Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Nia Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
I ystyried Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi PDF 75 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd
ar 16 Rhagfyr 2022 yn rhai cywir. Nid oedd materion
yn codi. |
|
Adroddiad ar arolwg Aelodau o ran gofynion TGCh PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i Nia Jones,
Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno’r adroddiad i’r
Pwyllgor gan nodi y derbyniwyd 15 o ymatebion, sy’n cyfateb i 39% o holl
Aelodau. Nodwyd yr aed i’r afael â
phob cais am hyfforddiant ychwanegol ac ystyriwyd sylwadau am gyfarpar
ychwanegol. Nodwyd siom gan
Aelod taw dim ond 15 o aelodau wnaeth ymateb i’r arolwg, yn ogystal a siom
taw’r angen am 4G pan oeddent yn gweithio oddi cartref neu o’r swyddfa a’r
angen am ail rif ffôn i rannu bywyd gwaith a chartref oedd y prif ymatebion. Bu i Aelodau nodi
fod lwfans misol o £10 ar gael os hoffent fod yn rhan ohono, a’i fod yn bosib
prynu Dongle 4G am £11, a rhif ffôn gyda chontract am oddeutu £7.40 y
mis a fydd yn medru mynd i’r afael â’u pryderon. Roedd Aelodau o’r
farn y dylai darpariaeth TGCh gael ei hadolygu cyn yr etholiadau nesaf er mwyn
sicrhau y cyflawnir anghenion Cynghorwyr gan ystyried gwelliannau technolegol
yn y dyfodol. NODWYD yr Adroddiad gan y Pwyllgor. |
|
Adroddiad ar arolwg Aelodau am amseriad cyfarfodydd PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad i’r Pwyllgor gan Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol yn
nodi ei fod yn ofyniad statudol i gynnal arolwg ar amseriad cyfarfodydd a pha
mor aml y dylid eu cynnal gan fod y bydd angen ystyried anghenion ac
amgylchiadau holl Aelodau. Nodwyd bod 25 Aelod wedi ymateb i’r adroddiad a’i fod
yn glir bod y mwyafrif yn ffafrio dydd Iau, Dydd Mawrth a dydd Mercher, yn y
drefn yma ar gyfer mynychu cyfarfodydd.
Dydd Gwener a dydd Llun oedd y diwrnodau na ffafriwyd fwyaf.
Nodwyd cyn COVID-19, yr amser arferol i ddechrau cyfarfodydd oedd 9.30am fodd
bynnag roedd y mwyafrif o’r sawl wnaeth ymateb wedi nodi y byddai’n well
ganddynt parhau i ddechrau am 10.00am ar gyfer yr holl gyfarfodydd a chyfarfod
y Cyngor. Dywedodd y
Cynghorydd Elizabeth Evans fod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor
Trwyddedu ar hyn o bryd yn dechrau am 9.30am ac y bydd bellach angen iddynt
newid i fod yn unol â’r cyfarfodydd eraill. Nodwyd ganddi hefyd y bydd
dechrau cyfarfodydd y prynhawn am 1.30pm yn amser gwell am y byddai’n gwella
trefniadau gofal plant i’r rheiny sydd â’r cyfrifoldeb hynny. Caiff adroddiad
ei gyflwyno i’r Cyngor yn amlinellu canfyddiadau’r arolwg a’r argymhellion o
ran amseriad y cyfarfodydd. |
|
Adroddiad ar Arolwg Arfarnu Blynyddol Aelodau PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Nia
Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor
yn nodi ei fod yn ofyniad statudol i ddarparu Arolwg Arfarnu blynyddol o
hyfforddiant ac anghenion datblygu Aelodau. Nodwyd fod 8 Aelod wedi
ymateb i’r arolwg, ac edrychir ar hyn o bryd ar feysydd a glustnodwyd ar gyfer
hyfforddiant a datblygiad pellach. Bydd
yr unigolion yma felly yn cael cynnig cyfle i gael cyfweliad gydag unigolyn
sydd ym marn yr awdurdod yn meddu ar cymwysterau perthnasol i ddarparu cyngor
am anghenion hyfforddiant a datblygu yr Aelod dan sylw. Nodwyd gan
Aelodau fod nifer yr ymatebion yn isel, ac argymhellwyd y dylid copi hyn gydag
Arweinwyr y pleidiau. NODWYD yr Adroddiad gan y Pwyllgor. |
|
Adroddiad ar Restr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau 2023/24 PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i Lowri
Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno
adroddiad i’r Pwyllgor yn nodi nad oedd newidiadau sylweddol i Restr
Cydnabyddiaeth Ariannol 2023-24.
Dywedodd y bydd y cyfog sylfaenol i aelodau etholedig yn cynyddu o
£16,800 i £17,600, gan bwysleisio nad oes gan y Cyngor unrhyw ddisgresiwn ar y
lefelau a osodwyd gan y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol. Bydd unrhyw Aelodau Unigol a hoffai wrthod y
cynnydd mewn cyflog gyfleu’r bwriad hynny’n ysgrifenedig, fodd bynnag ni all y
Cyngor yn ei gyfanrwydd na grŵp o Gynghorwyr wneud hynny. Mae elfennau
dewisol i’r adroddiad. Nodwyd nad oedd unrhyw argymhellion fyddai’n galluogi
Cynghorwyr i hawlio am gostau teithio ar gyfer gwaith o fewn eu wardiau; nac
ychwaith argymhellion am y lwfans teithio, aros dros na a lwfans parcio car
fydd yn parhau yr un fath â 2022/23. Bydd y gallu i ddewis derbyn y
lwfans misol o £10 ar gyfer galwadau ffôn, band llydan ac unrhyw gostau postio
yn parhau yr un fath; ac argymhellir fod yr uchafswm o 10 diwrnod llawn ar
gyfer pob Pwyllgor y bydd Aelodau Cyfetholedig yn eistedd arno’n parhau. Nodwyd fod hon yn
flwyddyn eithriadol i Aelodau Cyfetholedig yn sgil yr hyfforddiant a
chefnogaeth ychwanegol yn ystod eu blwyddyn gyntaf mewn swydd, fodd bynnag
rhagwelir y bydd hyn yn gwella yn ystod y blynyddoedd sy’n dilyn. Dywedwyd y bydd y
trefniadau ar deithio y tu allan i’r sir yn parhau ac y cymeradwywyd 99% o’r
holl geisiadau yn ystod y flwyddyn gyfredol am eu od o fudd i’r Cyngor fod cynrychiolaeth.
Caiff Adroddiad
Blynyddol IRPW 2023 a Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau drafft 2023/24 eu
cyflwyno i’r Cyngor ar 20 Ebrill 2023. |
|
Adrodddiad ar Ganlyniadau Arolwg Gadael Aelodau PDF 70 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad i’r Pwyllgor gan Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau
Democrataidd a oedd yn cynnwys y canlyniadau fod Ceredigion ar y cyfan yn unol
â’r cyfartaledd dros Gymru. Nodwyd taw’r ymateb moddol ar gyfer nifer y
blynyddoedd a dreuliwyd yn rôl Cynghorydd yw 21-25 mlynedd, sy'n cyfateb i 4-5
tymor yn y swydd. Roedd nifer yr oriau a
dreuliwyd ar gyfartaledd yn y rôl, gan gynnwys llwyth gwaith cymunedol yn cyfateb i 23.4 awr yr wythnos. Nodwyd gan
Aelodau y nifer cynyddol o oriau a oedd yn gysylltiedig â chyfarfodydd
sefydliadau allanol megis yr Heddlu, Iechyd a’r Gwasanaeth Tân, a diolchwyd
Aelodau blaenorol am eu hamser a’u hymrwymiad wrth wasanaethu Cyngor Sir
Ceredigion. NODWYD yr adroddiad gan y Pwyllgor. |
|
Cofnodion: Bu i Aelodau
nodi’r adroddiadau a argymhellwyd ar gyfer y Blaen Raglen Waith, a nodwyd fod
canllawiau drafft bellach wedi dderbyn o ran Deddf Etholiadau a Llywodraeth
Leol (Cymru) 2021, ac y bydd adroddiadau ychwanegol yn codi o hyn. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Bu i Aelodau nodi
eu pryderon am y broblem barhaus o’r sain yn darfod yn ystod cyfarfodydd gan
nodi fod hyn yn digwydd erbyn hyn am gyfnod estynedig o amser o oddeutu 5 – 6
eiliad. Sicrhawyd Aelodau bod y mater yma dan sylw ar hyn o bryd a bod
trafodaethau’n parhau gyda TGCh. |