Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi PDF 79 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24
Mawrth 2023 fel rhai cywir. Materion sy’n codi Gofynnodd yr aelodau am hyfforddiant ar lawrlwytho Office
365 i ddyfeisiau personol, gan gynnwys diogelwch a GDPR. |
|
I ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2022 - 2023 PDF 6 MB Cofnodion: Cyflwynodd Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol, Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi
bod yr adroddiad yn cynrychioli faint o waith a wneir gan y Pwyllgor hwn, a
phwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud. Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am baratoi'r
adroddiad, gan nodi bod y fformat diwygiedig yn ei gwneud yn llawer haws
darllen yr adroddiad. Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar
13 Gorffennaf 2023 er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau
Democrataidd yr adroddiad i’r Pwyllgor, gan nodi bod y protocol drafft wedi’i
greu i adlewyrchu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a
Chanllawiau Statudol ac Anstatudol Drafft Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod
hon yn ddogfen weithredol y gallai fod angen ei haddasu i adlewyrchu unrhyw
newidiadau i Ganllawiau Llywodraeth Cymru a datblygiadau gweithredol. Nododd yr aelodau nad yw'r protocol yn mynnu bod
Cadeiryddion yn bresennol yn Siambr y Cyngor, a nodwyd bod y rheoliadau yn
caniatáu i bob Aelod ddewis eu dull o fynychu. Gofynnodd yr Aelodau hefyd ynghylch ymarferoldeb cadw eu
camerâu ymlaen drwy’r amser pan fo ganddynt fynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd a
gofynnon nhw a fyddai'r holl Gynghorwyr, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn
Aelodau o'r Pwyllgor, yn aros fel 'Panelwyr' drwy
gydol y cyfarfod er mwyn osgoi’r oedi o gael eu trosglwyddo wrth godi eu dwylo.
Nododd yr Aelodau hefyd bwysigrwydd hybu ymwybyddiaeth a chyfranogiad y
cyhoedd, y gellid ei wella ymhellach yn y ddogfen. Nodwyd mai nod y protocol yw adlewyrchu'r arfer yn
bersonol, lle mae aelodau'r pwyllgor fel arfer yn eistedd o amgylch bwrdd y
Cabinet, a'r rheini nad ydynt yn Aelodau yn eistedd yn y rhesi allanol.
Nodwyd hefyd y byddai hyfforddiant yn cael ei roi i'r holl Gynghorwyr, ar y
protocol i gynnwys hyfforddiant ar ymddygiad cyfarfodydd y gofynnodd y Pwyllgor
yn flaenorol amdano. Nodwyd hefyd fod cefnogi cyfarfodydd hybrid, a’r ffrydio
byw yn hynod o ddwys o ran adnoddau, a bod datblygiadau yn mynd rhagddynt i
ddiwygio’r prosesau ffrydio byw presennol. PENDERFYNWYD argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r Protocol Drafft
Mynychu Cyfarfodydd Aml-leoliad Llywodraeth Leol a Darllediadau Electronig o
Gyfarfodydd. |
|
I ystyried adroddiad ar bapur trafod Cyfarfodydd Aml-leoliad PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn nodi mai papur
trafod yw hwn i ofyn am farn Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfnod prawf o 18 mis
lle cynhelir cyfarfodydd ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Phwyllgor
y Gwasanaethau Democrataidd o bell yn unig. Nododd yr Aelodau eu cefnogaeth i'r prawf, gan nodi bod y
dull hybrid presennol o ymdrin â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn hynod
heriol i Aelodau sy'n mynychu o Siambr y Cyngor, oherwydd bod y Cadeirydd yn
bresennol o bell. Gwnaethant nodi hefyd y byddai cynnwys Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd yn y prawf yn rhoi cipolwg rhagorol iddynt, a
phrofiad uniongyrchol o'r dull o bell yn unig. Nododd yr aelodau y dylai fod yn glir mai cyfnod prawf yw
hwn, ac y bydd cyfarfodydd hybrid yn ailddechrau'n awtomatig ar ôl 18 mis, yn
amodol ar y pwyllgor hwn yn argymell i'r Cyngor ei fod yn parhau a'r Cyngor yn
cymeradwyo'r trefniadau. Nododd y swyddogion y byddai adroddiad yn cael
ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn i gynnwys adborth gan y ddau bwyllgor. PENDERFYNWYD argymell y cyfnod prawf ar gyfer cyfarfodydd o bell
yn unig ar gyfer Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio i’r Cyngor, yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2023. |
|
I ystyried adroddiad ar Strategaeth Hyfforddiant Aelodau PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn nodi bod Canllawiau
Statudol ac Anstatudol Drafft Llywodraeth Cymru yn datgan “gallai Cynghorau
lunio strategaeth i ddatblygu aelodau”. Nodwyd nad yw hyn yn ofyniad statudol,
fodd bynnag mae strategaeth ddrafft wedi'i pharatoi sy'n adlewyrchu'r arfer
presennol sydd eisoes ar waith yng Ngheredigion. Nodwyd bod y canllawiau drafft yn rhoi rhestr o bynciau
ar gyfer rhaglen hyfforddi barhaus o ddatblygu aelodau y gellid eu cynnwys, ac
yr argymhellir bod Cyngor Sir Ceredigion yn cynnwys y pynciau ychwanegol yn ei
raglen hyfforddi: ·
Hyfforddiant ar rolau penodol y gall aelodau eu cyflawni megis
llywodraethwyr neu gynrychiolwyr ar fyrddau iechyd, awdurdodau tân ac achub neu
barciau cenedlaethol gan gynnwys briff byr ar ddiben y rôl a chyfrifoldebau’r
aelod o ran rhoi gwybod i’r cyngor am ddatblygiadau ar y corff y mae’n
cynrychioli’r cyngor arno, lefel y penderfyniadau a ddirprwyir iddynt a sut y gallant gael cymorth i'w cefnogi yn y rôl; ·
Hyfforddiant ar rôl cynghorydd fel aelod lleol, dirprwyo swyddogaethau i
aelodau wardiau a galwadau gan gynghorwyr am weithredu. Nododd yr aelodau y byddai angen i'r hyfforddiant
ar gyfer cynrychiolwyr ar wahanol gyrff allanol ganolbwyntio ar rôl y
Cynghorydd fel cynrychiolydd y Cyngor. PENDERFYNWYD a) Cymeradwyo ychwanegu'r 2 eitem ychwanegol at y
rhaglen gynefino fel y nodwyd uchod; a b) Argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Polisi
Hyfforddiant Cynghorwyr. |
|
I ystyried adroddiad ar 'Galwad gan Gynghorydd i Weithredu' PDF 61 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau
Democrataidd yr adroddiad i’r pwyllgor gan nodi’r cefndir hanesyddol i’r
ddeddfwriaeth ‘Galwad am Weithredu’. Nodwyd nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu ar
hyn o bryd yng Nghyfansoddiad y Cyngor, ac mai nod y protocol hwn oedd amlygu’r
ffordd hon o weithredu i Aelodau, gan nodi nad yw hyn yn disodli’r trefniadau
presennol o ran craffu a bod profforma ar gyfer
cyflwyno 'Galwadau am Weithredu' wedi'i baratoi i gynorthwyo'r Aelodau drwy'r
broses. Nododd yr Aelodau y dylid ystyried y cam hwn pan fetho
popeth arall, a'i fod yn fecanwaith pwysig lle mae pob ymgais arall wedi methu. PENDERFYNWYD argymell y protocol i'w ystyried gan y Cyngor yn
dilyn ystyriaeth gan Weithgor y Cyfansoddiad. |
|
I ystyried adroddiad ar Gyhoeddiadau'r Cadeirydd PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r pwyllgor yn nodi bod yr
argymhelliad wedi'i gynnig i ddechrau gan Arweinwyr y Grwpiau. Nodwyd bod
anghysondebau ar hyn o bryd o ran eitemau a gyflwynir yn ystod eitem agenda
‘Materion Personol’ y Cyngor a bod arolwg o holl Awdurdodau Cymru wedi canfod
nad yw arfer presennol y Cyngor yn cael ei adlewyrchu yn unman arall ac mai’r
arfer oedd cael ‘Cyhoeddiadau'r Cadeirydd’ yn hytrach na ‘Materion Personol’. Nododd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd y Pwyllgor
fod mwy o amser wedi’i neilltuo yn ystod cyfarfodydd blaenorol y Cyngor i
gyflwyno materion personol nag ar gyfer trafod materion pwysig megis cyllideb y
Cyngor. Nododd yr aelodau ei bod yn bwysig nad yw llais y Cynghorydd yn
cael ei golli, ond byddai’r newid arfaethedig yn sicrhau mwy o degwch, ac
argymhellwyd bod Cyhoeddiadau’r Cadeirydd yn nodi’r Cynghorydd a’r Ward
perthnasol. PENDERFYNWYD argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Cyhoeddiadau’r
Cadeirydd, gan nodi y dylid cynnwys y Cynghorydd a’r Ward perthnasol. |
|
I ystyried adroddiad ar Gomisiwn Gwarineb Jo Cox PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law oddi
wrth Gomisiwn Gwarineb Jo Cox, a PHENDERFYNWYD gofyn i Lowri Edwards
ysgrifennu at y Comisiwn i gynnig ein cefnogaeth a'n parodrwydd i gymryd rhan
yn y cyfnod casglu gwybodaeth. |
|
I ystyried eitemau ar y flaenraglen Cofnodion: Trafododd yr Aelodau eitemau ar gyfer y Flaenraglen Waith, a oedd yn cynnwys y canlynol: a) Protocol ar Les Cynghorwyr a Diogelwch Personol; b) Canllawiau i gynrychiolwyr Wardiau Aml-Aelod; c) Protocol ar gyfer cyfleusterau ymchwil; d) Diwygiad i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor; ac e) Adolygiad o ddarlledu cyfarfodydd ychwanegol. Nodwyd bod y materion uchod yn adlewyrchu canllawiau
Statudol ac Anstatudol Llywodraeth Cymru, a chytunwyd i ddod â chyfarfod nesaf
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ymlaen o 7 Rhagfyr i 20 Medi 2023 i
ystyried y materion hyn. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |