Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 21ain Mai, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Cyswllt: Nia Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Lloyd Edwards am ei anallu i fynychu’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. 

3.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2020 pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2020 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi

Eitem 6: Yn ystod y cyfarfod ar 15 Hydref 2020, nodwyd bod y Cynghorydd Keith Evans wedi cyflwyno ymholiad ynglŷn ag ymchwilio i’r posibilrwydd o ddarparu cytundeb grŵp ar gyfer cysylltiad band eang cyflym iawn/ffeibr i holl Gynghorwyr ac Uwch Swyddogion y Cyngor, gan wneud cais i’r Swyddogion ymchwilio i’r mater.  

 

Dywedwyd bod darparu cysylltiadau cyflym iawn yn bosibl, gan ddefnyddio datrysiadau gwahanol, ond maent i gyd yn golygu costau llawer uwch o ran eu gosod ac o safbwynt refeniw blynyddol, felly nid mater technegol yw hwn ond mater sy’n ymwneud â chyllid a pholisi, pwy sy’n gymwys a sut y mae’r ddarpariaeth yn cael ei hariannu.    Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor dros 1000 o staff sy’n cysylltu’n ddyddiol o’u cartrefi, gan ddefnyddio’u band eang ac maent yn gallu cyflawni’r rhan fwyaf o’u dyletswyddau.  Os penderfyna’r Awdurdod y bydd yn darparu band eang cyflym iawn i rai unigolion, yna bydd angen cytuno ar bolisi a fydd yn nodi pwy fydd yn cael y gwasanaeth, pam mae hawl ganddynt i’r gwasanaeth hwn a sut y bydd yn cael ei ariannu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies iddo fod yn cyfathrebu’n gyson ag Openreach a Llywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiad a chynnydd y band eang yng Ngheredigion, a bod pethau’n gwella drwy’r amser.    Cyfeiriodd hefyd at gyhoeddiad a wnaed ynghynt y diwrnod hwnnw y byddai arian ychwanegol ar gael o Lywodraeth y DU i gefnogi unrhyw ddatblygiadau pellach.     

4.

Adroddiad sy'n argymell adolygiad o faint pob pwyllgor pdf eicon PDF 465 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i’r pwyllgor, gan nodi bod gwaith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o adolygu ffiniau Cyngor Sir Ceredigion wedi ei gwblhau a’n bod ar hyn o bryd yn aros am benderfyniad gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r argymhellion hyn.    Os gwneir Gorchymyn yn unol ag argymhellion y Comisiwn Ffiniau, bydd nifer y Cynghorwyr a fydd yn cynrychioli Cyngor Sir Ceredigion yn gostwng o 42 i 38 o fis Mai 2022 ymlaen.  Bydd hyn hefyd yn cael effaith ar gapasiti’r Aelodau ac o ganlyniad yn effeithio ar  niferoedd pob pwyllgor. 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Trawsbleidiol i ystyried adolygu maint y pwyllgorau, gyda deilliannau’r adolygiad i’w rhoi mewn grym o fis Mai 2022, wedi i’r Gorchymyn gael ei wneud; gyda golwg ar gyflwyno argymhellion i’r Cyngor ym mis Ionawr 2022. 

5.

Adroddiad ar faint Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 347 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu yr adroddiad i’r pwyllgor, gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn datgan bod yn rhaid i un rhan o dair o aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn aelodau lleyg o 5 Mai 2022 ymlaen. 

Nodwyd i’r mater hwn eisoes gael ei drafod gan y Pwyllgor Archwilio ar 24 Chwefror 2021 ac mai’r opsiwn a ffafriai’r pwyllgor hwnnw yw cynyddu nifer yr aelodau lleyg o 1 i 3 a bod nifer y Cynghorwyr Sir yn parhau’n 6.    Nodwyd y byddai goblygiadau o ran cost o ganlyniad i gynyddu nifer yr aelodau lleyg, fodd bynnag, byddai hyn yn gyfle i ddod ag amrywiaeth o arbenigeddau i’r pwyllgor.  

 

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn y broses o recriwitio Aelodau Lleyg ychwanegol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Codwyd pryder y byddai oedi’r broses hon hyd at benderfyniad y Cyngor ym mis Ionawr 2022 yn arwain at fethu recriwtio digon o aelodau cyn mis Mai 2022. 

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor y dylai’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gynnwys 3 aelod annibynnol / lleyg a 6 Aelod o’r Cyngor Sir o 6 Mai 2022 ymlaen. 

 

6.

Adroddiad ar agweddau o'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 - materion sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 376 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r pwyllgor, yn amlinellu’r prif agweddau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn berthnasol i’r pwyllgor, gan gynnwys strategaeth a oedd yn annog pobl leol i gyfranogi, creu cynllun e-ddeisebau a’r ddyletswydd i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol, darlledu cyfarfodydd yn electronig, galluogi swyddi i gael eu rhannu, absenoldebau teuluol, dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad a sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. 

 

Nododd Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu fod gofyniad o ran cymhwysiad ac anghymhwysiad Aelodau.  

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD nodi’r agweddau hynny o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy’n cyfeirio’n benodol at y Gwasanaethau Democrataidd. 

 

7.

Adroddiad ar y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, adroddiad i’r pwyllgor, yn nodi bod Gweithgor Trawsbleidiol y Cyngor sydd yn edrych ar y Cyfansoddiad wedi cymeradwyo’r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor yng nghyfarfod y gweithgor a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2021 a’u bod i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.   

 

Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â rheolau gweithdrefnau’r Cyngor o ran Rhybudd o Gynnig, y gweithdrefnau ‘Galw i Mewn’ ac egwyddorion systemau pleidleisio a oedd yn ymwneud â mwyafrif syml a phleidlais fwrw’r Cadeirydd. 

 

Nod y newidiadau hyn i atodiadau 1 a 2 yw symleiddio’r gweithdrefnau a’i gwneud hi’n glir erbyn pryd y mae’n rhaid cyflwyno Cynnig, sut mae gwneud diwygiadau cyn y cyfarfod ac yn ystod y cyfarfod.  Mae’r newidiadau hefyd yn egluro beth sy’n gallu cael ei alw i mewn a beth na ellir ei alw i mewn, y meini prawf ar gyfer cyfeirio materion at y Cyngor a chydsyniad o ran penderfyniadau brys.  

 

Argymhellwyd hefyd bod rheolau trosfwaol y Cyngor sy’n ymwneud â phleidleisio ac sydd wedi eu nodi yn y cyfansoddiad, yn cael eu dyblygu ar gyfer pob pwyllgor, er eglurder.  

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor bod y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i’r Cyfansoddiad:

1)    cymeradwyo’r newidiadau a gynigiwyd ynghlych gwneud Rhybudd o Gynnig a’r Weithdrefn Galw i Mewn

2)    cymeradwyo’r newidiadau a gynigiwyd er mwyn rheoleiddio trefniadau gweithdrefnol y Cabinet a’r Pwyllgorau i adlewyrchu Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, o ran y mwyafrif mewn pleidlais a phleidlais fwrw’r Cadeirydd mewn cyfarfodydd. 

8.

Blaenraglen waith ar gyfer 2021/22

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r flaenraglen waith ar gyfer 2021, a nodwyd bod Aelodau’n gallu cynnig ychwanegiadau i’r Flaenraglen Waith wrth i faterion godi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r flaenraglen waith fel y’i cyflwynwyd. 

 

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Nodwyd bod y Cadeirydd wedi gofyn i’r holl gynghorwyr cyn y cyfarfod hwn a oedd ganddynt unrhyw faterion i’w codi.   Roedd yr eitemau canlynol wedi’u cyflwyno i’r Cadeirydd:

a)    Nodwyd bod y wasg yn ddiweddar wedi adrodd am geisiadau am ollyngiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Moeseg a Safonau.    Cytunwyd y byddai’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol yn trafod y mater hwn gyda Chadeirydd newydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau, gydag argymhelliad bod nodyn ar y ffurflen ollyngiad yn dweud y bydd gwybodaeth a roddir ar y ffurflen yn cael ei chyhoeddi.

b)    Holodd Aelodau beth oedd y llinell amser ddisgwyliedig o ran dychwelyd i Benmorfa.   Nodwyd na fyddai’n bosibl dychwelyd tra byddai cyfarpar newydd yn cael ei osod yn Siambr y Cyngor. 

c)    Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ddarparu diweddariad sylweddol ynglŷn â Covid-19 fel eitem ar yr agenda, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau tymor byr, yn hytrach na rhoi diweddariad llafar, fel y gall Aelodau baratoi cwestiynau o flaen llaw.   Cydnabuwyd y byddai angen i’r  data sy’n ymwneud ag achosion o Covid-19 gael ei ddarparu’n llafar ar y diwrnod. 

d)    Nododd Aelodau fod y system ymholiadau CLIC, ohoni’i hun, yn gweithio’n effeithiol, fodd bynnag nid yw Aelodau yn gwybod pwy sy’n ymdrin ag ymholiadau penodol, ac yn aml nid ydynt yn derbyn adborth wedi i rywun ymdrin â mater.   Nodwyd hefyd bod y system yn darparu tocyn â rhif gwahanol wrth wneud ymholiadau dilynol ynglŷn â chais, ac felly, mae’n anodd dilyn hynt ymholiadau.   Nodwyd bod y Gwasanaeth yn datblygu cyfleuster ‘Eich Cyfrif’ ar hyn o bryd a bydd hyn yn hwyluso pethau.   Gofynnwyd i swyddogion roi gwybod beth yw’r llinell amser ar gyfer y datblygiad hwn.

e)    Gofynnodd Aelodau a fyddent yn gymwys i dderbyn talebau gofal llygaid.  Mae’r rhain ar gael ar hyn o bryd i weithwyr y Cyngor.   Nodwyd bod y rheoliadau sy’n ymwneud ag Offer Sgriniau Arddangos (DSE) yn ymwneud â deddfwriaethau iechyd a diogelwch i gyflogeion a gweithwyr.    Er nad yw Aelodau’n dechnegol yn perthyn i’r categorïau cyflogeion neu weithwyr, yr awgrym a gafwyd yn gyngor gan Wasanaethau Pobl a Threfniadaeth, yw y gallai aelodau fod yn gymwys i hawlio o dan raglen gofal llygaid y Cyngor os yw’r Gwasanaethau Democrataidd o’r farn bod aelodau’n bodloni meini prawf y ddeddfwriaeth Offer Sgriniau Arddangos.    Mae’r rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn datgan fel a ganlyn:

 Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i gyflogwyr y mae eu gweithwyr yn defnyddio DSE yn rheolaidd fel rhan arwyddocaol o’u gwaith arferol yn unig (dyddiol, am gyfnodau parhaus o awr neu fwy).  Gelwir y gweithwyr hyn yn ddefnyddwyr DSE.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i weithwyr sy’n defnyddio DSE yn anaml am gyfnodau byr o amser.”

Nodwyd y byddai angen datblygu proses ar gyfer Cynghorwyr ac y byddai’n rhaid iddynt hwy ddatgan eu bod yn defnyddio offer sgriniau arddangos yn ddyddiol, am awr neu fwy ar y tro. 

f)     Gofynnodd Aelodau ynghylch darparu ail ddarn o offer TG i Gadeiryddion Pwyllgorau.    Nodwyd bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.