Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans Dwynwen Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Ceris Jones na fedrai ddod i’r cyfarfod.
2.
Ymddiheurodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, na
fedrai ddod i’r cyfarfod am ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y
Cyngor. 3.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet, na
fedrai ddod i’r cyfarfod. 4.
Ymddiheurodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr, Cymdeithas
Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), na fedrai ddod i’r cyfarfod. 5.
Ymddiheurodd Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, na fedrai
ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir Aelodau am eu cyfrifoldeb personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig a materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol a darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Dim. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: None. Cytunodd y Cadeirydd y byddai eitem 6 ar yr agenda sef Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y cyd CYSUR / CWMPAS Chwarter 1
2024/2025 yn cael ei ystyried nesaf
am fod Audrey Somerton-Edwards, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol ar gael
i gyflwyno’r eitem. |
|
Adroddiad Diogelu Grwpiau Gweithredol ar y cyd CYSUR/CWMPAS Ch 1 2024/2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd Audrey Somerton-Edwards,
Swyddog Arweiniol
Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol
y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r
cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad. Dyma grynodeb o’r prif
bwyntiau: ➢Yn ystod y chwarter hwn, aeth 274 o atgyfeiriadau ymlaen i gamau a
oedd angen eu cymryd o dan Weithdrefnau Diogelu Plant. Roedd hyn yn
gynnydd o gymharu â’r chwarteri blaenorol.
Yn Chwarter 4, roedd angen i 196 o atgyfeiriadau
fynd ymlaen i gamau a
oedd yn cael
eu cymryd o dan weithdrefnau diogelu. ➢ Cynhaliwyd 18 Cynhadledd
Amddiffyn Plant Gychwynnol yn ystod y chwarter.
Roedd y rhain yn ymwneud â 31 o blant/pobl ifanc.
Rhoddwyd 20 o blant ar y gofrestr yn ystod
y chwarter. ➢ Cynhaliwyd 21 o gynadleddau
adolygu yn ystod y chwarter ac roedd y rhain yn
ymwneud â 33 o blant/pobl ifanc. Roedd
17 o blant/pobl ifanc yn parhau
ar y gofrestr a chafodd 16
o blant/pobl ifanc eu tynnu
oddi ar y gofrestr. ➢ Addysg oedd prif ffynhonnell yr atgyfeiriadau yn ystod y chwarter hwn. ➢ Yn ystod y chwarter
hwn, mae'r ffordd yr ydym yn casglu ac yn
adrodd ar y data wedi newid. Nid ydym
bellach yn casglu nifer y cysylltiadau sydd gennym ar achosion agored, dim ond yr adroddiadau / atgyfeiriadau newydd a dderbynnir yr ydym yn eu
casglu a allai
fod mewn perthynas ag achosion newydd neu achosion sydd eisoes ar agor lle mae
pryder newydd wedi'i nodi a'i gyfeirio at y gwasanaeth. Felly, o’r atgyfeiriadau newydd a gawsom yn y chwarter hwn
(cyfanswm o 623), cynhaliwyd
Trafodaeth Strategaeth ar
44% o'r atgyfeiriadau hynny. Aeth 14.3% ymlaen i Ymholiad
Adran 47 ac aeth 4.98% ymlaen
i Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol. ➢ Cynhaliwyd 89 o ymholiadau
Adran 47. Cynhaliwyd 72 o'r
rheiny ar y cyd â'r Heddlu ac roedd
17 ohonynt yn rhai asiantaeth sengl. ➢ Y prif gategori o
gam-drin a arweiniodd at Ymholiad Adran 47 oedd Cam-drin corfforol
ac yna cam-drin / camfanteisio rhywiol. Esgeuluso oedd nesaf ac yna cam-drin emosiynol. ➢ Roedd canran y Cynadleddau Amddiffyn Plant Cychwynnol a gynhaliwyd o fewn yr amserlen statudol 15 diwrnod yn 61.3% o'i gymharu
ag 82.4% yn y chwarter blaenorol. Roedd gwelliant o ran cynnal Grwpiau Craidd o fewn yr amser ond
roedd oedi pellach mewn perthynas
â chynnal Cynhadledd Adolygu o fewn amser. Roedd amryw
o resymau am yr oedi yn y cynadleddau nad oedd yn
cael eu cynnal
o fewn yr amser. ➢ O'r 16 o blant a ddatgofrestrwyd yn ystod y chwarter hwn, daeth 5 o blant yn rhai
a oedd yn
derbyn gofal ac roedd 11 yn parhau
i dderbyn gofal a chymorth o dan y cynllun gofal a chymorth. ➢ Roedd 32 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant ar ddiwedd Chwarter 1 (Mehefin 2024). Y prif ffactorau risg i'r plant/pobl ifanc ar y gofrestr oedd rhieni’n gwahanu, cam-drin domestig ac ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 26. |
|
Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 16 Medi 2024 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawyd Diana Davies, Rheolwr
Corfforaethol, a Timothy Bray, Rheolwr Partneriaethau ac Argyfyngau Sifil Posibl, i’r cyfarfod. Roedd Hazel Lloyd-Lubran, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymddiheuro na fedrai fod
yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad.
Felly cyflwynodd Timothy Bray y wybodaeth
yn ei habsenoldeb.
O dan Adran
35 o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, roedd yn ofynnol i’r
Awdurdodau Lleol sicrhau
bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu ar benderfyniadau
a wnaed, neu gamau eraill a gymerir, gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ardal yr Awdurdod Lleol wrth arfer ei swyddogaethau. Dyma’r prif bwyntiau a godwyd fel rhan
o’r drafodaeth: ·
Bu
i’r Cadeirydd longyfarch y tîm am ddarparu Adroddiad Blynyddol y Cynllun Llesiant Lleol ar ffurf fideo gan nodi ei fod yn
rhagorol. ·
Bu
i’r Cadeirydd longyfarch prosiect ARFOR am y gwaith yr oedd yn parhau i’w
wneud. ·
Cadarnhawyd y byddai’r
sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ynglŷn
â thaliadau tanwydd y gaeaf yn cael
eu trosglwyddo i Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cadarnhaodd y swyddogion fod y grŵp yn ystyried
newidiadau fel hyn o ddifri a’i
fod yn ymateb
i faterion o’r math hwn yn
barhaus. Hefyd, nodwyd bod yr Is-grŵp Tlodi wedi’i longyfarch
yn ddiweddar am ei waith. Yn benodol,
roedd y dangosfwrdd caledi wedi’i nodi fel arfer da ar draws Cymru. ·
Roedd yr Aelodau yn siomedig i
nodi bod nifer yr ymatebion
a gafwyd i ymgynghoriad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ddiweddar yn
isel. Bu i’r Aelodau ailadrodd eu pryderon bod ymgynghoriadau yn costio llawer o arian i sefydliadau
yn y Sector Cyhoeddus. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r
Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol: Argymhelliad: Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion a gynhaliwyd ar 16 Medi 2024. Rheswm
dros y penderfyniad: Y Pwyllgor Craffu hwn sy’n cadw
golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd Aelodau’r
Pwyllgor i dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion a gynhaliwyd ar 16 Medi 2024 a diolchodd
y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu gwaith caled parhaus.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawyd Rob Starr, Rheolwr
Perfformiad ac Ymchwil, a
Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol i’r cyfarfod i
gyflwyno’r adroddiad. Cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 gyfundrefn
berfformio newydd ar gyfer Prif Gynghorau
yn seiliedig ar Hunanasesu. Bwriad y gyfundrefn berfformiad newydd yw adeiladu
a chefnogi diwylliant lle mae cynghorau
yn ceisio gwella a gwneud yn well yn barhaus
ym mhopeth a wnânt, waeth pa mor dda y maent yn
perfformio eisoes. Mae’r Ddeddf yn
disgwyl y bydd cynghorau bob amser yn ymdrechu i
gyflawni mwy a cheisio sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau
lleol. Un ffordd o wneud hyn yw
herio’r sefyllfa bresennol yn barhaus
a gofyn cwestiynau ynghylch sut y maent yn gweithredu.
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno 5 dyletswydd
benodol ar gyfer Cynghorau: • Y ddyletswydd i adolygu
perfformiad yn barhaus • Y ddyletswydd i ymgynghori
ar berfformiad • Y ddyletswydd i adrodd
ar berfformiad • Y ddyletswydd i drefnu
asesiad o berfformiad gan banel • Y ddyletswydd i ymateb
i adroddiad ar asesiad o berfformiad gan banel. Mae hunanasesu yn canolbwyntio
ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau,
a disgwylir i awdurdodau lleol arfer ymagwedd wahanol at asesu eu perfformiad nag o’r blaen. Esboniodd
y Swyddog y byddai angen mwy o hunan-fyfyrio
i sicrhau hyn. Ers mis Ebrill 2024, mae
Cyngor Sir Ceredigion wedi
bod yn cynnal trydedd rownd y broses Hunanasesu, ac mae’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu wedi chwarae rhan
ganolog ynddi. Cynhaliwyd gweithdy gyda’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar 25 Ebrill i gofnodi safbwyntiau Aelodau ar berfformiad y Cyngor a chyfleoedd i wella. Mae amserlen
lawn o'r gweithgareddau a gynhaliwyd i gefnogi
Hunanasesu yn 2023/24 ynghlwm yn Atodiad
1, a hynny er gwybodaeth. Ers hynny, defnyddiwyd y dystiolaeth a gasglwyd i gynhyrchu
Adroddiad Hunanasesu, a welir yn Atodiad
2. Dyma’r prif allbwn yn y broses Hunanasesu ac mae’n cyflwyno’r modd y mae’r Cyngor
yn perfformio ar hyn o bryd a’r
camau y mae’n bwriadu eu cymryd
wrth symud ymlaen. Mae'r Adroddiad Hunanasesu ar gyfer 2023/24 yn cyflawni gofynion
y canlynol: • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015 – i osod ac adolygu cynnydd yn erbyn ein
Hamcanion Llesiant
Corfforaethol • Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 –
y ddyletswydd i adolygu perfformiad yn barhaus, i
ymgynghori ar berfformiad, i adrodd ar berfformiad,
i drefnu asesiad o berfformiad gan banel ac i
ymateb i adroddiad ar asesiad o berfformiad gan banel. Yn dilyn adborth cadarnhaol
gan Lywodraeth Cymru a chymheiriaid, mae fformat tebyg wedi'i
gadw ar gyfer eleni i helpu
i ledaenu negeseuon allweddol a'u cadw'n gryno,
fel y gofynnodd Llywodraeth Cymru. Mae nifer o welliannau wedi eu gwneud eleni
i gryfhau'r adroddiad. Esboniodd Rob Starr y byddai’r Adroddiad Hunanasesu yn mynd gerbron y Cabinet ar 3 Rhagfyr, cyn y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Gweinidogion, Estyn, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Pwyllgor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 28. |
|
Hunanwerthuso trefniadau craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn 2018, cytunwyd
y byddai’r Swyddogion Craffu yn cynnal
adolygiad o effeithiolrwydd
y trefniadau Trosolwg a Chraffu yng Nghyngor
Sir Ceredigion ac y byddai hyn
yn cael ei
wneud bob blwyddyn yn y dyfodol. Adolygwyd y broses yn 2020
a chytunwyd i wneud y canlynol: a) Parhau i gynnal
yr arolwg yn flynyddol; b) Lleihau nifer y cwestiynau gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad; c) Adolygu fformat yr adroddiad, cyfuno’r ymatebion Cymraeg a Saesneg, a chyfieithu’r ddogfen yn ei
chyfanrwydd. Ar gyfer adolygiad
2023-24, gwahanwyd ymatebion
yr Aelodau Cabinet a’r Aelodau Craffu. Roedd ymatebion yr Aelodau Craffu i’r cwestiynau a
ofynnwyd i’w gweld yn Atodiad
A (11 o ymatebion). Roedd ymatebion yr Aelodau Cabinet i’w gweld yn
Atodiad B (8 o ymatebion). Cafwyd cyfanswm o 19 o ymatebion, a oedd
yn gynnydd o gymharu â 2023 a 2021. Derbyniwyd
cyfanswm o 15 o ymatebion yn 2023. Roedd hyn yr un faint â nifer yr ymatebion a dderbyniwyd yn 2021 ond roedd
yn ostyngiad o’i gymharu â’r
25 ymateb a dderbyniwyd yn 2020. Ni chynhaliwyd adolygiad yn 2022 oherwydd yr etholiadau. Ni ddatgelir enwau aelodau. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried yr argymhellion canlynol. ARGYMHELLION: 1. Ystyried yr ymatebion
a ddaeth i law o’r holiadur hunanwerthuso
(atodiad A a B) a nodi unrhyw feysydd i’w gwella os
oes angen. 2. Bydd hyfforddiant
Craffu ar gyfer Aelodau yn cael
ei drefnu yn ystod mis Tachwedd/Rhagfyr 2024 Yn dilyn awgrym gan un o’r
Aelodau, cytunwyd y dylai Arweinwyr y Grwpiau annog eu
haelodau i gwblhau’r holiadur hunanwerthuso yn y dyfodol. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i Lisa Evans am gyflwyno’r wybodaeth. |
|
Cadarnhau cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion hynny Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024 yn gywir. Nid oedd
dim materion yn codi o’r cofnodion
hynny. |
|
Rhaglen Flaen Ddrafft Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i Gadeirydd, Is-gadeirydd neu Swyddog Trosolwg a Chraffu pob Pwyllgor ddarparu
gwybodaeth yn eu tro am Flaenraglenni
Gwaith eu Pwyllgorau. Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd i ychwanegu’r canlynol
at y Flaenraglen Waith: 1.
Gweithwyr Asiantaeth a Recriwtio. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am ddod i’r cyfarfod,
i’r Swyddogion a’r Aelodau Cabinet am gyflwyno’r adroddiadau ac i’r cyfieithwyr, Lisa Evans a
Dwynwen Jones am eu cymorth
yn ystod y cyfarfod. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd ei fod er sylw brys y Pwyllgor |