Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 17eg Mehefin, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elizabeth Evans, Caryl Roberts a Mark Strong am eu hanallu i fod yn y cyfarfod.  

 

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

Cadarnhau Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi pdf eicon PDF 202 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022 yn rhai cywir.  

 

Materion yn codi

Eitem 4 – nodwyd y bydd y cyfarpar TGCh sy’n cael ei ddarparu i Aelodau yn cael ei adolygu mewn cyfarfod diweddarach; 

Eitem14 – nodwyd bod ‘CLIC-fersiwn2’ wedi ei gyflwyno erbyn hyn a bod nodiadau canllaw wedi eu darparu ar gyfer pob Aelod.

 

4.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y Cylch Gorchwyl a amlinellai swyddogaethau’r Pwyllgor.

5.

Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2022/23 - materion a gyfeiriwyd gan y Cyngor i'w hystyried pdf eicon PDF 356 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor, yn nodi bod y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2022/23 wedi ei chymeradwyo gan y Cyngor ar 20 Mai 2022 ac eithrio pwyntiau bwled 6 a 7 ym mharagraff 8 yr adroddiad eglurhaol sy’n ymwneud â phresenoldeb rhithiol Cynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Pwyllgor a sicrhau hawl o flaen llaw i fynd i gynadleddau, seminarau, cyfarfodydd allanol a digwyddiadau hyfforddi; a pharagraff 15.1 y Rhestr sy’n ymwneud â sicrhau hawl o flaen llaw i aros dros nos.  Cafodd y materion uchod eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd eu hystyried. 

 

Nodwyd bod y Cyngor wedi buddsoddi mewn cyfarpar i hwyluso presenoldeb rhithiol, gan roi cam 1 ar waith yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac y byddai cam 2 yn cynnwys ap a fyddai’n gwneud y system yn fwy effeithiol, ac yn goresgyn problemau technegol cynnar. 

 

Yn ystod cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021, ymrwymodd y Cyngor i fod yn Gyngor Amrywiol.  Mae’r hyblygrwydd a gynigir gan bresenoldeb rhithiol yn hwyluso hynny i ystod ehangach o Aelodau.   Cafodd hyn ei hyrwyddo o fewn Llyfryn Gwybodaeth i Ymgeiswyr sydd wedi bod o fudd i nifer o Gynghorwyr. 

 

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo hefyd i leihau ei ôl troed carbon.  Bydd y ffaith bod llai o deithio’n digwydd yn gymorth i sicrhau hyn. Nodwyd hefyd y bydd arbedion ariannol o ganlyniad i lai o deithio.  

 

Nodwyd bod paragraff 15.1 y Rhestr wedi bod ar waith er 2017 er mwyn sicrhau gwerth am arian drwy’r gwasanaethau caffael yn yr achosion hynny lle bo cyfiawnhad dros deithio.

 

Pwysleisiodd aelodau pa mor bwysig oedd arwain drwy esiampl, gan nodi mai cyfarfodydd hybrid yw’r ffordd ymlaen ac y dylid annog llai o deithio, fodd bynnag roedd pryderon y byddai hi’n anodd i aelodau newydd ddod i adnabod ei gilydd ac adeiladu perthynas â’i gilydd heb iddynt fod yn eistedd o amgylch bwrdd gyda’i gilydd.  Nodwyd bod Aelodau’r Senedd fel rheol yn bresennol mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, fodd bynnag byddai llai o amser teithio yn golygu y gallai aelodau dreulio mwy o amser yn eu hetholaethau unigol.  Nodwyd hefyd fod lle i wella materion technegol o ran sicrhau nad yw Aelodau’n colli cysylltiad â chyfarfodydd oherwydd nad yw lled y band yn ddigon eang a materion technegol eraill.  Nododd Aelodau hefyd y byddent o bosibl am fynychu cyfarfodydd pwyllgorau nad ydynt yn aelodau ohonynt er mwyn cael darlun llawnach o faterion oedd yn effeithio ar eu hetholwyr. 

 

Cadarnhaodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, y byddai Aelodau yn gallu bod yn bresennol yn rhithiol mewn cyfarfodydd o’r fath, fodd bynnag, ni fyddent yn gymwys i hawlio costau teithio ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau nad ydynt yn aelodau ohonynt, oherwydd y dulliau eraill posibl sydd ar gael erbyn hyn o ymuno â chyfarfodydd.    Mae gweithwyr y Cyngor eisoes wedi eu herio i ddynodi arbedion yn y maes hwn, er mwyn gallu  canolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen. 

 

Nododd nifer o Aelodau nad ydynt yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad ar brotocolau presenoldeb o bell a gwe-ddarlledu cyfarfodydd pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud a chyhoeddi trefniadau ynghylch cyfarfodydd hybrid a gweddarlledu trafodaethau. 

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddogfen ganllaw ynghylch yr uchod, ac os byddai unrhyw newidiadau yn sgil yr ymgynghoriad, yna byddent yn cael eu cyfathrebu drwy’r sianeli priodol. Yn ogystal, mae disgwyl i’r protocolau gael eu diweddaru o ganlyniad i gam 2 yn y broses o osod y system hybrid.  

Gofynnodd Aelodau i’r Swyddog Monitro a fyddai angen diwygio Rheolau Sefydlog y Cyngor a chadarnhawyd na fyddai angen gwneud hyn, gan fod y protocolau yn adlewyrchu arferion presennol o ran presenoldeb wyneb yn wyneb neu o bell.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r protocolau, fel y’u nodir yn Atodiad A.

 

7.

Rhaglen Flaen ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 6 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022-23, gan nodi y bydd cyfleoedd i Aelodau ddylanwadu ar gynnwys y rhaglen yn ystod gweddill y flwyddyn fwrdeistrefol drwy Gadeirydd y Pwyllgor. 

8.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.