Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Iau, 1af Chwefror, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans  Dwynwen Jones

Eitemau
Rhif eitem

30.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim

 

31.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Endaf Edwards ddatgan buddiant personol parthed y drafodaeth ar gyflogau’r Staff.  

32.

Adroddiad am Gyllideb ddrafft 24/25 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Keith Evans, fraslun o weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd i’r cyfarfod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies - Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, Aelodau eraill o’r Cabinet, Aelodau nad oeddent ar y Pwyllgor, a Swyddogion.         

 

Gwnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, gyflwyno’r adroddiad ar gyllideb ddrafft 2024/2025. Dywedodd yr Arweinydd fod y sefyllfa ariannol hon sy'n wynebu'r Cyngor yn eithriadol o anodd gyda phwysau ariannol sylweddol. Dywedodd nad yw erioed wedi gweld sefyllfa ariannol mor heriol yn ystod ei gyfnod yn Gynghorydd gan mai dim ond cynnydd o 2.6% a gafodd Ceredigion yn setliad drafft Llywodraeth Cymru 24/25.

Dywedodd wrth Aelodau'r Pwyllgor ei fod wedi cyfarfod â rhai Cynghorau Tref a Chymuned i drafod y sefyllfa ariannol a bod mwy o gyfarfodydd wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos oedd i ddod.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet dros Gyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, wedi cyflwyno’r wybodaeth sy'n weddill yn yr adroddiad. Adleisiodd y Cynghorydd Gareth Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol waethaf, o bell ffordd, y mae wedi ei hwynebu fel Cynghorydd ar adeg pennu'r gyllideb. 

 

Rhoddwyd gwybod mai dyma’r meysydd y gallai'r pwyllgor hwn fod am eu hystyried o blith Atodiad A ym mhapurau’r agenda:

 

a) Adran 3 – Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion yn 24/25.

b) Adran 4 – Ystyriaethau lefel uchel o ran y Gyllideb gan gynnwys:

Adran 4b) – Y Gyllideb Refeniw - Cyfanswm y Pwysau o ran Costau

Adran 4d) – Y Gyllideb Refeniw – Cynigion o ran Gwneud Arbedion

Adran 4f) – Cynnig y Cabinet ynghylch Premiymau Treth y Cyngor

Adran 4g) – Y sefyllfa bosibl o ran Treth y Cyngor

c) Adran 5 – Y gofyniad o ran y Gyllideb Ddrafft

d) Adran 6 – Risgiau i’r Gyllideb

e) Adran 7 – Y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn arfaethedig

f) Adran 8 – Cydnerthedd ariannol (gan gynnwys Cronfeydd wrth gefn a Balansau Cyffredinol)

g) Adran 9 – Rhagolygon Ariannol y Tymor Canolig

h) Yr 11 o argymhellion a gytunwyd gan y Cabinet ar 23/01/24.

i) Unrhyw faterion eraill ynghylch y Gyllideb y mae’r Pwyllgor yn eu hystyried sy’n briodol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 24/25 yw'r “un fwyaf cyfyng a phoenus ers datganoli”. Cynnydd ariannol o 2.6% yn unig y mae Ceredigion wedi’i dderbyn (y 14eg o’r 22ain Awdurdod Lleol). Ceredigion hefyd sydd wedi derbyn y cynnydd isaf y pen o'r boblogaeth yng Nghymru gyfan. Dyma felly yw Cyllideb fwyaf cyfyng Cyngor Sir Ceredigion ac mae’n waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol, ac yn llai na’r 3.1% o gynnydd y cyfeiriodd Llywodraeth Cymru ato yn yr hydref. 

 

Y pennawd o Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol yn Lloegr oedd bod cynnydd cyffredinol o 6.5% mewn cyllid gyda £1 biliwn o gyllid grant ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol o'i gymharu â 23/24. Gan fod Llywodraeth Cymru yn weinyddiaeth ddatganoledig, mae  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32.

33.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2023 yn gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny.

         

9    Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod angen i’r Pwyllgor roi sylw brys iddo

      Ni chodwyd yr un mater arall.