Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Mercher, 18fed Ionawr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

16.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bob un i’r cyfarfod gan ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Wrth ddechrau’r cyfarfod, gwnaeth y Cadeirydd gydymdeimlo â phawb a oedd yn anhwylus ar hyn o bryd ac esboniodd hefyd fod y tywydd gwael wedi golygu nad oedd modd i nifer o aelodau/swyddogion fynd i’r Siambr y bore hwnnw. Er bod Cadeirydd arferol y Pwyllgor, y Cynghorydd Keith Evans, yn bresennol yn y cyfarfod, roedd y Cynghorydd Wyn Evans (yr is-gadeirydd) wedi cytuno i gadeirio’r cyfarfod ar ei ran am ei fod yn gwella ar ôl bod yn sâl.

Ymddiheurodd y Cynghorydd Caryl Roberts am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

17.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd dim buddiannau personol na buddiannau a oedd yn rhagfarnu.

 

 

18.

Diweddariad ar brosiect Cylch Caron pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet; Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Donna Pritchard; Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Gofal a Nerys Lewis, Rheolwr Corfforaethol – Gwasanaethau Uniongyrchol, i’r cyfarfod. Rhoddodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet, gyflwyniad byr am Brosiect Cylch Caron. Ar ôl hynny, rhoddodd Peter Skitt ddiweddariad am y prosiect. Byddai prosiect Cylch Caron yn darparu meddygfa ar un safle, fferylliaeth gymunedol, clinigau cleifion allanol, nyrsio cymunedol, a chyfleusterau gofal cymdeithasol, yn ogystal â thai gofal ychwanegol yn Nhregaron. Esboniodd y byddai’r cynllun hwn yn darparu model gwledig integredig o ofal yn y gymuned a thai ac y byddai’n dod yn lle Ysbyty Tregaron a Chartref Gofal Preswyl Bryntirion. Roedd hwn yn brosiect partneriaethol rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â Llywodraeth Cymru.

           

Roedd swyddogion ar draws Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol              Hywel Dda yn adolygu pecyn y tendr ar hyn o bryd a byddai adroddiad yn mynd gerbron y Cabinet yn ystod y misoedd nesaf.

 

          Dyma’r prif bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth:

 

·       Byddai angen cyflwyno cais cynllunio newydd ar ôl i bartner newydd gael ei benodi. Roedd yr elfen ffosffadau yn parhau’n risg. Roedd posibilrwydd hefyd y gallai’r dyluniad fod yn wahanol i’r dyluniad gwreiddiol.    

·       Gofynnwyd a fyddai modd gofyn am gymorth cwmnïau adeiladu lleol lle bynnag bo modd gwneud hynny. Roedd posibilrwydd y gellid annog y partner newydd i gyflogi contractwyr lleol.

·       Cadarnhawyd y byddai gofyniad i adolygu’r pecyn ariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru ar ôl i’r broses dendro gael ei chwblhau.

·       Mewn ymateb i gwestiwn gan un o’r Aelodau, cadarnhawyd ei bod yn holl bwysig bod y cynllun yn cael ei gyflawni.

·       Mewn ymateb i gwestiwn arall, cadarnhawyd bod y tir wedi’i ddiogelu.

 

Cytunwyd y byddai’r Swyddogion yn dychwelyd i roi diweddariad unwaith y  byddai’r broses dendro wedi’i chwblhau. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet, Peter Skitt, Donna Pritchard a Nerys Lewis am ddod i’r cyfarfod ac am roi diweddariad ynglŷn â phrosiect Cylch Caron.

 

19.

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 2 2022/23 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet, ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol -  Gwasanaethau Oedolion, i’r cyfarfod i gyflwyno Adroddiadau rheoli amlasiantaethol Chwarter 2 ar ddiogelu plant ac oedolion yng Ngheredigion yn ystod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022. Roedd yr adroddiadau yn darparu gwybodaeth reoli ynghylch y camau a gymerwyd o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru ac roeddent yn cynnwys y wybodaeth a ddarparwyd gan asiantaethau eraill o ran diogelu llesiant plant ac oedolion yng Ngheredigion. Roedd aelodau Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS (Ceredigion) yn trafod y wybodaeth reoli hon er mwyn monitro a gwerthuso pa mor effeithiol oedd y trefniadau ar gyfer diogelu plant ac oedolion yng Ngheredigion a'r canlyniadau. Roedd y cyfarfodydd amlasiantaethol hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar unrhyw faterion perfformiad a materion eraill o fewn y maes gwaith hwn. Roedd gwybodaeth am berfformiad hefyd yn cael ei darparu i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru a oedd hefyd yn gyfle i ddadansoddi perfformiad, tueddiadau a materion ar draws y Rhanbarth.

 

Cafodd yr aelodau y cyfle i ofyn cwestiynau ac atebwyd y cwestiynau hynny gan Elizabeth Upcott. 

 

Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd mesurau ymyrraeth gynnar / atal yn holl bwysig.

·       Dywedwyd bod y cyfnod clo yn sgil pandemig Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar lesiant rhai plant.

·       Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffigurau hunan-niweidio yng Ngheredigion ym mis Gorffennaf 2022, dywedodd y Swyddog nad oedd dim rheswm penodol paham fod y ffigurau wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y mis ond ychwanegodd fod y gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn y ffigurau o ran problemau iechyd meddwl ymhlith plant ers Covid.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â risgiau, cadarnhawyd bod tystiolaeth yn dangos bod ymyrraeth gynnar yn allweddol wrth ymdrin â’r atgyfeiriadau a ddaw gerbron y gwasanaeth ac mai’r bwriad oedd osgoi’r angen iddynt gael eu huwchgyfeirio ymhellach.

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod Swyddogion Amddiffyn Plant profiadol iawn yn rhan o’r Tîm Brysbennu a’u bod yn ymchwilio’n ofalus i bob risg gan archwilio pob achos yn unigol a’i uwchraddio’n briodol.

·       Cadarnhawyd bod aelodau’r cyhoedd yn medru rhoi gwybod i’r Heddlu am unrhyw risg os ystyrir bod hynny’n briodol.

 

        Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr

        adroddiad a'r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol fel bod trefniadau  llywodraethu’r Awdurdod Lleol a’r asiantaethau sy’n bartneriaid yn cael eu monitro. 

Bu i’r Cadeirydd ddiolch i Elizabeth Upcott a’i thîm a’u llongyfarch am eu gwaith      caled.

 

20.

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar Ragfyr 2il 2022 pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, i’r cyfarfod i gyflwyno’r eitem am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd â’r Is-gadeirydd, Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr CAVO a Naomi McDonagh, Rheolwr Partneriaethau ac Argyfyngau Sifil.

 

Cyflwynodd Hazel Lloyd-Lubran gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau      Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2022 gerbron y Pwyllgor.

 

          Dyma’r prif bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth:

·       Roedd gwaith ar y gweill i groesawu ceiswyr lloches i Geredigion.

·       Roedd dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ystyried a’i drafod.

·       Cadarnhawyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cwrdd 5 gwaith y flwyddyn.

·       Roedd yr hybiau croeso cynnes yn cael eu trafod yn barhaus â’r cymunedau.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad  canlynol:

 

·       Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2022.

 

Cytunodd yr Aelodau i dderbyn yr argymhelliad er mwyn cyflawni eu rôl o gadw  golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

             

           Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Bwrdd   Gwasanaethau Cyhoeddus, y Cynghorydd Bryan Davies; yr Is-gadeirydd, Hazel Lloyd-Lubran a Naomi McDonagh, Rheolwr Partneriaethau ac Argyfyngau Sifil am ddod i’r cyfarfod, am gyflwyno’r wybodaeth ac am ateb y cwestiynau.

 

21.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

 

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydlynu a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022 yn gywir ac nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion hynny.

 

The minutes of the Coordinating meeting held on the 23rd of November

             2022 were confirmed as a true record of proceedings and there were no

             matters arising from those minutes.

 

22.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i Gadeirydd pob Pwyllgor (neu’r Is-gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd), ddarparu gwybodaeth yn eu tro am Flaenraglenni Gwaith eu Pwyllgorau.  

              

 

1.    Cymunedau Ffyniannus

Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn dilyn cais ganddo, y byddai cyfarfod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei gynnal ddydd Llun 30 Ionawr am 2pm a bod gwahoddiad i bob aelod nad oeddent ar y Cabinet fod yn bresennol i drafod y gwasanaeth casglu gwastraff. Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod trafodaethau eisoes wedi’u cynnal ynglŷn â’r amharu a fu ar y gwasanaethau gwastraff yn ddiweddar a bod gwelliannau wedi’u cyflwyno yn y tymor byr.

2.    Cymunedau Iachach

Yn absenoldeb y Cadeirydd, rhoddodd y Cynghorydd Ceris Jones, yr Is-gadeirydd, ddiweddariad am waith y Pwyllgor.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod awgrym wedi’i wneud yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ddydd Llun y dylai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach dderbyn adroddiad gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd yn y dyfodol ynglŷn â Hylendid Bwyd.  

3.    Cymunedau sy'n Dysgu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am flaenraglen waith y Pwyllgor Cymunedau sy’n Dysgu. Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor y byddai Aelodau un o’r ffrydiau gwaith yn ymweld ag ysgolion yn fuan.

4.    Adnoddau Corfforaethol

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am flaenraglen waith y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol. Dywedodd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod digwyddiad wedi’i gynnal yn Siambr y Cyngor yn ddiweddar ynglŷn â’r Ffermydd Sirol a bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cytuno i ymweld â’r Ffermydd Sirol yn y misoedd nesaf.  

Ychwanegodd y Cadeirydd fod un o’r Aelodau wedi gofyn am gynnwys Caffael fel eitem ar agenda un o gyfarfodydd y dyfodol.  Byddai hyn yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol.

5.    Pwyllgor Cydlynu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am flaenraglen waith y Pwyllgor Cydlynu.

              

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor am ddod i’r cyfarfod.                                        Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am.