Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb
i’r cyfarfod a diolchodd i’r Cadeirydd
blaenorol, y Cynghorydd Keith Evans, am ei waith yn
ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac am fod mor barod i’w
gefnogi a’i fentora. Diolchodd y Cynghorydd
Keith Evans i Aelodau’r Pwyllgor am eu cymorth a dymunodd yn dda i’r
Cynghorydd Wyn Evans fel y Cadeirydd
newydd. Ymddiheurodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a Chadeirydd
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
am na fedrai ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Dim. Yn dilyn cais, cafodd
eitem 10 ar yr agenda ei hystyried yn
gyntaf gan y byddai rhai swyddogion
yn hwyr yn
cyrraedd y cyfarfod. Cytunodd pob aelod
o’r Pwyllgor y byddai eitem 10 yn cael ei
hystyried yn gyntaf. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21
Mawrth 2024 yn gywir. Nid oedd dim materion
yn codi o’r
cofnodion hynny. |
|
Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2024 PDF 67 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd, Diana
Davies a Timothy Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i
gyflwyno cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. . O
dan Adran 35 o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015, roedd yn ofynnol i’r Awdurdodau
Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau
Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu
ar benderfyniadau a wnaed,
neu gamau eraill a gymerir, gan Fwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ardal
yr Awdurdod Lleol wrth arfer
ei swyddogaethau. Dyma’r prif bwyntiau a godwyd fel rhan o’r
drafodaeth: · Mynegodd Aelodau’r
Pwyllgor eu siom am eu bod ar ddeall nad oedd
ARFOR mwyach yn derbyn ceisiadau am gyllid. Cytunwyd y byddai Timothy Bray yn codi hyn yng
nghyfarfod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ar 18 Gorffennaf 2024. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r
Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol: Argymhelliad: i. Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd
ar 4 Mawrth 2024. Rheswm
dros y penderfyniad: Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl
o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd Aelodau’r
Pwyllgor i dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth
2024. Diolchodd y Cadeirydd
i’r Swyddogion am fod yn bresennol
ac am gyflwyno’r wybodaeth.
|
|
Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion 2024 PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd Timothy Bray, Rheolwr
Partneriaethau ac Argyfyngau
Sifil Posibl, i’r cyfarfod i
gyflwyno’r adroddiad ac esboniodd Mr Bray y sefyllfa bresennol. Dyma’r prif bwyntiau a godwyd fel rhan
o’r drafodaeth: · Codwyd pryderon
ynghylch y newyddion yn ddiweddar y byddai carcharorion yn cael eu
rhyddhau’n gynnar ac effaith hyn ar y Gwasanaeth Prawf. Gofynnwyd a fyddai hyn yn effeithio
ar y Bartneriaeth Diogelwch
Cymunedol. Wrth ymateb, dywedwyd y byddai hyn yn
effeithio ar y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol ond nad oedd
dim trafodaethau wedi’u cynnal hyd yma
am nad oedd cyfarfod wedi’i gynnal ers i’r
cyhoeddiad gael ei wneud. · Ar dudalen 11 o’r
Strategaeth Diogelwch Cymunedol, roedd cyfeiriad at y ffaith bod 61% o’r rhai a
ymatebodd i’r Arolwg Llesiant (a oedd yn cael
ei ystyried wrth baratoi’r Asesiad Llesiant Lleol) wedi nodi mai’r hyn yr
oeddent yn ei werthfawrogi fwyaf am eu cymuned
oedd bod modd iddynt deimlo’n ddiogel yn eu
cartrefi eu hunain. Codwyd pryderon y gallai hyn olygu nad
oedd 39% yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi
eu hunain. Cadarnhawyd y byddai rhoi tawelwch meddwl
i’r cyhoedd yn rhan hanfodol
o waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r
Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol: Argymhelliad: Nodi cynnwys Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion
2024 a’r daflen ‘Ein Cynllun yn Gryno’. Rheswm
dros yr Argymhelliad: Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu
Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl
o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion
2024 a’r daflen ‘Ein Cynllun yn Gryno’.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau’r
Pwyllgor Cydlynu yr adroddiad a gyflwynwyd gan Timothy Bray ar y Ddyletswydd
Trais Difrifol: Asesiad o Anghenion Strategol Trais Difrifol Dyfed Powys a Strategaeth
Dyletswydd Trais Difrifol Dyfed Powys. Y Pwyllgor Craffu hwn oedd yr
un a ddynodwyd i gadw golwg ar effeithiolrwydd
cyffredinol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Dechreuodd y Ddyletswydd Trais Difrifol ym mis Ionawr 2023 a chyflwynwyd papur rhagarweiniol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 22 Mai 2023 ac i'r
Cabinet ar 6 Mehefin 2023 er mwyn
tynnu sylw at oblygiadau'r ddyletswydd i'r Cyngor, ac i ffurfioli'r cyfrifoldeb
am y trefniadau o ran y gwaith
a’r bartneriaeth. Y strwythur partneriaethol a ddefnyddiwyd gan Ddyfed Powys i gyflawni gofynion llywodraethu'r Ddyletswydd Trais Difrifol oedd y Bwrdd Strategol
ar gyfer Trais Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol, ac roedd swyddogion y Cyngor yn mynychu cyfarfodydd
y Bwrdd hwn. Dyma un o’r prif faterion a godwyd fel rhan
o’r drafodaeth: ·
Codwyd pryder ynghylch cyllid a soniwyd am feysydd /ardaloedd yn y sir y byddai’n werth eu blaenoriaethu a chanolbwyntio arnynt. Cytunwyd y byddai swyddogion yn dychwelyd
i’r Pwyllgor, unwaith y byddai’r cynlluniau ar waith, i roi gwybodaeth
am y meysydd/ardaloedd y byddent yn canolbwyntio
arnynt. Yn dilyn trafodaeth, ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor yr argymhelliad
canlynol: Argymhelliad: Bod y Pwyllgor yn gwneud y canlynol: i.
Nodi
canfyddiadau Asesiad o Anghenion Strategol Trais Difrifol Dyfed Powys. ii.
Nodi
Strategaeth Trais Difrifol Dyfed Powys. Rheswm
dros yr argymhellion: Er mwyn i’r Pwyllgor
Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl o gadw
golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Cytunodd Aelodau’r
Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad
a diolchodd y Cadeirydd i Timothy Bray am ddod i’r cyfarfod ac am gyflwyno’r adroddiadau. |
|
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Cwarter 3 2023/24 PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd y Cynghorydd Alun
Williams, Aelod Cabinet ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i’r cyfarfod i
gyflwyno adroddiad
CYSUR/CWMPAS chwarter 3. Dyma grynodeb o’r prif
bwyntiau: ➢ Yn Chwarter 3, roedd
gostyngiad bach iawn yn nifer
y cysylltiadau/adroddiadau
a dderbyniwyd ynghylch
plant/pobl ifanc o'i gymharu â Chwarter
2 - gyda 926 o gysylltiadau/adroddiadau wedi’u derbyn yn Chwarter
3 o'i gymharu â 928 o gysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 2. ➢ Fodd bynnag, er bod
lleihad yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 3, roedd cynnydd mawr
yn y nifer cyffredinol o gysylltiadau/adroddiadau a arweiniodd
at yr angen i gymryd camau
gweithredu yn unol â’r Gweithdrefnau
Amddiffyn Plant; cynnydd o
132 yn Chwarter 2 i 179 yn Chwarter
3. ➢ O’r adroddiadau a dderbyniwyd, canran yr adroddiadau a
aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth
yn y chwarter hwn oedd 19.3%, o'i gymharu â 14.2% yn Chwarter 2 ac 19.4% yn Chwarter 1. ➢ Yn Chwarter 3, aeth
9.6% ymlaen i ymholiad Adran 47 o'i gymharu â 5.9% yn Chwarter 2 ac mae hyn o’i
gymharu ag 8.8% yn Chwarter 1. ➢ Roedd 1.3% yn mynd i Gynhadledd
Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Chwarter 3 o'i
gymharu â 0.9% yn Chwarter 2, a 0.7% yn Chwarter 1. ➢ Felly, yn anffodus,
mae nifer yr achosion yr
oedd angen gweithredu arnynt o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant yn ôl i’r
un lefel ag yr oedd yn Chwarter
1. ➢ Mae cyfanswm y plant sy'n
destun Cynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant wedi cynyddu i
17 yn y chwarter hwn o'i gymharu
ag 16 yn Chwarter 2 a 10 yn Chwarter 1. ➢ Cyfanswm y plant a roddwyd
ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant yn y chwarter hwn yn dilyn
y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant oedd 16 o'i gymharu â 10 yn Chwarter 2. ➢ Cyfanswm y plant a dynnwyd
oddi ar y gofrestr ar ôl Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn
oedd 21 o'i gymharu â 22 yn y chwarter diwethaf. ➢ Ar ddiwedd y chwarter
hwn, roedd 33 o blant/pobl ifanc
wedi'u cofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o'i gymharu â 40 ar ddiwedd Chwarter 2 a 52 ar ddiwedd Chwarter 1. Felly, mae gostyngiad cyson yn nifer
y plant sydd ar y gofrestr.
➢ Roedd cynnydd sylweddol yn nifer
yr adroddiadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu a staff mewnol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Fodd bynnag, yr ysgolion oedd
y ffynhonnell gyfeirio fwyaf yn ystod
y chwarter. Bu i’r ysgolion hefyd gofnodi cynnydd sylweddol mewn pryderon diogelu. ➢ Mae cyfanswm yr ymholiadau Adran 47 a wnaed wedi cynyddu
yn y chwarter hwn hefyd, gyda
89 yn Chwarter 3 o'i gymharu â 55 yn Chwarter 2. Roedd 74 ar y cyd â'r Heddlu yn
y chwarter hwn ac roedd 15 fel Asiantaeth
Sengl Gwasanaethau Cymdeithasol.
➢ Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 3 oedd honiadau o gam-drin corfforol a cham-drin/cam-fanteisio rhywiol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i Gadeirydd pob Pwyllgor
ddarparu gwybodaeth yn eu tro
am Flaenraglenni Gwaith eu Pwyllgorau. Yn
ystod y drafodaeth, cytunwyd i ychwanegu’r
canlynol at y Cynlluniau
Gwaith: Adnoddau Corfforaethol: Diweddariad ynglŷn â gwerthu cartref Bodlondeb. Byddai pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried diweddariad
am y sefyllfa ariannol yn ystod yr
hydref. Daeth Alun Williams, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol, i’r cyfarfod i sôn
am 4 eitem o’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a oedd wedi’u trafod yng
nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 16 Gorffennaf 2024. Roedd y 4 eitem hyn fel
a ganlyn: 1. R025:
(risg newydd a ychwanegwyd ar 16.7.24) Diogelwch
Tân a Mesurau Amddiffyn ar Eiddo’r Cyngor – nodwyd posibilrwydd y byddai’r risg hon yn cael ei
huwchgyfeirio i’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Roedd y risg yn ymwneud
â maint a chost y gwaith oedd angen
ei wneud mewn adeiladau o eiddo’r Cyngor i gydymffurfio â’r rheoliadau tân diweddaraf ac ymagwedd gadarnach gan yr Awdurdod
Tân ac Achub 2. R009: Rheoli Gwybodaeth a Chydnerthedd Seiberddiogelwch 3. R023: Diwedd Oes Systemau 4. R024: Seibergadernid. Byddai’r rhain yn dod o dan gylch
gwaith y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol. Dywedodd Dwynwen Jones, Swyddog Trosolwg a Chraffu wrth y Pwyllgor fod R023 wedi’i roi ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor a byddai’n cael ei
ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 8 Hydref
2024. Byddai’n trafod y risgiau eraill gyda’r Cadeirydd a’r swyddogion perthnasol. Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd fod arno
angen sylw brys gan y Pwyllgor Dim |