Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb
i’r cyfarfod. 1.
Ymddiheurodd y
Cynghorydd Ceris Jones a’r Cynghorydd Caryl Roberts
am na fedrent ddod i’r cyfarfod.
2.
Ymddiheurodd y
Cynghorydd Mathew Vaux am na fedrai
ddod i’r cyfarfod. 3.
Dywedodd y
Cynghorydd Marc Davies wrth y Pwyllgor
y byddai’n gadael am 12:15pm am ei fod yn
cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir Aelodau am eu cyfrifoldeb personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig a materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol a darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Dim |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Bu i’r Cadeirydd ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb. |
|
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y cyd CYSUR / CWMPAS Ch 2 2024/2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd y Cynghorydd Alun
Williams, yr Aelod Cabinet ac Elizabeth Upcott, y Rheolwr
Diogelu a Sicrwydd Ansawdd Corfforaethol i’r cyfarfod i gyflwyno’r
adroddiad. Dyma grynodeb o’r prif
bwyntiau a gyflwynwyd: Ø Roedd gostyngiad
yn nifer yr atgyfeiriadau yr oedd angen eu danfon
ymlaen i'w hystyried dan Weithdrefnau Amddiffyn Plant - o 274 yn Chwarter 1 i 263 yn Chwarter 2. Derbyniwyd 610 o atgyfeiriadau
yn Chwarter 2. Aeth 43.1% ymlaen i gamau Trafodaethau
Strategaeth, aeth 13% ymlaen i gamau
ymholiadau Adran 47 ac aeth
2.8% ymlaen i Gynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol. Ø Roedd 23 o blant/pobl ifanc
yn destun Cynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol yn Chwarter
2 o'i gymharu â 31 yn Chwarter 1. Ø Yn Chwarter
2 roedd nifer y plant/ y bobl ifanc a gafodd
eu rhoi ar y gofrestr yn 23. Ø Cynhaliwyd 15 o gynadleddau adolygu yn y chwarter hwn
a chafodd 10 plentyn/person
ifanc eu tynnu oddi ar y gofrestr. Ø Yr Heddlu
oedd prif ffynhonnell yr atgyfeiriadau yn ystod y chwarter
hwn. Bu gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau
a dderbyniwyd gan Addysg yn y chwarter
hwn. Ø Cynhaliwyd 79 o Ymholiadau Adran 47 yn ystod y chwarter hwn, cynhaliwyd 67 ar y cyd â'r Heddlu
a chynhaliwyd 12 gan y
Gwasanaethau Cymdeithasol fel
asiantaeth sengl. Ø Y prif
gategori o gam-drin a arweiniodd at Ymholiad Adran 47 oedd cam-drin corfforol ac yna cam-drin / camfanteisio rhywiol. Mae hyn yn gyson
â phatrwm y chwarteri blaenorol. Ø Cynhaliwyd 69.6% o'r Cynadleddau Amddiffyn Plant Cychwynnol o fewn yr amser, sy'n welliant bychan
o’i gymharu â Chwarter 1 ond mae'n glir nad
yw hyn yn
cydymffurfio â’r amserlenni statudol o hyd. Mae’n ymddangos taw argaeledd gweithwyr proffesiynol oedd y prif resymau dros
yr oedi cyn cynnal y cynadleddau, gyda'r angen i
sicrhau bod gan y cyfarfodydd gworwm. Ø Cynhaliwyd 87% o'r Grwpiau Craidd
o fewn yr amser. Ø Cynhaliwyd 90.9% o gyfarfodydd yr Adolygiadau Pryderon Proffesiynol o fewn yr amser. Ø O'r 46 o blant a oedd
ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant ar ddiwedd Chwarter
2, y prif ffactorau risg oedd problemau
iechyd meddwl y rhieni, rhieni’n gwahanu a cham-drin domestig. Ø Nododd 10 cynhadledd fod y rhieni yn bodloni'r
meini prawf ar gyfer Prosiect Ysbrydoli Teuluoedd ac atgyfeiriwyd 5 o'r achosion hyn. Atgyfeiriwyd
1 achos hefyd i’r Rhaglen Cyflawnwyr
Choices. O'r 5 achos a oedd yn
weddill, nododd 4 fod angen ystyriaeth
bellach ynghylch hyn ac nid oedd
y rhiant yn ymgysylltu â’r broses yn yr achos arall. Ø O'r 46 o blant ar y gofrestr, roedd 20 ar y gofrestr oherwydd esgeulustod, 18 oherwydd cam-drin emosiynol/seicolegol, 3 oherwydd cam-drin/ecsbloetio rhywiol, 3 oherwydd esgeulustod a cham-drin corfforol a 2 oherwydd cam-drin corfforol. Ø O'r 10 plentyn a ddatgofrestrwyd yn ystod y chwarter, roedd 7 yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 36. |
|
Canlyniadau Proffil Perfformiad Awdurdodau Lleol (ar 10 Medi 2024) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Rob
Starr, y Rheolwr Ymchwil a Pherfformiad i’r cyfarfod i gyflwyno’r
adroddiad am Broffil Perfformiad yr Awdurdod Lleol. Bu
i’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd
y Cyngor, longyfarch yr Awdurdod am adroddiad cadarnhaol. Ar y cyfan, roedd gan Geredigion 13 o fesurau yn y chwartel
uchaf, 12 yn y chwartel canol uchaf, 2 yn y chwarter
canol isaf a 7 yn y chwartel isaf. Roedd Data Cymru wedi datblygu teclyn data perfformiad newydd i gefnogi awdurdodau
lleol i ddeall
eu perfformiad cyffredinol yn well ac i gefnogi
Asesiadau Perfformiad gan Banel a gychwynnodd
ym mis Medi 2024. Enw'r teclyn newydd yw Proffil
Perfformiad Awdurdodau Lleol Cymru ac mae'n cynnwys detholiad o 34 o fesurau perfformiad allweddol ar draws 11 thema, ynghyd ag amrywiaeth o ddata cyd-destunol sy’n darparu’r cefndir. Dim ond ar ddangosfwrdd Power BI y mae’r proffil ar gael. Nid oes yna
fersiwn bapur. Un o’r prif ddefnyddiau
a wneir o Broffil Perfformiad yr Awdurdodau Lleol yw cefnogi'r
cymheiriaid sy'n ymgymryd ag Asesiadau Perfformiad gan Banel i ddeall
sut mae'r Awdurdod Lleol yn perfformio ar hyn o bryd. Cafodd
ei ddefnyddio gan y Panel fel rhan o’r Asesiad
Perfformiad gan Banel a gynhaliwyd yng Ngheredigion rhwng 30 Medi a 3 Hydref. Bydd y Proffil yn parhau i
gael ei ddatblygu
yn y dyfodol, felly bydd yr ystod o fesurau sydd wedi'u
cynnwys a’r swyddogaethau sydd ynghlwm wrtho yn
parhau i wella ymhellach. Cafodd Proffil Perfformiad yr Awdurdodau Lleol ei ddiweddaru
diwethaf ar 10 Medi ac roedd
y canfyddiadau cyffredinol yn dangos y canlynol: • Mae Ceredigion yn
yr ail safle o ran
y nifer uchaf o fesurau perfformiad yn y chwartel uchaf.
Mae 13 o’r 34 mesur yn y chwartel uchaf. • Mae Ceredigion
yn un o ddau awdurdod sydd â’r
nifer uchaf o fesurau perfformiad yn y chwartel uchaf
a’r chwartel canol uchaf sef
25 allan o 34. • Mae 73.5%
o fesurau Ceredigion yn y chwartel uchaf
a’r chwartel canol uchaf. 67.6% yw ffigwr yr awdurdod
sydd agosaf at Geredigion. (Mae cyfanswm y mesurau ar gyfer pob awdurdod lleol
yn amrywio ychydig oherwydd mân wahaniaethau yn y gwasanaethau a ddarperir, er enghraifft, mae rhai awdurdodau
wedi cadw eu stoc tai). • Mae perfformiad Ceredigion hefyd wedi gwella o ran y 21 mesur (neu 65.6%) sydd yn y chwartel uchaf
a’r chwartel canol uchaf o gymharu
â’r canlyniadau blaenorol. • Ar y cyfan, roedd gan
Geredigion 13 o fesurau yn y chwartel uchaf,
12 yn y chwartel canol uchaf, 2 yn y chwartel canol
isaf a 7 yn y chwartel isaf. Er gwaethaf yr heriau sylweddol y mae Ceredigion yn eu hwynebu drwy fod yn un o'r awdurdodau a ariennir isaf, ynghyd â’r heriau sy’n deillio o fod â phoblogaeth wledig wasgaredig, mae'r canlyniadau hyn yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol bod y Cyngor nid yn unig yn cyflawni ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 37. |
|
Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Preswylwyr (1 Awst 2024 i 31 Hydref 2024) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Unwaith eto, bu i’r Cadeirydd
groesawu Rob Starr, Rheolwr
Ymchwil a Pherfformiad i’r cyfarfod i
gyflwyno Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Preswylwyr. Dywedodd Arweinydd y Cyngor wrth y Pwyllgor
fod 1,961 o ymatebion wedi dod i
law. Roedd hyn yn cyfateb i
3.1% o boblogaeth
Ceredigion sy’n 16 oed neu’n hŷn. Dywedodd ei bod yn destun siom
fod nifer o breswylwyr yn anhapus
â’r Awdurdod. Hefyd, dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bosibl nad
oedd rhai o’r preswylwyr wedi cael cysylltiad
personol â’r Cyngor ond eu
bod wedi darllen y straeon negyddol a gyhoeddir bob wythnos yn y Cyfryngau. Diolchodd yr Arweinydd i’r Staff am eu gwaith di-flino yn ystod pandemig
Covid a Storm Darragh ac am wneud llawer
iawn yn fwy
na’r hyn yr oedd disgwyl iddynt
ei wneud fel rhan o’u
dyletswyddau o ddydd i ddydd. Hefyd, diolchodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Evans, i Wasanaethau’r Cyngor am eu gwaith yn
ystod y storm yn ddiweddar. Menter newydd yw Arolwg
Cenedlaethol y Preswylwyr a’r bwriad yw
cefnogi awdurdodau lleol i fodloni
eu gofynion ymgynghori. Mae'n rhan o’r gwaith
y mae Rhaglen Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei wneud
gyda Data Cymru. Mae'r arolwg yn darparu methodoleg
safonol a set safonol o gwestiynau ar gyfer cynnal arolygon ymhlith dinasyddion. I’r perwyl hynny,
mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg ar ran awdurdodau lleol ac mae’n darparu dangosfwrdd
o'r canlyniadau i gynorthwyo â’r
gwaith dadansoddi unwaith y bydd yr arolwg wedi cau.
Mae hyn yn cynnwys gwaith meincnodi ar gyfer cymharu â chynghorau eraill. Nid oes
cost i’r awdurdodau lleol gan fod
y fenter hon yn cael ei darparu
yn rhad ac am ddim. Mae’r manteision
o fabwysiadu'r Arolwg Cenedlaethol Preswylwyr fel a ganlyn: • Ceir methodoleg safonol a set safonol o gwestiynau • Ceir dull gweithredu y mae pob un o’r
22 awdurdod lleol ledled Cymru wedi cytuno iddo • Mae'r arolwg yn cael ei
gynnal yn annibynnol gan Data Cymru • Mae’n darparu data meincnodi ar gyfer cymharu ag awdurdodau lleol eraill. Hyd yn hyn,
mae 11 awdurdod lleol wedi mabwysiadu'r
arolwg a rhagwelir y bydd mwy yn
ymrwymo iddo yn ystod y misoedd
nesaf. Cytunodd Ceredigion i fabwysiadu Arolwg
Cenedlaethol y Preswylwyr
ar 17/4/2024 a chynhaliwyd yr arolwg
cyntaf rhwng 1/8/2024 a
31/10/2024. Ceredigion oedd y cyngor
cyntaf i gynnal Arolwg Cenedlaethol
y Preswylwyr, felly does dim canlyniadau
ar gael ar hyn o bryd ar gyfer eu
cymharu â chynghorau eraill. Derbyniwyd cyfanswm o 1,961 o ymatebion, sy’n llawer uwch nag Arolwg Rhanddeiliaid y flwyddyn flaenorol pan gafwyd 148 o ymatebion. Mae hyn yn cyfateb
i 3.1% o boblogaeth Ceredigion sy'n 16 oed neu'n hŷn. Fel y rhagwelwyd, derbyniwyd clystyrau o ymatebion o drefi Aberystwyth, Aberaeron a Chei
Newydd, ond tipyn llai o ymatebion gan drigolion Aberteifi,
Llanbedr Pont Steffan a de'r sir. Cynhaliodd Data Cymru ymarfer gwirio ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 38. |
|
Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion (BGC) a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd Hazel Lloyd Lubran, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol, a Timothy Bray, Rheolwr
Partneriaethau ac Argyfyngau
Sifil Posibl, i’r cyfarfod. Cyflwynodd
Hazel Lloyd-Lubran, Cadeirydd
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
yr adroddiad. O dan Adran 35 o’r Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015, roedd yn ofynnol i’r Awdurdodau
Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau
Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu
ar benderfyniadau a wnaed,
neu gamau eraill a gymerir, gan Fwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ardal
yr Awdurdod Lleol wrth arfer ei
swyddogaethau. Dyma’r prif bwyntiau a godwyd fel rhan o’r
drafodaeth: · Diolchwyd i
CAVO am ddosbarthu’r grantiau i gynorthwyo â thlodi plant a mannau cynnes.
Dywedodd Hazel Lloyd-Lubran fod CAVO yn hyn o beth yn
gweithio’n agos iawn gyda Chyngor Sir Ceredigion. · Gofynnodd y Cadeirydd
a oedd unrhyw gynnydd wedi’i wneud o ran gweithio gydag Awdurdodau eraill.
Cadarnhawyd bod un cyfarfod llwyddiannus wedi’i gynnal hyd yma. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ystyried yr argymhelliad canlynol: Argymhelliad: Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr
2024. Rheswm dros y penderfyniad: Y Pwyllgor Craffu hwn sy’n
cadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i dderbyn
cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd
ar 2 Rhagfyr 2024 a diolchodd
y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu gwaith caled parhaus. |
|
Polisi Chwythu'r Chwiban Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd Elin Prysor, y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol, i’r
cyfarfod i gyflwyno Polisi Chwythu’r Chwiban. Dywedodd Elin Prysor wrth Aelodau’r Pwyllgor fod Polisi Chwythu’r Chwiban wedi’i adolygu a bod newidiadau wedi’u gwneud i
sicrhau bod y polisi yn gyfredol. Roedd y prif newidiadau fel a ganlyn: • Y rhagymadrodd • Beth yw chwythu’r chwiban? • Mwy o fanylion am sut i godi pryder • Cyfrinachedd • Datgelu gwybodaeth y tu allan i’r Cyngor • Diweddaru manylion cyswllt personau a chyrff penodedig • Sut y bydd y Cyngor yn ymateb • Diogelwch Yn dilyn trafodaeth, nodwyd y canlynol: · Cadarnhawyd bod yr hyfforddiant ar gael i bob Aelod ar Cerinet. · Cadarnhaodd y Swyddog fod un atgyfeiriad yn parhau ac yn destun
ymchwiliad. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r
Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol: ARGYMHELLIAD: 1.
nodi cynnwys yr adroddiad,
ac 2.
argymell y polisi
wedi’i ddiweddaru (Atodiad 1) i’w gymeradwyo gan y Cabinet. RHESWM
DROS YR ARGYMHELLIAD: Er mwyn sicrhau bod Polisi Chwythu’r Chwiban a’r modiwl E-ddysgu
yn gyfredol a’u bod yn parhau’n
addas at y diben. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell
bod y Cabinet yn cymeradwyo
Polisi Chwythu’r Chwiban sydd wedi’i ddiweddaru.
|
|
Cadarnhau cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy'n codi o'r cofnodion hynny Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024 yn gywir. Nid oedd
dim materion yn codi o’r cofnodion
hynny. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i Gadeirydd, Is-gadeirydd neu Swyddog Trosolwg a Chraffu pob Pwyllgor ddarparu
gwybodaeth yn eu tro am Flaenraglenni
Gwaith eu Pwyllgorau. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i ychwanegu’r
canlynol at y Flaenraglen
Waith: · Gweithwyr Asiantaeth a Recriwtio – Pwyllgor Cydlynu Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am ddod i’r cyfarfod,
i’r Swyddogion a’r Aelodau Cabinet am gyflwyno’r adroddiadau ac i’r cyfieithwyr, Lisa Evans a
Dwynwen Jones am eu cymorth
yn ystod y cyfarfod.
|