Agenda a Chofnodion

Special, Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Iau, 27ain Hydref, 2022 1.30 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac eglurodd bwrpas yr ailgynnull.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiant personol neu fuddiant sydd yn rhagfarnu.

 

3.

Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27 pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Pwyllgor ailgynnull fel y cytunwyd i ystyried y materion a godwyd yn y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd 14eg Hydref 2022 – nodir diwygiadau/ymholiadau yn y tabl isod:

 

 

Cyfeirnod tudalen

Ymholiad/Diwygiad

Tudalen 7

Wedi diwygio’r diagram a manylion gweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Sir Ceredigion gan gynnwys canlyniadau is-etholiad Llanbedr Pont Steffan.

Tudalen 12

Colofn 2

Wedi cynnwys diweddariad ar y ffigurau band eang ar gyfer Ceredigion: “Mae lobïo sylweddol gan Gyngor Sir Ceredigion ac eraill wedi arwain at ddarpariaeth o 31.8% o fand eang ffeibr llawn gan roi gallu dros 100 Mbps. Mae'r lawrlwythiad cyfartalog ar gyfer y sir gyfan o 79mbps ar hyn o bryd yn un o'r lefelau uchaf ar gyfer awdurdod lleol gwledig”.

Tudalen 13*

Colofn 1

Rhes 1

Wedi dileu’r dyblygu ar y camau gweithredu sy’n ymwneud â gwaith amddiffyn arfordirol.  Y derminoleg y cytunwyd arni yw “cwblhau’r gwaith”.

Tudalen 17

Bwled 1

Wedi diwygio’r derminoleg. Mae’r uchelgais yn darllen fel a ganlyn yn awr: “Darparu ar gyfer anghenion gofal ein poblogaeth”

Tudalen 17

Bwled 7

Wedi rhoi’r geiriad “Croesawu a chefnogi adsefydlu ffoaduriaid”.

Tudalen 17

Troednodyn

Wedi ychwanegu troednodyn i egluro rôl Cysylltwyr Cymunedol.

Tudalen 18 Colofn 3

Paragraff 3

Wedi addasu’r derminoleg. Mae’r cymal yn awr yn darllen “darparu ar gyfer anghenion gofal”

Tudalen 19 Colofn 2

Rhes 9

Wedi rhoi’r geiriad: “Byddwn yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth helpu ffoaduriaid a’u hailsefydlu yn ein cymunedau”.

Tudalen 19

Colofn 2

Rhes 10

Ar ôl ystyried y camau i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac ychwanegwyd cam arall:

“Cefnogi cydlyniad cymunedol yng Ngheredigion”

Tudalen 20

Colofn 2

Rhes 6

Ar ôl ystyried y camau i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac ychwanegwyd cam arall:

“Ymateb rhagweithiol a chadarn i argyfyngau sifil posibl:

·       Brwydro yn erbyn lledaeniad clefydau trosglwyddadwy 

·       Paratoi ar gyfer, ac ymateb i, argyfyngau sifil

Tudalen 20*

Rhes olaf

Wedi ychwanegu eglurhad ar rôl Cysylltwyr Cymunedol er eglurder.

Tudalen 29

Bwled 5

Cyfeirir at “Ddarbwyllo pobl i beidio â pherchen ar ail gartrefi yn y sir” ym maniffesto Plaid Cymru:

 

Byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu i leihau ail dai yn y sir. Yn benodol, byddwn yn ymgyrchu dros newid y Ddeddf Gynllunio i sicrhau y bydd angen cael caniatâd cynllunio cyn troi cartref preswyl yn gartref gwyliau neu gwyliau ar osod. Yn unol â'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru byddwn yn cefnogi'r defnydd o'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant er mwyn delio â'r broblem.”

 

Efallai y bydd yr Aelodau am wneud argymhelliad i’r Cabinet i ddiwygio’r cam hwn os oes angen.  

Tudalen 29

Bwled 7

Wedi cywiro’r geiriad - “Annog cadw enwau lleoedd Cymraeg”.

Tudalen 29

Bwled 8

Wedi diwygio’r uchelgais ar dudalen 29 sy’n ymwneud â mater ffosffadau:

“Rydym wedi cydnabod difrifoldeb y mater sy’n gysylltiedig â lefelau ffosffadau ar hyd Dyffryn Teifi yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.  Gwneir pob ymdrech drwy’r Bwrdd Rheoli Maetholion i ddod o hyd i atebion cynnar i’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y Cyfarfod Cydlynu a gynhaliwyd 14 Hydref 2022 yn gofnod gywir o’r trafodion ac nad oedd materion yn codi o’r cofnodion hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor am fod yn bresennol a chaeodd y trafodion am 14.03pm.