Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Mark Strong am nad oedd yn
gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet am
nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y
Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet dros
Gydol Oed a Llesiant) fod y Strategaeth Dementia Ranbarthol wedi’i datblygu gan
Grŵp Llywio Dementia Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Mae
Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn dod â sefydliadau o’r sector statudol, y
trydydd sector a’r sector annibynnol at ei gilydd gyda’r cylch gwaith o
integreiddio a thrawsnewid iechyd, gofal a chymorth yn y rhanbarth. Roedd
cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei reoli drwy’r Grŵp
Llywio Dementia a byddai’n allweddol i gyflawni blaenoriaethau y cytunwyd
arnynt o fewn y Strategaeth. Nododd Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a
gyflwynwyd yn ddiweddar yn y Cabinet fod cynnydd yn nifer y bobl 80+ oed
oherwydd bod y genhedlaeth a aned ar ôl yr ail ryfel byd yn cyrraedd yr oedran
hwn ac felly byddai'r strategaeth hon yn allweddol wrth symud ymlaen. Rhoddwyd
trosolwg o Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i’r
pwyllgor, gan gyfeirio at y ddarpariaeth ar hyn o bryd, arferion gorau, adborth
o gyfweliadau strwythuredig â rhanddeiliaid a gofalwyr a’r dull o weithredu’r
llwybr llesiant dementia. Cyfeiriodd Donna Pritchard at y Camau Nesaf o safbwynt
rhanbarthol a sirol. Yn rhanbarthol, roedd 6 ffrwd waith wedi'u nodi a oedd yn
cynnwys Ymgysylltu â'r Gymuned, Ysbytai a Hyfforddiant a Recriwtio. Roedd
cynrychiolaeth o'r awdurdod lleol ar bob ffrwd waith. Nodwyd y byddai
cysylltwyr llesiant yn gweithio yn y gymuned ac yn gweithio’n agos gyda Phorth
Cymorth Cynnar. Roedd yr awdurdod lleol wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth
Cymru i gomisiynu ymgynghorwyr i gefnogi datblygu cynllun i gyflawni'r
canlyniadau allweddol a nodir yn y strategaeth. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Donna Pritchard. Dyma'r prif bwyntiau a
godwyd: · Croesawodd yr aelodau'r papur gan nodi ei bod yn
allweddol sicrhau bod aelodau'r gymuned yn cael y gofal gorau. · O ystyried yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, codwyd
pryderon ynghylch sut y byddai'r strategaeth yn cael ei gweithredu. Nodwyd bod
mapio gwasanaethau'n fanwl yn hanfodol i ddeall pa ddarpariaeth sydd eisoes yn
ei lle yn y sir ac a ydynt yn parhau i fod yn addas i'r diben. Roedd ffocws
rhanbarthol ar hyn o bryd, ond roedd yr awdurdod lleol yn y broses o ddatblygu
manyleb gwasanaeth, a fyddai'n cael ei chwblhau erbyn 31.03.23 gobeithio. Yn
dilyn hyn, byddai'r gwaith yn gallu symud ymlaen ar lefel sirol. · Teimlai'r aelodau'n gryf fod canolfannau dydd yr
effeithiwyd arnynt yn ddifrifol gan Covid-19 yn achubiaeth i bobl a oedd yn
gofalu am anwyliaid. Roedd diffyg deunyddiau wedi effeithio ar waith sy'n cael
ei wneud ar hyn o bryd yng Nghanolfan Padarn, Canolfan Meugan
a Hafod. Ar hyn o bryd, nid oedd amserlen i ail-agor yr adeiladau. Rhoddwyd
sicrwydd bod pawb sy'n cael cymorth gan staff y canolfannau yn parhau i gael
cymorth. · Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud ag a oedd digon o leoedd yng nghartrefi gofal preswyl y sir ar gyfer gofal dementia a gofal seibiant, nodwyd bod cartrefi yn rheoli pobl ag anghenion llawer mwy cymhleth nag ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
ADRODDIAD RHEOLI PERFFORMIAD Y GWASANAETH ADOLYGU ANNIBYNNOL CHWARTER 4 2021 – 2022 Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Lles)
adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2021/2022. Caiff
adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod
Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r
targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant
sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac
mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth
sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog
Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y
plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r
cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn
ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol
i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu
Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn
ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn
ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc
ac, os oes, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i
wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau
Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol sy'n
cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar
berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau
hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta
Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter.
Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau
Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau
a gafodd eu hateb gan Elizabeth Upcott a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r
prif bwyntiau a godwyd: · Nid oedd darpariaeth breswyl mamau a babanod yn y sir ac
felly os oedd angen asesiad, roedd yn rhaid iddynt fynd allan o'r sir. Yn
ogystal, roedd rhai lleoliadau y tu allan i'r sir oherwydd lleoliadau gofalwyr
maeth tra bod eraill oherwydd lleoliadau arbenigol nad oeddent ar gael yn y
sir. ·
Roedd proses i'w dilyn
pan fynegodd y cyhoedd ddiddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth a oedd yn cynnwys
asesiadau a chyfweliadau a allai gymryd hyd at chwe mis. Roedd ymgyrchoedd
recriwtio parhaus yn genedlaethol oherwydd prinder gofalwyr maeth. Roedd
gofalwyr maeth yn gweithio naill ai i awdurdodau lleol neu i asiantaethau. ·
Cyfeiriwyd at iaith y
lleoliad ac anghenion iaith gyntaf y plentyn a nodwyd ar dudalen 6 Adroddiad
Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. · Nodwyd bod cost lleoliadau y tu allan i'r sir yn amrywio, yn dibynnu ar anghenion plant a phobl ifanc. Gallai lleoliadau y tu allan i'r sir fod yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer Cofnodion: Esboniodd
Heddwyn Evans mai pwrpas yr adroddiad oedd i gyflwyno canfyddiadau Adroddiad
Diweddaru ar Ansawdd Aer 2022, yn unol â Rhan IV Deddf Amgylchedd 1997 Rheoli Ansawdd
Aer Lleol. O ran dyletswyddau monitro statudol a roddwyd ar Gyngor Sir
Ceredigion, mae gofyniad i adrodd ar Nitrogen Deuocsid (NO2) a
Deunydd Gronynnol (PM10) yn flynyddol. Mae llygryddion eraill a
nodwyd yn y rheoliadau wedi eu heithrio o ofynion adrodd mandadol oni
bai fod tystiolaeth o broblem yn lleol fydd angen mynd i’r afael a ef. Yn sgil
lleoliad gwledig Ceredigion a diffyg diwydiannau trwm nid oes gorfodiant o ran
llygryddion sydd wedi eu heithrio o adrodd mandadol yn berthnasol i’r awdurdod.
Trwy ddefnyddio tiwbiau tryledu, roedd 11 o
safleoedd yn cael eu monitro ar hyn o bryd yng Ngheredigion ar gyfer NO2.
Pe bai lefelau NO2 yn cyrraedd nod cymedrig blynyddol o
40μg/m3, byddai Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol yn cael ei datgan. O
ran PM10, gall achosi problemau iechyd niweidiol, fodd bynnag mae
monitro PM10 wedi bod yn gyson dda yng Ngheredigion. Oherwydd cyfyngiadau a blaenoriaethau gwahanol yn ystod
pandemig Covid-19, rhoddwyd y gorau dros dro i samplu a dyna pam y ceir 6 mis o
adrodd yn yr adroddiad. O safbwynt Sicrhau Ansawdd a Rheoli Ansawdd,
defnyddiwyd Ffactorau Addasu Tuedd Tiwbiau Tryledu ar y daenlen a roddwyd gan
DEFRA i addasu mesuriadau, er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n gyson ar draws y
sir. Cyfeiriwyd at y tueddiadau mewn crynodiadau NO2 cymedrig
blynyddol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf o fonitro a gynhwyswyd yn yr adroddiad.
Amlygwyd y bu gostyngiad yn genedlaethol y llynedd oherwydd llai o draffig yn
ystod y pandemig. Amlygwyd bod llygredd aer yng Ngheredigion yr ail isaf yng
Nghymru. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Heddwyn Evans, Elis Gwyn a Carwen Evans.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: ·
Nodwyd nad oedd yn
ofynnol i'r awdurdod lleol fonitro amonia na methan. ·
Codwyd cwestiynau
ynghylch a ddylid monitro ym mhob tref yn y sir; eglurwyd bod swyddogion yn
mynd ati i werthuso safleoedd i sicrhau bod yr ardaloedd mwyaf effeithiol yn
cael eu mesur. · O ran adnoddau, nodwyd nad oedd y tiwbiau tryledu yn
ddrud, ond nid y gwaith dan sylw oedd y defnydd gorau o amser staff bob amser.
Gan fod pob tref yn dref glyfar, awgrymwyd y gellid ystyried synwyryddion i
ddarparu monitro dangosol wrth symud ymlaen. · Mewn ymateb i sylwadau aelod, nodwyd bod camau
deddfwriaethol priodol yn cael eu cymryd i ymdrin â llygryddion ac wrth i
risgiau a dealltwriaeth ddatblygu, bod addasiadau’n cael eu gwneud i’r
ddeddfwriaeth. Amlygodd y Cadeirydd bwysigrwydd cyfleu llwyddiant y sir
i’r cyhoedd mewn datganiad i’r wasg. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr
adroddiad ac argymhellir i’r Cabinet y dylai’r adroddiad gael ei gyhoeddi ar
wefan y Cyngor a’i gyflwyno i DEFRA yn unol â gofynion statudol. |
|
Blaenraglen Waith Ddrafft 2022-2023 Cofnodion: Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar
gynnwys y canlynol: · Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r
Cadeirydd/Is-gadeirydd a'r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol perthnasol i
drafod y Blaengynllun Gwaith ar 09.11.22. · Cytunodd yr aelodau i drefnu cyfarfod arbennig ar
23.01.22. Byddai diweddariad ar Covid-19 yn cael ei roi ac mae CAMHS wedi’u
gwahodd i fynychu’r cyfarfod. ·
Diweddariad ar y
‘Rhaglen Gydol Oed a Llesiant’ ·
Adroddiad ar Arolygiad o
Safleoedd Bwyd (ar ôl Ebrill 2023) ·
Diweddariad ar Ofal
Cartref (Gwasanaethau Dementia/Cartrefi Gofal Preswyl) (Ebrill 2023) · Diweddariad ar Wasanaethau Dydd yn y Sir (Adroddiad
interim Ionawr 2023 / adroddiad llawn Ebrill 2023) · Therapi Galwedigaethol yn rhoi gwaith ar gontract
allanol – costau a goblygiadau costau Eglurodd y Cadeirydd fod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu
wedi gwahodd aelodau'r pwyllgor i'w cyfarfod ar 08.12.22 i drafod adroddiad ar
awtistiaeth a'r gwasanaethau sy'n ymwneud â hyn. |
|
I gonsidro cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf
2022. Materion sy’n codi: Dim. |