Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Iau, 27ain Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Lisa Evans  Dwynwen Jones

Eitemau
Rhif eitem

48.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

1.    Ymddiheurodd y Cynghorwyr Caryl Roberts, Ceris Jones a Rhodri Evans am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod. 

2.    Ymddiheurodd Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, am ei anallu i fynychu’r cyfarfod. 

 

49.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Dim

50.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor ganolbwyntio eu cwestiynau ar yr eitemau penodol ar yr agenda.

 

51.

Recriwtio a Chadw Staff pdf eicon PDF 168 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad Recriwtio gan esbonio mai’r rheswm dros yr adroddiad oedd rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y sefyllfa bresennol ynghylch recriwtio a chadw staff defnydd a wneir o staff asiantaeth

megis gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal a therapyddion galwedigaethol.

 

Yna cyflwynodd Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y wybodaeth.

 

Roedd y prif bwyntiau a gododd o’r drafodaeth fel a ganlyn:

·       Mae’r defnydd o weithwyr asiantaeth proffesiynol wedi dod yn fwyfwy amlwg o fewn gofal cymdeithasol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf a hynny ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gweld cynnydd yn yr angen am weithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr gofal cymwysedig. Wrth ymateb i'r sefyllfa hon, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn greadigol gan nodi ystod o atebion i sicrhau bod gwasanaeth diogel yn cael ei ddarparu.

·       Bu cynnydd calonogol yn nifer y ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer rolau parhaol yn yr awdurdod lleol dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, rydym yn parhau i ddibynnu ar asiantaethau sy’n costio’n ddrud wrth i ni ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Ngheredigion.

·       Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau statudol diogel i'r bobl fwyaf anghenus yng Ngheredigion. Er mai Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor sydd yn y pen draw yn gyfrifol am hyn, mae cyfrifoldeb ar y sefydliad i gefnogi'r Cyfarwyddwr i sicrhau bod y cyfrifoldebau hyn yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac mewn modd sy'n arwain at wasanaeth diogel. Ar ei waethaf, byddai'r risg o beidio â chael gwasanaeth diogel yn peri risg i fywydau defnyddwyr gwasanaeth ond hefyd byddai’n arwain at risg ariannol sylweddol gan gael effaith ar y staff a’r capasiti pe byddai’r Cyngor yn cael ei roi mewn mesurau arbennig. Yn y meysydd hynny o fewn gofal cymdeithasol lle mae recriwtio yn heriol, caiff staff asiantaeth eu defnyddio. Mae angen gwario’r arian hwn er mwyn sicrhau bod gennym wasanaeth diogel. Trwy ddefnyddio staff asiantaeth, rydym yn sicrhau bod anghenion y Cyngor ac anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu diwallu.

·       mae'r her o ran recriwtio ym maes gofal cymdeithasol yn un genedlaethol, ac mae’n debygol o barhau’n her os na fydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y materion sydd wrth wraidd hyn.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â staff sy’n siarad Cymraeg, cadarnhawyd bod cyfran sylweddol o’r Staff yn siaradwyr Cymraeg.

·       Cadarnhawyd bod yr awdurdod yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Abertawe i dderbyn lleoliadau gwaith.

·       Cadarnhawyd bod Ysgolion Uwchradd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â'r sefyllfa alldro arfaethedig o ragolwg gorwariant o £808k ar gyfer 2024/2025, cytunwyd bod costau'n parhau i gyflymu gyda'r galw am wasanaethau gofal cymdeithasol yn cynyddu oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, anghenion gofal cymhleth cynyddol, a newidiadau deddfwriaethol a gwariant y tu allan i'r sir. Nodwyd hefyd bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 51.

52.

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar y 3 Mawrth 2025 pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd Croesawyd Hazel Lloyd-Lubran, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i’r cyfarfod i gyflwyno cofnodion drafft cyfarfod 3 Mawrth 2025.

O dan Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu ar y penderfyniadau a wneir, neu gamau eraill a gymerir, gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ardal yr Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

Roedd y prif bwyntiau a gododd o’r drafodaeth fel a ganlyn:

  • Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (BPRh) yn ystyried adolygu eu strwythurau llywodraethu a'u heffeithiolrwydd gweithredol o fewn y System Iechyd a Gofal Rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys arolwg sy'n asesu perfformiad pob Bwrdd sy’n eistedd o dan y Bwrdd Rhanbarthol. Bydd cyfarfod gyda phartneriaid allweddol y Bwrdd Rhanbarthol yn ceisio cadarnhau ymrwymiad i'r Bwrdd a chadarnhau ei ffocws strategol. Bydd adroddiad dilynol sy'n crynhoi'r trafodaethau hyn yn cael ei gylchredeg i'w adolygu a'i ystyried ar ôl ei gwblhau. Mae Hazel Lloyd-Lubran wedi cyfarfod â Chadeiryddion BGC eraill yn rhanbarthol, a mynegwyd diddordeb mewn sefydlu cytundeb cydweithredol rhwng y BPRh a'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn cydweithio ar flaenoriaethau a rennir a phynciau ffocws. Cynghorodd y Pwyllgor ei bod yn bwriadu adolygu strwythur llywodraethu’r BPRh ei hun hefyd.
  • Adroddwyd bod Russel Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio, a gyflwynodd Sesiwn Sbotolau ar Ffyrdd o Weithio. Esboniodd Russel Hughes-Pickering fod Cyngor Sir Ceredigion wedi dechrau gweithio ar brosiect ‘Ffyrdd o Weithio’, a oedd hefyd yn cynnwys cynhyrchu Strategaeth Gweithio Hybrid. Sefydlwyd y prosiect i ystyried yr awydd am newid hirdymor o fewn y gweithlu a chymaint y newid i weledigaeth strategol ehangach o ran ble, pryd a sut y gall pobl gael mynediad at wasanaethau. Mae mannau gwaith hybrid ar gael yng Nghanolfan Rheidol a Phenmorfa.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, llogwyd dros 17,000 o ddesgiau, heb gynnwys y rhai a fynychodd y ddau leoliad er mwyn mynychu cyfarfodydd mewn ystafelloedd cyfarfod. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd lle gofynnwyd i drigolion sut yr hoffent weld unrhyw fannau nas defnyddiwyd yng Nghanolfan Rheidol a Phenmorfa yn cael eu defnyddio. Roedd yr adborth gan y cyhoedd yn dangos mai Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd ar draws y 2 safle. Yn seiliedig ar yr adborth, mae swyddfeydd wedi'u hailgynllunio i gefnogi'r Rhaglen Llesiant Gydol Oes ym Mhenmorfa, gyda'r Ganolfan Byw'n Annibynnol newydd yn agor ar y llawr gwaelod yn 2024. Yng Nghanolfan Rheidol, mae'r Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn treialu'r defnydd o ardaloedd ar y llawr gwaelod a'r ail lawr, sy'n cynnwys sesiynau ffisiotherapi. Mynegodd partneriaid barodrwydd i gymryd rhan mewn sgyrsiau pellach ynghylch archwilio cyfleoedd ar gyfer cydleoli gwasanaethau, gyda chonsensws y gallai’r costau sy'n cael eu gwario ar orbenion ychwanegol gael eu defnyddio’n well ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Cynghorodd y Cadeirydd y Pwyllgor y bydd grŵp ffocws yn cael ei sefydlu i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 52.

53.

Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Duncan Hall i gyflwyno Trosolwg o’r materion ariannol o Gyllid Refeniw Rheoledig – Perfformiad Ariannol – Chwarter 3.

 

Roedd y prif bwyntiau a gododd o’r drafodaeth fel a ganlyn:

  • Ar hyn o bryd, rhagwelir tanwariant o £97k am y flwyddyn ar y Gyllideb Reoledig. Hynny yw, disgwylir i sefyllfa gytbwys gael ei chyflawni ar gyfer y flwyddyn ariannol 24/25.
  • Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwrthdroi £35k ar gyfer y cynnig o adleoli llyfrgell Llanbedr Pont Steffan yng nghyllideb 25/26, cadarnhawyd mai penderfyniad gwleidyddol oedd hwn.
  • Mewn ymateb i ddatganiad ynglŷn â ffioedd parcio promenâd Aberystwyth a gytunwyd yn ystod cyllideb 24/25 ond nas cyflawnwyd, cadarnhawyd hyn fel penderfyniad gwleidyddol sydd bellach wedi ei gymryd ac felly nid yw bellach yn cael ei ddangos mewn statws COCH.
  • Cadarnhawyd yn dilyn cwestiwn yn ymwneud â’r Cynllun Tai Cymunedol (Rhannu Ecwiti)  bod y cynllun yn cael ei hyrwyddo’n weithredol a bod saith cais wedi’u cymeradwyo hyd yma. Awgrymwyd gan Gynghorydd y dylai’r Awdurdod ymchwilio i’r posibilrwydd o brynu eiddo i’w moderneiddio ac yna eu gwerthu.
  • Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd Storm Bert (23/11/24) a Storm Darragh (05/12/24) yn costio tua £350k i'r Cyngor, gyda risg ar yr ochr orau. Yn ystod y drafodaeth mewn perthynas â’r costau, awgrymwyd efallai y byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus yn dymuno gofyn am adroddiad ar hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â materion ataliol e.e. Gwagio coed a gylïau. 
  • O fis Ebrill 2025, bydd cyfradd Yswiriant Gwladol yn codi o 1.2% i 15%, a bydd y trothwy eilaidd (pan ddaw cyfraniadau cyflogwyr i rym) yn gostwng o £9,100 i £5,000. Mae’r newidiadau hyn yn golygu baich Yswiriant Gwladol uwch. Does dim sôn wedi bod am union amseriad a lefel y cyllid y bydd yr Awdurdod lleol yn ei dderbyn. Cadarnhawyd hefyd bod Tŷ’r Cyffredin wedi pleidleisio i wrthdroi cynnig Tŷ’r Arglwyddi a fyddai wedi eithrio darparwyr Gofal Cymdeithasol rhag y codiadau Yswiriant Gwladol.
  • Mewn perthynas â’r ymholiad ynghylch Gwaith Trin Carthion a arhosodd gyda’r Cyngor yn dilyn trosglwyddo'r Stoc Tai a bod Dŵr Cymru wedi mabwysiadu’r trosglwyddiadau hynny, awgrymwyd efallai y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus yn dymuno ystyried y pwnc hwn yn y dyfodol.
  • Mewn perthynas ag ymholiad ynglŷn â Gwaith Trin Carthion a arhosodd gyda'r Cyngor ar ôl trosglwyddo'r Stoc Tai a'u mabwysiadu gan Dŵr Cymru drosglwyddiadau, awgrymwyd efallai y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus yn dymuno ystyried y pwnc hwn yn y dyfodol.
  • Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd yr awdurdod yn gwneud pob dim yn eu gallu i hwyluso dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, cytunwyd y byddai’r Cymunedau Iachach yn ystyried hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol.  
  • Awgrymodd y Cadeirydd y dylai pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ystyried cyllid holl wasanaethau’r Cyngor yn y Pwyllgor Craffu perthnasol. Cynghorodd Duncan Hall i’r Pwyllgor gytuno ar gwmpas clir gan ei fod yn amhosibl craffu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 53.

54.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn eu tro, rhoddodd pob Cadeirydd / Is-gadeirydd a Swyddog Craffu diweddariad ar Gynlluniau Blaenraglenni Gwaith eu Pwyllgorau.        

 

Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd i ychwanegu’r canlynol i’r Blaenraglen Gwaith:

·       Mesurau ataliol yn dilyn nifer cynyddol o stormydd – Cymunedau Ffyniannus

·       Diweddariad ar y broses o gwmni Dŵr Cymru yn mabwysiadu Gwaith Trin Carthion y Cyngor – Cymunedau Ffyniannus

·       Sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddiffinio’r ystod o Wasanaethau a chynhyrchu cwmpas clir a chyraeddadwy mewn perthynas â chraffu ar Gyllidebau’r Cyngor – Pwyllgor Cydlynu

·       Adroddiad Bwlio / Gwahaniaethu yn y gweithle (Adnoddau Dynol) – Adnoddau Corfforaethol

·       Cymunedau Iachach i ystyried tai gwag

 

 

55.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod 3 Chwefror 2025 fel cofnod cywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am fynychu’r cyfarfod, ac i Swyddogion, Cyfieithwyr a Lisa Evans a Dwynwen Jones am eu cefnogaeth yn ystod y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd yn arbennig i Lisa Evans, a fydd yn gadael ei rôl bresennol ddiwedd mis Ebrill i ddechrau mewn swydd newydd yn yr Awdurdod. Diolchodd iddi am ei chefnogaeth barhaus yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd y pwyllgor a dywedodd y byddai colled ar ei hôl.