Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Llun, 4ydd Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans  Dwynwen Jones

Eitemau
Rhif eitem

34.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  

Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

 

35.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Dim.

36.

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023 pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Hazel Lloyd Lubran, Prif Weithredwr CAVO a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Diana Davies a Timothy Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i gyflwyno cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

.

O dan Adran 35 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, roedd yn rhaid i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu ar y penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal yr Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. 

 

Y prif bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth oedd y canlynol:

·       Yn dilyn cwestiwn ynghylch yr Is-grŵp Adsefydlu Ffoaduriaid a’r cyllid yr oedd Cyngor Sir Ceredigion yn ei dderbyn oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi pobl o Wcráin am 12 mis, pobl o Affganistan am 3 blynedd a phobl o Syria am 5 mlynedd, cadarnhaodd Diana Davies y byddai’n rhannu’r adroddiad llawn a gyflwynwyd i gyfarfod diwethaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a fyddai’n rhoi mwy o fanylion i Aelodau’r Pwyllgor.

·       Yn dilyn cwestiwn, cadarnhaodd Hazel Lloyd-Lubran fod y Bwrdd wedi ymateb drwy Cynnal y Cardi i gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

·       Yn dilyn cwestiwn, cadarnhawyd bod y Bwrdd yn cydweithio ag awdurdodau cyfagos, a bod hyn yn debygol o gynyddu yn ystod y misoedd nesaf.

·       Cyfeiriwyd at Ddangosfwrdd Gorwel (Gorwel yw platfform ar y we a ariennir gan grant rhanbarthol Llywodraeth Cymru i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gynorthwyo nid yn unig wrth gynhyrchu’r Asesiadau Llesiant Lleol, ond i ganiatáu i ddefnyddwyr gydweithio a rhannu gwybodaeth am brosiectau a chasglu gwybodaeth fwy lleol fel canlyniadau grwpiau ffocws ac arolygon). Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor ba mor hyblyg oedd y Bwrdd o ran addasu’r amcanion pan fo’r dangosfwrdd yn denu sylw at fater penodol. Nododd Cadeirydd y Bwrdd fod yn rhaid i’r Bwrdd fod yn hyblyg a phwysleisiodd y Rheolwr Corfforaethol bwysigrwydd cydweithio ag ardaloedd eraill yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

 

Argymhelliad:

i. Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023.

 

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Swyddogion am ddod i’r cyfarfod a chyflwyno’r wybodaeth.

 

 

37.

Diweddariad Chwythu'r Chwiban pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Croesawyd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Swyddog Monitro, i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad.

 

Esboniwyd mai dyma oedd y sefyllfa ar y pryd:

Rhwng mis Ebrill 2019 a mis Rhagfyr 2023 gwnaethpwyd 6 cyfeiriad datgelu Chwythu’r Chwiban i’r Swyddog Monitro. 

Ar 20/12/23:

Roedd 5 wedi’u cwblhau,

O’r rhain: doedd dim ymchwiliad ffurfiol. Datryswyd y rhain drwy:

weithredoedd mewnol

hyfforddiant

prosesau ymchwilio eraill

Roedd ymchwiliad yn parhau ynghylch 1.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

Argymhelliad:

          1. Nodi cynnwys yr adroddiad.

Rheswm dros yr argymhelliad:

Sicrhau cryfhau a gwella’r drefn Chwythu’r Chwiban.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad. Cytunwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn yn y dyfodol. Hefyd, awgrymwyd y dylai’r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol sicrhau bod yr holl swyddogion yn cwblhau hyfforddiant diweddaru bob tair blynedd fel y nodwyd yn yr adroddiad. Hefyd, dylid casglu rhagor o fanylion ynghylch nifer y swyddogion nad oedd wedi cwblhau’r hyfforddiant, a faint oedd yn hyfforddiant diweddaru. 

 

38.

Adrodd ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu oedd yn gyfrifol am adolygu defnydd y Cyngor o RIPA.

 

Fel arfer, cyflwynwyd adroddiadau i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu bob 6 mis; fodd bynnag cyflwynwyd yr adroddiad hwn 9 mis wedi’r adroddiad diwethaf oherwydd diffyg gweithgarwch RIPA.

 

Cyflwynodd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Swyddog Monitro, y prif bwyntiau sef:

1) Gweithgarwch RIPA

Ni fu unrhyw weithgarwch RIPA gan unrhyw un o wasanaethau’r Cyngor yn ystod y cyfnod rhwng 22 Mai 2023 a 31 Mawrth 2024. Cadarnhaodd y Swyddogion Awdurdodi nad oeddent wedi ystyried unrhyw geisiadau RIPA yn ystod y cyfnod hwn.

Roedd y datganiad blynyddol a gyflwynwyd i Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) yn adlewyrchu hyn.

2) Hyfforddiant

Roedd gweithdy hyfforddi diwrnod llawn ynghylch RIPA wedi’i drefnu ar gyfer 18 Ebrill 2024, a byddai’n cael ei gynnal gan ddarparwr lleol i swyddogion perthnasol.

Dylai’r hyfforddiant hwn a’r sesiynau blaenorol sicrhau bod gan swyddogion perthnasol y wybodaeth angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion RIPA.

3) Swyddogion Awdurdodi

Y Swyddogion Awdurdodi presennol ar gyfer Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig, awdurdodiadau Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (CHIS) ac awdurdodiadau nad ydynt yn rhai RIPA oedd:

Y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd;

Y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth; a

Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal.

Y Prif Weithredwr oedd y Swyddog Awdurdodi o ran rhoi awdurdodiadau mewn perthynas â gwybodaeth gyfrinachol neu freintiedig, ffilmio unrhyw Aelod Etholedig, Cyfarwyddwr Corfforaethol neu Swyddog Arweiniol Corfforaethol, neu wyliadwriaeth yn ymwneud â phobl ifanc neu bobl sy’n agored i niwed.

Y Swyddog Rheng Cymeradwy ar gyfer Data Cyfathrebu oedd:

Y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd

Yr Eilyddion amgen (os nad oedd y Swyddog Rheng Cymeradwy uchod ar gael) oedd:

Y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth; a’r

Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

 

          Argymhelliad:

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad.

Y rheswm dros yr argymhelliad:

Sicrhau bod y pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd y Cyngor o RIPA a gweithredu polisïau.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad a diolchodd y Cadeirydd i Elin Prysor am ddod i’r cyfarfod a chyflwyno’r wybodaeth.

 

39.

Polisi Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diweddarwyd y Polisi Diogelu Corfforaethol er mwyn adlewyrchu Gweithdrefnau Diogelu diwygiedig Cymru. Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet, yr adroddiad gyda chymorth Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Roedd y Grŵp Diogelu Corfforaethol wedi’i ailsefydlu ar ôl i bethau fod ar stop dros gyfnod y pandemig. Roedd y Grŵp wedi goruchwylio’r gwaith o ddrafftio’r Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig yn barod ar gyfer ei weithredu a’i dywys drwy’r broses ddemocrataidd.

Cafodd fersiwn ddiwethaf y Polisi Diogelu Corfforaethol ei pharatoi yn 2017 ac yn sail i’r polisi yr oedd Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan gan gynnwys oedolion agored i niwed (2008). Cafodd Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu gweithredu yn 2019 ac roeddent bellach wedi’u hymgorffori yn y polisi.

Roedd y polisi’n berthnasol i staff, Cynghorwyr, gwirfoddolwyr, a phobl oedd yn gwneud gwaith ar ran y Cyngor. 

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell y dylai’r Cabinet wneud y canlynol:

1.    Cytuno ar y Polisi Diogelu Corfforaethol fel y ddogfen ddiffiniol i sicrhau bod Ceredigion yn sefydliad diogel sy’n cydnabod ei gyfrifoldebau i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

 

Rhesymau dros yr argymhelliad:

Roedd yn hanfodol bod y Cyngor yn darparu fframwaith polisi i ddiogelu pobl sy’n cyflenwi gwasanaethau ar ran yr Awdurdod Lleol.

Roedd y Polisi Diogelu Corfforaethol Diwygiedig yn defnyddio’r canllawiau a’r ddeddfwriaeth perthnasol a chyfredol.

 

40.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru 2022-2023 pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet, ac Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru 2022-2023.

 

Roedd Ceredigion yn parhau i fod yn bartner a oedd yn cyfrannu’n llawn at weithgareddau’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ac yn cymryd y dyletswyddau a roddwyd i ni i fod yn gyfranogwyr gweithredol o ddifri.

Byddai’r adroddiad blynyddol nesaf ar gyfer 2023-24 yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst 2024.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

 

ARGYMHELLIAD:

Mae’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu’n nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Williams, ac Audrey Somerton-Edwards am ddod i’r cyfarfod a chyflwyno’r ddau adroddiad.

 

41.

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol Cyfun CYSUR/CWMPAS Chwarter 2 2023/24 pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet, ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i’r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad CYSUR / CWMPAS ar gyfer chwarter 2. 

 

Dyma grynodeb o’r pwyntiau allweddol:

Ø  Yn Chwarter 2, bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau a dderbyniwyd ynghylch plant / pobl ifanc o'i gymharu â Chwarter 1 - gyda 928 o gysylltiadau / adroddiadau yn Chwarter 2 o'i gymharu ag 888 o gysylltiadau / adroddiadau yn Chwarter 1.

Ø  Fodd bynnag, er y bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 2, bu gostyngiad yn nifer cyffredinol y cysylltiadau / adroddiadau a arweiniodd at orfod cymryd camau o dan Weithdrefnau Amddiffyn Plant, o 172 yn Chwarter 1 i 132 yn Chwarter 2. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod mwy o gysylltiadau / adroddiadau yn cael eu cyfeirio at Wasanaethau Ymyrraeth Gynnar/Atal neu eu cyfeirio am asesiad ar gyfer gofal a chymorth ac felly nid ydynt yn cael eu huwchgyfeirio ar gyfer ymyriadau diogelu. Mae hyn o ganlyniad i ddatblygiad parhaus y model Llesiant Gydol Oes ac, yn benodol, datblygu Brysbennu i Blant yn y Porth Gofal.

Ø  14.2% oedd canran yr atgyfeiriadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn Chwarter 2 o'i gymharu â 19.4% yn Chwarter 1. Yn Chwarter 2 aeth 5.9% o'r adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47, o'i gymharu ag 8.8% yn Chwarter 1 ac yna o ran y rhai a aeth ymlaen i Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol, aeth 0.9% ymlaen i'r cam hwnnw yn Chwarter 2, o'i gymharu â 0.7% yn Chwarter 1.

Ø  Mae cyfanswm y plant sy'n destun Cynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol yn y chwarter hwn wedi gostwng ymhellach i 16, o'i gymharu â 23 yn Chwarter 1, a 35 yn Chwarter 4.

Ø  Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol oedd 10 o'i gymharu ag 20 yn Chwarter 1.

Ø  Cyfanswm y plant y tynnwyd eu henwau oddi ar y gofrestr yn dilyn Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd 22. 

Ø  Bu gostyngiad yn nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu yn y chwarter hwn ac mae'n ymddangos mai’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yw prif ffynonellau’r adroddiadau yn y chwarter hwn.

Ø  Bu gostyngiad yn nifer yr ymholiadau Adran 47 a gynhaliwyd yn y chwarter hwn hefyd, gyda 55 yn cael eu cynnal yn y chwarter hwn o gymharu â 78 yn Chwarter 1. Cynhaliwyd 41 o'r ymholiadau hynny ar y cyd â'r Heddlu yn y chwarter hwn a chynhaliwyd 14 gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fel Asiantaeth Sengl.

Ø  Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at gynnal ymholiad o dan Adran 47 yn Chwarter 2 oedd cam-drin corfforol a cham-drin / camfanteisio rhywiol, fel yn achos Chwarter 1.

Ø  Roedd 40 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, o'i gymharu â 52 ar ddiwedd Chwarter 1. Yn y chwarter hwn, cofrestrwyd 21 o blant o dan y categori  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 41.

42.

Cyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol Ceredigion 2024-28 a'r adroddiad cysylltiedig ar yr ymarfer ymgynghori pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd Catrin M S Davies, yr Aelod Cabinet, i’r cyfarfod i gyflwyno’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-2028, gyda chefnogaeth Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

Rhoddodd y Cynghorydd Davies wybod i Aelodau’r Pwyllgor mai dyma oedd y sefyllfa ar y pryd:

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 25/10/23 a 31/12/23. Cafodd ei hyrwyddo’n eang a’i gyflwyno i Gyngor Ieuenctid Ceredigion er mwyn casglu barn pobl ifanc. Ymatebodd 43 person i’r arolwg ar-lein, ni ddychwelwyd unrhyw gopïau papur a rhoddodd 16 aelod o’r Cyngor Ieuenctid adborth.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn teimlo mai ein pum Amcan Cydraddoldeb oedd yr Amcanion Cydraddoldeb cywir ar gyfer Cyngor Ceredigion – dywedodd cyfartaledd o 94% ‘ie’. Roedd cyfartaledd o 83% o’r bobl a ymatebodd yn teimlo y byddai’r camau gweithredu yn y cynllun yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.

 

Cyhoeddwyd adroddiad monitro’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’ ym mis Tachwedd 2023. Roedd yr adroddiad yn atgyfnerthu’r angen am y camau gweithredu a nodwyd yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28. Roedd canfyddiadau’r adroddiad wedi’u cynnwys yn y sylfaen dystiolaeth a oedd yn cefnogi’r Cynllun.

Roedd ein Gweithgor Cydraddoldeb yn cael ei gydlynu gan y gwasanaeth Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd a’i gadeirio gan y Cynghorydd Catrin MS Davies (Hyrwyddwr Cydraddoldeb). Y grŵp oedd yn gyfrifol am ddatblygu a monitro ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Cyfarfu’r grŵp ym mis Ionawr 2024 i adolygu’r Cynllun Cydraddoldeb drafft yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd y grŵp i wneud y newidiadau canlynol i’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol: 

·      Addasu cam gweithredu 3.1 i gynnwys ‘pobl ifanc’ yn y mesur llwyddiant.

·      Darganfod mwy am Orsensitifrwydd Trydanol.

·       Annog staff i fynd â blwch adborth anhysbys i ymgynghoriadau wyneb yn wyneb.

·      Addasu ein pecyn cymorth ymgysylltu mewnol i gynnig rhagor o ffyrdd i bobl ddweud wrthym beth yw eu barn pan ymgynghorir â hwy.

·      Addasu camau gweithredu penodol o dan Amcan 4 i gynnwys y term ‘profiad bywyd’.

·       Newid ein ffurflen monitro cydraddoldeb fel ei bod yn gofyn am ‘ryw’ unigolyn, ac mewn cwestiwn pellach yn gofyn am ei ‘hunaniaeth rhywedd’.

·       Dileu’r cam gweithredu, “sefydlu model integredig o ofal cymunedol a thai cymunedol yn Nhregaron”. Roedd y grŵp yn teimlo bod amrywiaeth o faterion yn cyfrannu at gyflawni’r canlyniad hwn, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt y tu allan i gylch gwaith y gweithgor Cydraddoldeb. Roedd y cam gweithredu hwn wedi’i gynnwys yn Strategaeth Gorfforaethol 2022-27.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor â’r argymhellion canlynol:

 

ARGYMHELLION:

Argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ceredigion 2024-28.

Gwneud argymhellion fel y bo’n briodol pan gyflwynir yr adroddiad i’r Cabinet ar 19 Mawrth 2024. Nid oedd unrhyw argymhellion pellach, fodd bynnag roedd Aelodau’r Pwyllgor yn canmol yr Aelod Cabinet a’r Swyddogion am y gwaith ynghlwm wrth greu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

Byddai Cynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig 2024-28 yn bwrw ymlaen â nod y Cyngor i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 42.

43.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2024 yn gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.

 

44.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn eu tro, rhoddodd pob Cadeirydd ddiweddariad am Flaenraglenni Gwaith eu Pwyllgorau.

 

      Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod angen i’r Pwyllgor roi sylw iddo ar frys

      Nododd y Cadeirydd fod ei gyfnod o ddwy flynedd fel Cadeirydd yn dod at ei derfyn, ac roedd eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i’r Is-gadeirydd, sef y Cynghorydd Wyn Evans, Lisa Evans a Dwynwen Jones, Swyddogion, a’r cyfieithwyr am eu cymorth. Diolchodd hefyd i Aelodau’r Pwyllgor am eu cymorth a’u cwrteisi yn ystod y cyfarfodydd. Dymunodd yn dda i Gadeirydd nesaf y Pwyllgor yn y rôl.