Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd
Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd am eu
hanallu i fynychu am ei bod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ar unrhyw faterion sy'n codi PDF 103 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD
cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2024. Materion sy’n
codi Eitem 4: Dywedwyd bod y Cyngor wedi dechrau
darlledu cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu ym mis Mai 2024. Eitem 5: Nodwyd bod argymhelliad wedi’i anfon at
Swyddogion y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn gofyn iddynt ystyried materion yn
ymwneud â’r amser a ganiateir i Gynghorwyr sy’n cynrychioli wardiau Aml-Aelod i
siarad, ac ychwanegwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith yr
oedd y grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ei wneud wrth adolygu’r gweithdrefnau
gweithredol. Hefyd, nodwyd bod y Protocolau ar gyfer Cynghorwyr sy’n
cynrychioli wardiau Aml-Aelod wedi’u dosbarthu i’r Aelodau perthnasol. Eitem 8: Nodwyd bod y Canllaw i Gynghorwyr
ynghylch Llesiant a Diogelwch Personol wedi’i ddosbarthu i’r holl Aelodau. Eitem 9: Nodwyd bod y canllawiau i Gadeiryddion /
Is-gadeiryddion ynghylch gohirio, atal neu derfynu cyfarfodydd wedi’u dosbarthu i’r
holl Aelodau perthnasol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Elin
Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Llywodraethu yr adroddiad i’r Pwyllgor gan amlinellu’r cefndir a’r ystyriaethau
a roddwyd i’r newidiadau arfaethedig yn y Cyfansoddiad. Roedd y newidiadau hyn
wedi’u nodi yn Atodiad 1. Dywedodd y
Swyddog Arweiniol Corfforaethol nad oedd modd cynnal cyfarfodydd Cabinet mewn
person am gyfnod byr pan ddechreuodd yr argyfwng Covid
a bod Cofnodion o’r Hysbysiadau ynghylch Penderfyniadau Brys a lofnodwyd gan yr
Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd ar y pryd hwnnw wedi cael eu cyhoeddi ar wefan
y Cyngor. Yn dilyn hynny, ystyriwyd bod angen adolygu
Rheolau Gweithdrefn y Cabinet er mwyn
cryfhau proses ddirprwyo’r Cabinet pan fo argyfwng, a oedd wedi’i nodi yn y
Cyfansoddiad. Cafodd gwelliant arfaethedig ei lunio a’i ystyried
gan Weithgor y Cyfansoddiad, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cabinet, Arweinwyr
y Grwpiau a’r Grŵp Arweiniol. Yn dilyn
trafodaeth, dywedodd yr Aelodau fod y testun drafft yn nodi’n glir y
gwahaniaeth rhwng y mandad gwleidyddol sydd ynghlwm wrth benderfyniadau a wneir
gan y weithrediaeth, a’r agweddau gweithredol wrth
ymateb ar frys i’r hyn sy’n dod o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad, ac argymell
i’r Cyngor gymeradwyo’r ychwanegiad i’r testun yn Atodiad 1. |
|
I ystyried adroddiad ar Gyhoeddiadau'r Cadeirydd - Pwyllgorau eraill PDF 63 KB Cofnodion: Cyflwynodd Nia
Jones, Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r
Pwyllgor gan nodi bod y Cyngor ar 14 Rhagfyr 2023, drwy bleidlais y mwyafrif,
wedi cymeradwyo’r cynnig gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i gyflwyno
‘Cyhoeddiadau’r Cadeirydd’ yn lle ‘Materion Personol’ ar agenda’r Cyngor. Yn ystod cyfarfod
o’r Cabinet wedi hynny, gofynnodd yr Aelodau a ddylai’r newid hwn gael ei
ymestyn i gynnwys pob Pwyllgor. Nododd y Rheolwr Corfforaethol mai diben yr
adroddiad hwn oedd hwyluso trafodaeth a chasglu barn Aelodau Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd. Nododd yr Aelodau
fod anghysondeb ar hyn o bryd rhwng y pwyllgorau ac y dylid sicrhau bod pob un
ohonynt yn gwneud yr un peth. Bu iddynt nodi mai’r Cyngor yw’r fforwm priodol
ar gyfer pob cyhoeddiad, ac y dylid annog yr Aelodau i gyfleu eu negeseuon drwy
Gadeirydd y Cyngor ac osgoi unrhyw ddyblygu a allai godi o gyhoeddi’r negeseuon
hyn hefyd yng nghyfarfodydd y pwyllgorau eraill. Fodd bynnag, gwnaethant nodi
nad oeddent yn dymuno atal yr Aelodau
rhag cyflwyno eitemau brys i Gadeiryddion pwyllgorau eraill eu hystyried, er
enghraifft, os byddai rhywun yn dymuno estyn eu cydymdeimlad ag eraill yn dilyn
marwolaeth. Dywedodd y
Cynghorydd Elizabeth Evans fod gan Gadeiryddion pwyllgorau ddisgresiwn o ran y
cyhoeddiadau, a chytunodd pob Aelod y dylai’r Cynghorwyr hysbysu’r Cadeiryddion
cyn y cyfarfodydd am unrhyw faterion brys y byddent yn dymuno eu cynnwys, fel
sy’n digwydd cyn cyfarfodydd y Cyngor. Yn dilyn
trafodaeth, PENDERFYNWYD argymell y canlynol i’r Cyngor: -
Bod y protocol ar gyfer
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd hefyd yn cael ei
ddefnyddio gan y Cabinet a phob un o’r Pwyllgorau eraill, bod y
Cadeiryddion perthnasol yn medru defnyddio eu disgresiwn eu hunain lle bo
amgylchiadau eithriadol, a bod y Cadeiryddion yn cael eu hysbysu o’r holl
gyhoeddiadau cyn y cyfarfod. |
|
I ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 4 MB Cofnodion: Cyflwynodd Nia
Jones, Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r
Pwyllgor, gan nodi, yn amodol ar sylwadau Aelodau’r pwyllgor, y byddai’r
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 18 Gorffennaf 2024. Diolchodd yr
Aelodau i’r Swyddogion am baratoi Adroddiad Blynyddol a oedd yn ddeniadol ac yn
hawdd ei ddarllen. Hefyd, diolchodd y Cynghorydd Elizabeth Evans i Aelodau’r
Pwyllgor am eu holl waith caled yn ystod y flwyddyn a oedd wedi cyfrannu at yr
hyn oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn. |
|
I ystyried eitemau ar y flaenraglen Cofnodion: Bydd adroddiad ar
ganllawiau i Aelodau sy’n cynrychioli Cyrff Allanol yn cael ei gyflwyno yn y
cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyn'ar Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |