Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd
Endaf Edwards am na fedrai ddod i’r
cyfarfod. Hefyd, ymddiheurodd Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi a Pherfformiad
am na fedrai ddod i’r cyfarfod.
|
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Ni
ddatgelwyd dim buddiannau personol na buddiannau
a oedd yn
rhagfarnu. Roedd y Cynghorydd Rhodri
Evans yn dymuno nodi bod ei wraig yn
cael ei chyflogi
gan yr Awdurdod
Lleol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3
Cyfarfod Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022 a Chynllun Llesiant Lleol Drafft Ceredigion ar gyfer 2023-28. Daeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, i’r cyfarfod i gyflwyno’r
eitem am y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd
Diana Davies a Naomi McDonagh, y Swyddogion perthnasol hefyd yn bresennol. Esboniodd yr
Arweinydd ei bod yn ofynnol, o dan Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg
a Chraffu y pŵer i graffu ar
y penderfyniadau a wneir,
neu gamau eraill a gymerir, gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal
yr Awdurdod Lleol wrth iddo
arfer ei swyddogaethau. Roedd adran 39 hefyd yn nodi bod yn rhaid i bob Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus anfon
copi o’i Gynllun Llesiant Lleol at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol. Roedd y canllawiau statudol ar Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn
ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal heb fod
yn hwyrach na blwyddyn cyn
iddo gyhoeddi ei Gynllun Llesiant
Lleol. Roedd y canllawiau hefyd yn ei gwneud
hi’n ofynnol i’r Cynllun Llesiant
Lleol gael ei gyhoeddi heb
fod yn hwyrach
na 12 mis ar ôl pob etholiad
llywodraeth leol cyffredin. Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion ei Asesiad o Lesiant Lleol ar
4 Mai 2022 ac fe’i cyflwynwyd
i’r Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin
2022. Bu’r Asesiad o Lesiant Lleol yn
allweddol wrth lywio a sefydlu’r pedwar Amcan Llesiant
Lleol y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
ar 7 Mawrth 2022 ac a gyflwynwyd
i’r Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin.
Esboniodd yr Arweinydd mai’r amcanion hyn fyddai’r
sail i Gynllun Llesiant Lleol nesaf Ceredigion a’i bod fel a ganlyn: 1.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i
sicrhau economi gynaliadwy sydd o fudd i bobl
leol ac yn adeiladu ar gryfderau
Ceredigion. 2.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i
leihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau
ac yn defnyddio atebion cymdeithasol a gwyrdd i wella
iechyd corfforol a meddyliol. 3.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i
ddarparu mentrau datgarboneiddio yng Ngheredigion i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol. 4.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i
alluogi cymunedau i deimlo’n ddiogel
ac yn gysylltiedig a byddwn yn hyrwyddo
amrywiaeth ddiwylliannol ac
yn cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r
Gymraeg. Cytunwyd hefyd y byddai amcan trawsbleidiol
i fynd i’r
afael â chaledi a thlodi yn cael
ei ymgorffori yn y cynllun i
adlewyrchu goblygiadau’r argyfwng costau byw yn awr
ac yn y dyfodol. Cydnabuwyd y byddai gan hyn y potensial
i gael effaith
ar draws y pedwar piler lles – lles economaidd,
cymdeithasol, amgylcheddol
a diwylliannol, a byddai gweithio gyda’n gilydd ar draws sefydliadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn helpu
i gynnal ffocws ar y maes
gwaith hwn. Dywedwyd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod cynnwys y Cynllun Llesiant Lleol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Adroddiad Monitro'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3
Adroddiad monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22 Croesawyd y Cynghorydd
Catrin MS Davies, Aelod Cabinet a Cathryn Morgan i gyflwyno adroddiad
monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22.
Roedd Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol
i ystyried anghenion pob unigolyn
yn ein gwaith
bob dydd. Roedd y Ddeddf yn cynnwys
Dyletswyddau Cydraddoldeb
Sector Cyhoeddus Penodol i Gymru a oedd
yn ei gwneud
hi’n ofynnol i’r Cyngor bennu
Amcanion Llesiant mewn Cynllun Cydraddoldeb
Strategol, ac roedd yn rhaid adolygu’r
cynllun bob pedair blynedd.
Rhoddir sylw i’r modd y caiff
y Gymraeg ei hybu a’i defnyddio
ym Mesur y Gymraeg 2011, yn hytrach na’r Ddeddf
Cydraddoldeb. Fodd bynnag, roeddem yn ystyried gofynion
y Gymraeg ochr yn ochr â nodweddion
gwarchodedig y Ddeddf Cydraddoldeb er mwyn hyrwyddo dull cyfannol.
Roedd cynllun gweithredu’n sicrhau bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 y Cyngor yn cael ei
gyflawni, ac roedd wedi’i rannu i
5 Amcan Cydraddoldeb. Dywedwyd mai hwn oedd yr
ail adroddiad blynyddol ynghylch y cynnydd a wnaed o ran Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-
2024. Roedd y system lliwiau
BRAG yn dangos pa mor dda yr
oedd y camau gweithredu’n perfformio neu’n cael eu
cyflawni, o gymharu â’r llynedd.
Tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol: • Cyflwynwyd asesiad risg beichiogrwydd diwygiedig. Roedd yr asesiad risg
bellach yn adlewyrchu’n well canllawiau presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch pobl feichiog
yn y gweithle. • Roedd y tîm Cydlyniant Cymunedol rhanbarthol yn parhau i weithio
gyda phartneriaid i annog pobl
i godi ymwybyddiaeth
am droseddau casineb ac i adrodd am unrhyw
achosion. Cynhaliwyd digwyddiadau ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i fynd i’r
afael â throseddau casineb, gan gynnwys
Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, digwyddiad ‘Golau Glas’ ar gyfer
ffoaduriaid, Sesiynau Peilot Casineb Ar-lein a Hyfforddiant Small
Steps ynghylch yr Asgell Dde. • Etholwyd Lloyd Warburton, disgybl
yn Ysgol Penglais, fel yr Aelod
newydd o Senedd Ieuenctid
Cymru dros Geredigion ac roedd hefyd yn
aelod gweithgar o Gyngor Ieuenctid Ceredigion. • Bu’r Gofrestr Tai Hygyrch a’r Polisi Tai Hygyrch ar waith
ers mis Mehefin 2016. O ganlyniad, roedd nifer y bobl a ddefnyddiai’r gofrestr tai hygyrch ac a dderbyniai gynigion yn dilyn
hynny yn parhau i gynyddu. • Roedd perfformiad disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol Ceredigion yn dda. Cafwyd cynnydd
yn nifer y disgyblion a oedd
wedi cael diagnosis o awtistiaeth ddifrifol
yn y blynyddoedd cynnar, a’r disgyblion
oedd ag anghenion cymhleth. • Roedd pandemig COVID-19 wedi cael effaith mawr ar y cynnydd yr oedd dysgwyr sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn ei wneud, er ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i’r targedau: 9.5% o ddisgyblion wedi symud i fyny lefel (targed = 5%). 3.4% wedi gwneud cynnydd o 2 lefel neu fwy (targed = 1%). 77.7% o ddisgyblion sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar god C-E. O’r rhain roedd 56.9% yn gymwys (D) neu’n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 3
Adroddiad ar
y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 ac Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2022 Croesawyd Arweinydd
y Cyngor ynghyd â Geraint
Edwards, y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol i gyflwyno’r Adroddiad ar y Bwlch Cyflog
rhwng y Rhywiau 2022 a’r Adroddiad Cydraddoldeb
yn y Gweithlu 2022. Roedd yn ofynnol
i Gyngor Sir Ceredigion, ynghyd â’r holl
awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, adrodd ar y bwlch cyflog
rhwng y rhywiau a chyhoeddi gwybodaeth am y gweithlu yn flynyddol.
Roedd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
2011, a oedd yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb
2010, yn ei gwneud yn ofynnol
i’r Cyngor gyhoeddi amrywiaeth o ddata am ein gweithlu
o dan bob un o’r nodweddion
gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol: ·
Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn ag annog mwy o fenywod
i ymgeisio am rolau uwch swyddogion,
dywedodd y Swyddog wrth yr Aelodau
fod disgwyl y byddai’r Polisi Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith yn cael ei
adolygu yn gynnar yn 2023 ac y byddai’n cael ei
gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar yr adeg honno.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i
dderbyn yr Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng
y Rhywiau 2022 a’r Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2022.
|
|
Adroddiad Hunanasesu 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawyd yr Arweinydd unwaith eto i gyflwyno
Adroddiad Hunanasesu 2021/22. Roedd
Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn disodli Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2009 gynt ac yn cyflwyno cyfundrefn
berfformiad newydd ar gyfer Prif
Gynghorau yn seiliedig ar Hunanasesu.
Bwriad y gyfundrefn
berfformiad newydd oedd adeiladu a chefnogi diwylliant lle’r oedd cynghorau
yn ceisio gwella a gwneud yn well yn barhaus
ym mhopeth a wnânt, heb ystyried
pa mor dda yr oeddent yn perfformio
eisoes. Roedd y Ddeddf yn disgwyl
y byddai’r cynghorau bob amser yn ymdrechu
i gyflawni mwy a cheisio sicrhau’r
canlyniadau gorau i bobl a chymunedau
lleol. Un ffordd o wneud hyn oedd
herio’r sefyllfa bresennol yn barhaus
a gofyn cwestiynau ynghylch sut yr
oeddent yn gweithredu. Roedd y
Ddeddf yn cyflwyno 5 dyletswydd benodol ar gyfer
Cynghorau: • Y ddyletswydd i adolygu perfformiad yn barhaus • Y ddyletswydd i ymgynghori
ar berfformiad • Y ddyletswydd i adrodd
ar berfformiad • Y ddyletswydd i drefnu
asesiad o berfformiad gan banel • Y ddyletswydd i ymateb
i adroddiad ar asesiad o berfformiad
gan banel Byddai’r hunanasesiad
yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na
phrosesau ac roedd disgwyl i awdurdodau
lleol arfer ymagwedd wahanol at asesu eu perfformiad
i’r hyn ydoedd
cynt. Byddai hyn yn gofyn
am fwy o fyfyrio ar yr hunan.
Ers mis Mai 2022 bu Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal rownd gyntaf
y broses Hunanasesu ac roedd
y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu wedi chwarae rhan
ganolog ynddi: • Ar 15 Mehefin 2022 cyflwynwyd y broses Hunanasesu a ddatblygwyd i’w defnyddio yng Ngheredigion
i’r Pwyllgor. (roedd dull y Cyngor
yn defnyddio set o Brif Lwybrau Ymholi
neu gwestiynau allweddol i helpu i
ganolbwyntio ar ofynion Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau). • Ar 29 Gorffennaf 2022 cynhaliwyd gweithdy gyda’r Pwyllgor i gofnodi canfyddiadau
Aelodau ar berfformiad y Cyngor a chyfleoedd i wella
fel y gellid cyfrannu’r wybodaeth at y Matrics Hunanasesu. (tabl oedd
y Matrics a oedd yn casglu ynghyd
yr holl dystiolaeth,
heriau’r dyfodol, y gweithredu arfaethedig a’r sgoriau). • Ar 10 Awst 2022 cynhaliwyd gweithdy arall gyda’r Pwyllgor i adolygu’r sgoriau
drafft a’r Matrics Prif Lwybrau
Ymholi. Ers hynny, defnyddiwyd y dystiolaeth a gasglwyd i gynhyrchu
Adroddiad Hunanasesu, a oedd i’w
weld yn Atodiad 3. Hwn oedd allbwn
allweddol y broses Hunanasesu
ac roedd yn amlinellu’r modd yr oedd y Cyngor
yn perfformio ar hyn o bryd
a’r camau yr oedd yn
bwriadu eu cymryd wrth symud
ymlaen. Roedd Adroddiad Hunanasesu 2021/22 yn cyflawni gofynion: • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
– wrth osod ein Hamcanion Llesiant
Corfforaethol ac adolygu’r cynnydd a wnaed o ran yr amcanion hyn.
• Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 – y ddyletswydd i adolygu perfformiad yn barhaus, i ymgynghori ar berfformiad, i adrodd ar berfformiad, i drefnu asesiad o berfformiad gan banel ac i ymateb i adroddiad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|
Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog, fel y'i nodwyd yn Neddf y Lluoedd Arfog 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd y Cynghorydd Paul Hinge, yr Aelod Eiriolwr dros y Lluoedd
Arfog i gyflwyno’r adroddiad. Roedd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet,
wedi ymddiheuro am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Hinge wrth y Pwyllgor, yn sgil cymal 8 Deddf
Lluoedd Arfog 2021, fod gofyniad newydd ar rai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys
Awdurdodau Lleol, i roi sylw dyladwy i egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Ychwanegodd y byddai angen i’r Cyngor gydymffurfio â’r gyfraith newydd a ddaeth
i rym ar 22 Tachwedd 2022. Y swyddogaethau a oedd yn berthnasol i’r cyngor o
ran y ddeddf hon oedd tai, addysg a’r gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.
Roedd Deddf y Lluoedd Arfog 2021 yn ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog
yn gyfraith ac roedd hyn yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus
i sicrhau nad oedd aelodau’r lluoedd arfog, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd dan
anfantais pan fyddent yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Derbyniodd Deddf y
Lluoedd Arfog 2021 Gydsyniad Brenhinol ar 15 Rhagfyr 2021. Cyflwynwyd y Canllawiau Statudol drafft ynghylch Dyletswydd Cyfamod y
Lluoedd Arfog gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2022. Cafodd y Pwyllgor wybod am y sefyllfa
bresennol. Wrth gyflawni ei ymrwymiadau presennol, roedd y Cyngor yn rhoi sylw
dyladwy i ofynion Cymuned y Lluoedd Arfog, ac roedd wedi ceisio adeiladu'n
gadarnhaol ar ei ymrwymiad ers gwneud ei addewid cychwynnol. Roedd hyn wedi
arwain at wneud gwelliannau uniongyrchol i bolisïau'r Cyngor fel rhan o'i
ymrwymiad i'r Cyfamod. Roedd hyn i’w weld yn glir yn y polisi cydbwysedd rhwng
bywyd a gwaith a oedd yn cefnogi opsiynau gweithio hyblyg. Roedd y polisi hwn
hefyd yn cydnabod yr angen clir i aelodau’r lluoedd arfog a milwyr wrth gefn
gael cyfnodau awdurdodedig ychwanegol o absenoldeb i gefnogi eu hymrwymiadau
ychwanegol. Rhoddodd y Cynghorydd Hinge ddwy enghraifft ardderchog o
sefyllfaoedd lle’r oedd yr Awdurdod wedi cefnogi milwyr wrth gefn a’u teuluoedd
yn ddiweddar. Hefyd, trwy ddarparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth, roedd Cyngor Sir
Ceredigion wedi arwain y gwaith o sefydlu Fforwm Cymunedol Lluoedd Arfog
Ceredigion a oedd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i godi proffil
Cymuned y Lluoedd Arfog yn barhaus. Trwy ymyriadau uniongyrchol a gweithio mewn
partneriaeth, roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau ei ymrwymiad i Gynllun
Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ac roedd y gwaith cadarnhaol hwn
wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Arian ac Efydd. Yn ogystal â'r uchod, roedd trefniadau ar y gweill i hyrwyddo
hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ychwanegol drwy gyrsiau ar-lein a fyddai’n
paratoi’r gwasanaethau ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Byddai hyn yn cael ei
hyrwyddo drwy’r Tîm Dysgu a Datblygu. Byddai adolygu polisïau Addysg a Thai y
Cyngor hefyd yn cael ei ystyried er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â Chyfamod y
Lluoedd Arfog. Byddai’r Canllawiau Statudol yn cael eu hystyried ynghyd ag
enghreifftiau o gyngor ac arferion da. Byddai’r Cyngor yn defnyddio’r rhain i
wella'r ddarpariaeth ymhellach ac i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r
ddeddfwriaeth. CAMAU ARFAETHEDIG Yn ogystal â'r gwaith yr oedd y Cyngor eisoes yn ei wneud, cynigiwyd y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Elin Prysor, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol a’r Swyddog Monitro adroddiad ynghylch yr adolygiad o Bolisi RIPA ac Arolygiad Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO). Nodwyd bod y Pwyllgor wedi derbyn
yr adroddiad blaenorol ar 26 Medi 2022.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod Paragraff 4.47 Cod Ymarfer diwygiedig y Swyddfa Gartref ar Wyliadwriaeth Gudd ac Ymyrryd ag Eiddo (2018) yn nodi y dylai aelodau etholedig
awdurdod lleol adolygu defnydd yr awdurdod o RIPA a phennu’r polisi unwaith y flwyddyn. Adroddwyd ar Weithgarwch
RIPA yn yr adroddiad blaenorol i’r pwyllgor hwn
ar 26 Medi 2022. Cafodd diwygiadau i Bolisi
RIPA eu cyflwyno’n fwyaf diweddar i’r pwyllgor hwn
ar 15 Medi 2022. Yn y cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 26 Medi
2022, adroddwyd bod cyfarfodydd
wedi’u cynnal gyda’r IPCO yn rhan o’i arolygiad.
Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, roedd y Cyngor wedi derbyn llythyr
oddi wrth yr IPCO yn crynhoi
prif ganfyddiadau’r arolygiad ac roedd y llythyr hwnnw ynghlwm
wrth bapurau’r agenda. Mewn ymateb i’r
trafodaethau a gafodd eu cynnal yn
ystod yr arolygiad ynghylch amlder dim gweithgarwch o ran gwyliadwriaeth ar-lein, crëwyd templed e-bost newydd a fyddai’n
cael ei ddefnyddio
wrth wneud cais i Swyddogion
Dynodedig am adroddiadau chwarterol ar weithgarwch
gwyliadwriaeth ar-lein. Bwriad y templed diwygiedig hwn oedd rhoi mwy
o eglurder o ran y wybodaeth
y gofynnir amdani. Roedd y templed hwn hefyd ynghlwm
wrth bapurau’r agenda. Dywedwyd hefyd fod yr IPCO wedi
cyhoeddi eu cylchlythyr chwarterol ar gyfer Hydref 2022 a’i fod ar
gael i’w weld ar eu gwefan.
Yn dilyn
trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor:
1)
Nodi cynnwys y copi drafft diwygiedig
o Bolisi Corfforaethol RIPA
a’r Ddogfen Weithdrefnau, 2) Nodi cynnwys
Adroddiad Arolygiad IPCO, 3) Nodi cynnwys ymateb yr Uwch-swyddog Cyfrifol i Adroddiad
Arolygiad
IPCO, 4) Nodi cynnwys
y Cais E-bost wedi’i ddiweddaru am Weithgarwch RIPA, a, 5) Nodi cynnwys
Cylchlythyr Chwarterol IPCO
ar gyfer Hydref 2022. Cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor i nodi a derbyn argymhellion 1-5 a restrir uchod er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn cael
y wybodaeth ddiweddaraf o
ran y diwygiadau i Bolisi RIPA a chanlyniad Arolygiad RIPA ar y Cyngor a gynhaliwyd gan IPCO yn ddiweddar. |
|
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Alun Williams, yr
Aelod Cabinet, yn bresennol i gyflwyno Adroddiad Diogelu
Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2022-23. Yn ystod trafodaethau,
amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol: · Yn Chwarter 1, roedd
gostyngiad yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd o'i gymharu â
Chwarter 4 gyda 943 o gysylltiadau/adroddiadau wedi'u derbyn yn Chwarter 1 a
1010 wedi'u derbyn yn Chwarter 4. · Fodd bynnag, roedd
cynnydd yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a aeth ymlaen i angen cymryd camau
o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant, 221 yn Chwarter 1 o'i gymharu â 154 yn
Chwarter 4. · Canran yr adroddiadau a
aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 23.4% o'i gymharu â
21.8% yn Chwarter 4. Aeth 11.5% o'r rhain ymlaen i ymholiad Adran 47 o'i
gymharu â 6.49% yn Chwarter 4, ac aeth 1.4% ymlaen i Gynhadledd Gychwynnol
Amddiffyn Plant o'i gymharu â 0.99% yn Chwarter 4. · Cyfanswm y plant a
roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn Cynhadledd
oedd 12, o'i gymharu â 21 yn y chwarter blaenorol. · Cyfanswm y plant a
dynnwyd oddi ar y gofrestr oedd 14 o'i gymharu â 12 yn y chwarter blaenorol. · Cyfanswm yr ymholiadau
Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 109, cafodd 92 eu cynnal ar y
cyd â'r Heddlu, a chafodd 17 eu cynnal fel Asiantaeth Sengl Gwasanaethau
Cymdeithasol. Yn Chwarter 4 nifer yr ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd oedd 65,
cafodd 64 eu cynnal ar y cyd â'r Heddlu. · Y prif gategori o
gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 1 oedd cam-drin
corfforol (47) ac yna cam-drin/camfanteisio'n rhywiol(44), o'i gymharu â
Chwarter 4 lle mai cam-drin corfforol (22) oedd yr ail brif gategori, a
cham-drin/camfanteisio'n rhywiol (29) oedd y prif gategori o gam-drin. · Y prif ffactorau risg
ar gyfer y 40 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 30/06/22 oedd
cam-drin domestig (38), iechyd meddwl rhieni (28), troseddau treisgar oedolion
(28), troseddau treisgar gan oedolion (27),
rhieni yn camddefnyddio sylweddau/camddefnyddio alcohol (27), a diffyg
cydweithrediad rhieni â'r Cynllun Amddiffyn Plant (17). · O ran Diogelu Oedolion,
bu gostyngiad yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu
cam-drin a/neu eu hesgeuluso, gyda 120 yn Chwarter 4 a 107 yn Chwarter 1, a'r
adroddiadau gwirioneddol a dderbyniwyd oedd 120 yn Chwarter 1 ac 154 yn
Chwarter 4. · Y categori o gam-drin
yr adroddwyd amdano fwyaf yn ystod y chwarter hwn oedd cam-drin
emosiynol/seicolegol, gyda 58 o adroddiadau yn datgan mai hwn oedd y prif
gategori o gam-drin. Y categori hwn o gam-drin oedd y prif gategori o gam-drin
a adroddwyd yn Chwarter 4 hefyd lle cafwyd 61 o adroddiadau. Esgeulustod
oedd yr ail brif gategori o
gam-drin a adroddwyd (46), yna cam-drin ariannol (34) a cham-drin
corfforol. Roedd 9 adroddiad o gam-drin rhywiol. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad a'r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol fel bod trefniadau llywodraethu’r Awdurdod Lleol a’r asiantaethau sy’n bartneriaid ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny Cofnodion: 3
Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cydlynu a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022
yn gywir ac nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion hynny. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod
i’r cyfarfod ac am eu hamynedd. Ymddiheurodd
am y problemau technegol a gafwyd yn ystod
y cyfarfod. Gofynnodd y Cadeirydd i Arweinydd
a Dirprwy Arweinydd y Cyngor gyfeirio pryderon y Pwyllgor at y person/pobl briodol gan
fod problemau technegol wedi amharu ar y cyfarfod
14 o weithiau yn ystod y bore. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd pob Cadeirydd ddiweddariad
yn eu tro
am flaenraglenni gwaith eu Pwyllgorau. Gofynnodd y Cynghorydd
Keith Evans, y Cadeirydd, am gynnwys
diweddariad ynglŷn â’r System Hybrid ar agenda cyfarfod y Pwyllgor a fyddai’n cael ei
gynnal ar 18 Ionawr 2023. Cadarnhawyd hefyd y byddai adroddiad am Gylch Caron yn cael ei
gyflwyno yn yr un cyfarfod. Diolchodd
y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor am ddod i’r cyfarfod
a daeth y cyfarfod i ben am 12:34pm. Hefyd, dymunodd yn dda
i bawb dros
y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. . |