Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 24ain Mawrth, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

3.

I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2022 yn rhai cywir.

 

Nid oedd materion yn codi.

 

4.

Adroddiad ar arolwg Aelodau o ran gofynion TGCh pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor gan nodi y derbyniwyd 15 o ymatebion, sy’n cyfateb i 39% o holl Aelodau.   Nodwyd yr aed i’r afael â phob cais am hyfforddiant ychwanegol ac ystyriwyd sylwadau am gyfarpar ychwanegol.

 

Nodwyd siom gan Aelod taw dim ond 15 o aelodau wnaeth ymateb i’r arolwg, yn ogystal a siom taw’r angen am 4G pan oeddent yn gweithio oddi cartref neu o’r swyddfa a’r angen am ail rif ffôn i rannu bywyd gwaith a chartref oedd y prif ymatebion.

 

Bu i Aelodau nodi fod lwfans misol o £10 ar gael os hoffent fod yn rhan ohono, a’i fod yn bosib prynu Dongle 4G am £11, a rhif ffôn gyda chontract am oddeutu £7.40 y mis a fydd yn medru mynd i’r afael â’u pryderon.

 

Roedd Aelodau o’r farn y dylai darpariaeth TGCh gael ei hadolygu cyn yr etholiadau nesaf er mwyn sicrhau y cyflawnir anghenion Cynghorwyr gan ystyried gwelliannau technolegol yn y dyfodol.

 

NODWYD yr Adroddiad gan y Pwyllgor.

 

5.

Adroddiad ar arolwg Aelodau am amseriad cyfarfodydd pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor gan Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol yn nodi ei fod yn ofyniad statudol i gynnal arolwg ar amseriad cyfarfodydd a pha mor aml y dylid eu cynnal gan fod y bydd angen ystyried anghenion ac amgylchiadau holl Aelodau.

 

Nodwyd bod 25 Aelod wedi ymateb i’r adroddiad a’i fod yn glir bod y mwyafrif yn ffafrio dydd Iau, Dydd Mawrth a dydd Mercher, yn y drefn yma ar gyfer mynychu cyfarfodydd.  Dydd Gwener a dydd Llun oedd y diwrnodau na ffafriwyd fwyaf.  Nodwyd cyn COVID-19, yr amser arferol i ddechrau cyfarfodydd oedd 9.30am fodd bynnag roedd y mwyafrif o’r sawl wnaeth ymateb wedi nodi y byddai’n well ganddynt parhau i ddechrau am 10.00am ar gyfer yr holl gyfarfodydd a chyfarfod y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Trwyddedu ar hyn o bryd yn dechrau am 9.30am ac y bydd bellach angen iddynt newid i fod yn unol â’r cyfarfodydd eraill.  Nodwyd ganddi hefyd y bydd dechrau cyfarfodydd y prynhawn am 1.30pm yn amser gwell am y byddai’n gwella trefniadau gofal plant i’r rheiny sydd â’r cyfrifoldeb hynny.

 

Caiff adroddiad ei gyflwyno i’r Cyngor yn amlinellu canfyddiadau’r arolwg a’r argymhellion o ran amseriad y cyfarfodydd.

6.

Adroddiad ar Arolwg Arfarnu Blynyddol Aelodau pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor yn nodi ei fod yn ofyniad statudol i ddarparu Arolwg Arfarnu blynyddol o hyfforddiant ac anghenion datblygu Aelodau.  Nodwyd fod 8 Aelod wedi ymateb i’r arolwg, ac edrychir ar hyn o bryd ar feysydd a glustnodwyd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad pellach.  Bydd yr unigolion yma felly yn cael cynnig cyfle i gael cyfweliad gydag unigolyn sydd ym marn yr awdurdod yn meddu ar cymwysterau perthnasol i ddarparu cyngor am anghenion hyfforddiant a datblygu yr Aelod dan sylw.

 

Nodwyd gan Aelodau fod nifer yr ymatebion yn isel, ac argymhellwyd y dylid copi hyn gydag Arweinwyr y pleidiau.

 

NODWYD yr Adroddiad gan y Pwyllgor.

7.

Adroddiad ar Restr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2023/24 pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor yn nodi nad oedd newidiadau sylweddol i Restr Cydnabyddiaeth Ariannol 2023-24.   Dywedodd y bydd y cyfog sylfaenol i aelodau etholedig yn cynyddu o £16,800 i £17,600, gan bwysleisio nad oes gan y Cyngor unrhyw ddisgresiwn ar y lefelau a osodwyd gan y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol.  Bydd unrhyw Aelodau Unigol a hoffai wrthod y cynnydd mewn cyflog gyfleu’r bwriad hynny’n ysgrifenedig, fodd bynnag ni all y Cyngor yn ei gyfanrwydd na grŵp o Gynghorwyr wneud hynny. 

 

Mae elfennau dewisol i’r adroddiad. Nodwyd nad oedd unrhyw argymhellion fyddai’n galluogi Cynghorwyr i hawlio am gostau teithio ar gyfer gwaith o fewn eu wardiau; nac ychwaith argymhellion am y lwfans teithio, aros dros na a lwfans parcio car fydd yn parhau yr un fath â 2022/23.  Bydd y gallu i ddewis derbyn y lwfans misol o £10 ar gyfer galwadau ffôn, band llydan ac unrhyw gostau postio yn parhau yr un fath; ac argymhellir fod yr uchafswm o 10 diwrnod llawn ar gyfer pob Pwyllgor y bydd Aelodau Cyfetholedig yn eistedd arno’n parhau.

 

Nodwyd fod hon yn flwyddyn eithriadol i Aelodau Cyfetholedig yn sgil yr hyfforddiant a chefnogaeth ychwanegol yn ystod eu blwyddyn gyntaf mewn swydd, fodd bynnag rhagwelir y bydd hyn yn gwella yn ystod y blynyddoedd sy’n dilyn.  

 

Dywedwyd y bydd y trefniadau ar deithio y tu allan i’r sir yn parhau ac y cymeradwywyd 99% o’r holl geisiadau yn ystod y flwyddyn gyfredol am eu od o fudd i’r Cyngor fod cynrychiolaeth. 

 

Caiff Adroddiad Blynyddol IRPW 2023 a Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau drafft 2023/24 eu cyflwyno i’r Cyngor ar 20 Ebrill 2023.

8.

Adrodddiad ar Ganlyniadau Arolwg Gadael Aelodau pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor gan Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys y canlyniadau fod Ceredigion ar y cyfan yn unol â’r cyfartaledd dros Gymru.  Nodwyd taw’r ymateb moddol ar gyfer nifer y blynyddoedd a dreuliwyd yn rôl Cynghorydd yw 21-25 mlynedd, sy'n cyfateb i 4-5 tymor yn y swydd.  Roedd nifer yr oriau a dreuliwyd ar gyfartaledd yn y rôl, gan gynnwys llwyth gwaith cymunedol  yn cyfateb i 23.4 awr yr wythnos.

 

Nodwyd gan Aelodau y nifer cynyddol o oriau a oedd yn gysylltiedig â chyfarfodydd sefydliadau allanol megis yr Heddlu, Iechyd a’r Gwasanaeth Tân, a diolchwyd Aelodau blaenorol am eu hamser a’u hymrwymiad wrth wasanaethu Cyngor Sir Ceredigion.

 

NODWYD yr adroddiad gan y Pwyllgor.

9.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 30 KB

Cofnodion:

Bu i Aelodau nodi’r adroddiadau a argymhellwyd ar gyfer y Blaen Raglen Waith, a nodwyd fod canllawiau drafft bellach wedi dderbyn o ran Deddf Etholiadau a Llywodraeth Leol (Cymru) 2021, ac y bydd adroddiadau ychwanegol yn codi o hyn.

 

10.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Bu i Aelodau nodi eu pryderon am y broblem barhaus o’r sain yn darfod yn ystod cyfarfodydd gan nodi fod hyn yn digwydd erbyn hyn am gyfnod estynedig o amser o oddeutu 5 – 6 eiliad. Sicrhawyd Aelodau bod y mater yma dan sylw ar hyn o bryd a bod trafodaethau’n parhau gyda TGCh.