Gofalu bod safon eiriolaeth yn gyson uchel. • Blaenoriaeth 5. Cynnal arbenigeddau a
mathau anstatudol o eiriolaeth. Roedd pob
blaenoriaeth yn y strategaeth yn amlinellu pam yr oedd yn bwysig a beth oedd y
sefyllfa bresennol yng Ngorllewin Cymru. Yn dilyn hyn, roedd pob blaenoriaeth
yn amlinellu’r camau yr oedd angen eu cymryd i sicrhau bod pob un o’r meysydd
blaenoriaeth yn cael eu bodloni. CYTUNWYD i gymeradwyo Strategaeth
Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol Gorllewin Cymru fel y’i cyflwynwyd. |
|
Cofnodion cyfarfod mwyaf diweddar y Pwyllgor ac unrhyw faterion yn codi ohonynt PDF 136 KB Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2023. Materion yn codi Dim. |
|
I gonsidro'r Blaenraglen Waith PDF 170 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi
cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd. |