Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans Dwynwen Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: · Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. 1.
Ymddiheurodd
y Cynghorwyr Ceris Jones a Gwyn Wigley Evans am fethu mynychu’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir Aelodau am eu cyfrifoldeb personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig a materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol a darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Gwnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies ddatgan buddiant personol ynglŷn ag
unrhyw drafodaethau yn ymwneud a Staff Addysgu’r Awdurdod. Gwnaeth y cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet,
ddatgan buddiant personol ynglŷn ag unrhyw drafodaethau yn ymwneud â’r
Awdurdod Tân. Gwnaeth y Cynghorydd Rhodri Evans ddatgan buddiant
personol ynglŷn ag unrhyw drafodaethau yn ymwneud a Staff Addysgu’r
Awdurdod. Datganodd Mr Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol,
fuddiant personol ar ran yr holl Swyddogion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod o
ran unrhyw drafodaeth sy'n ymwneud â'r gweithlu, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar
gyfer Gweithwyr o fewn y Llywodraeth Leol. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd dynnu sylw at bwysigrwydd cael trafodaeth agored a
gonest wrth ystyried y gyllideb yn y cyfarfod y bore yma. |
|
Adroddiad am Gyllideb ddrafft 25/26 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ystyried adroddiad y Gyllideb a gyflwynwyd i'r
Cabinet ar 21/01/25. Ystyriodd y Cabinet
a chytuno ar 9 argymhelliad mewn perthynas â'r adroddiad drafft ar y Gyllideb
25/26. Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan
Davies, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/2026. Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid a
Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, y wybodaeth sy'n weddill. Yna darparodd
Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, ddiweddariad
byr ar lafar o sefyllfa ddiweddaraf y Gyllideb. Roedd y pwyntiau allweddol
fel a ganlyn: . Cyfanswm y pwysau cost
refeniw diweddaraf a wynebir gan y Cyngor oedd £11.8m ar gyfer 2025/26 (ac
eithrio'r elfen Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor sy'n amrywio yn gymesur ag
ystyriaethau Treth y Cyngor). Mae hyn yn cyfateb i ffactor chwyddiant penodol
yng Ngheredigion o 6.1%. Mae hyn yn cymharu â chwyddiant cyffredinol sy'n 2.6%
(ffigur CPI Tachwedd 2024). • Mae newidiadau'r Canghellor i Yswiriant Gwladol
Cyflogwyr o fis Ebrill 2025 yn faich sylweddol ac yn newidyn cyllideb allweddol
o fewn pwysau costau’r Cyngor. Bydd y cynnydd yn costio tua £3m i'r Cyngor am
gostau y bernir eu bod yn 'Uniongyrchol' (Staff cyflogedig sy'n dod o dan
ddiffiniad Sector Cyhoeddus yr ONS) ac oddeutu £1m ar gyfer costau y bernir eu
bod yn 'anuniongyrchol' (y baich cost sy'n disgyn ar ddarparwyr a gomisiynir
gan y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol) - cyfanswm o tua £4m. Ar hyn o bryd nid
yw'r cyllid diffiniol wedi'i gadarnhau ac nid yw'r sefyllfa'n debygol o fod yn
glir tan chwarter cyntaf 2025/26. Felly mae lefel dybiedig o 80% o gyllid tuag
at gostau 'Uniongyrchol' wedi'i gynnwys yn amcangyfrifon cyllideb 2025/26. • Mae'r cyfuniad o newidiadau i Yswiriant Gwladol
Cyflogwyr a pharhau i gyflawni polisi Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y Cyflog Byw
Gwirioneddol (cynnydd o 5.0% i £12.60 yr
awr) yn cael ei dalu i staff Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn brif ffactorau sy'n arwain at gost ychwanegol o £2.4m
mewn perthynas â gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a gomisiynwyd yn allanol. Mae hyn yn ymwneud ag ystyriaethau amcangyfrif
cynyddu cost ffioedd ar gyfer 2025/26 ar
gyfer sectorau allweddol fel Gofal yn y Cartref, Taliadau Uniongyrchol,
Lleoliadau Byw â Chymorth a lleoliadau preswyl ar gyfer Pobl Hŷn. • Mae gofynion a phwysau ehangach ar gyllidebau sy'n gysylltiedig â Gofal Cymdeithasol - cyfanswm o £1.4m yn ychwanegol at ddyfarniadau Cyflog
Gweithwyr, Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a darpariaethau a chynnydd mewn
darpariaeth ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir yn allanol. Fodd bynnag, y maes
sy’n achosi’r pryder mwyaf o hyd yw'r
Gyllideb ar gyfer Lleoliadau Plant y Tu
Allan i'r Sir, lle mae angen cydnabod
pwysau cost o ychydig o dan £2.0m oherwydd y cynnydd yn nifer a gwerth
cyfartalog lleoliadau. • Mae'r Cabinet yn cynnig darparu buddsoddiad cyllideb sylfaenol mewn dau wasanaeth i gydnabod yr angen am sefydlogrwydd gwasanaethau a buddsoddiad wedi'i dargedu i gyflawni canlyniadau. Cynigir ychydig o dan £0.5m ar gyfer y gwasanaeth Casglu Gwastraff (Sbwriel) ac mae'r opsiwn o naill ai £230k neu £346k yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 46. |
|
Cadarnhau cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion hynny Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod Pwyllgor 16 Ionawr 2025 fel cofnod cywir.
Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny. Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am fynychu, cyfieithwyr, a Lisa Evans a
Dwynwen Jones am eu cefnogaeth yn ystod y cyfarfod. |