Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Llun, 6ed Tachwedd, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans  Dwynwen Jones

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Croeso, Gweithdrefn ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

 

 

Croesawodd y cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Gwnaeth y Cadeirydd ddymuno’n dda i’r Cynghorydd John Roberts ar ran y Pwyllgor yn dilyn salwch diweddar.

 

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones ac Elaine Evans am fethu mynychu’r cyfarfod.

 

Gweithdrefn

Cytunwyd y byddai eitem 4 yr agenda yn cael ei ystyried cyn eitem 3 yr agenda sydd i’w gweld ar y papurau agenda.

 

24.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Rhodri Evans ddatgan buddiant personol, gan wneud y pwyllgor y ymwybodol ei fod, ar ran yr Awdurdod, yn aelod o’r Bwrdd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

25.

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023 pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Hazel Lloyd Lubran, Prif Weithredwr CAVO a Chadeirydd PSB, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, Alun Williams, Diana Davies a Timothy Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i gyflwyno Cofnodion y cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023. Dan Adran 35 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gofyn i Awdurdodau Lleol i sicrhau bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal yr Awdurdod Lleol wrth arfer eu swyddogaethau.

 

Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor i ystyried y cofnodion drafft o gyfarfod PSB Ceredigion a oedd wedi’i ddyddio 4 Medi 2023.

 

Yn ystod y trafodaethau, nodwyd y canlynol:

 

·       Yn dilyn llwyddiant Mannau Croeso Cynnes y llynedd, mae map o ganolfannau lleol wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor y Gaeaf 2023,

·       Yn dilyn cwestiwn ynghylch argaeledd Banciau Bwyd, credir bod banciau bwyd ar gyfer pob ardal yng Ngheredigion. Cadarnhaodd Mrs Lloyd-Lubran y byddai’n gwirio gyda’r Swyddog perthnasol os taw dyma yw’r achos presennol.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i:

1.    Gytuno i dderbyn cofnodion drafft cyfarfod PSB Ceredigion a gynhaliwyd ar 4 o Fedi 2023.

 

Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni eu rôl o gymryd trosolwg o effeithiolrwydd cyffredinol y PSB.

 

Gwnaeth y Cadeirydd ddiolch i Swyddogion a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am fynychu a chyflwyno’r wybodaeth yn y cyfarfod heddiw.

 

Gwnaeth y Cadeirydd hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i Carys Morgan, Swyddog yr Iaith Gymraeg, sydd bellach wedi gadael yr Awdurdod, am ei gwaith arbennig yn ystod ei chyfnod gyda Chyngor Sir Ceredigion. Gwnaeth hefyd ddymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd yn y dyfodol.

 

26.

Adroddiad Diogelu Gr?p Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS - Chwarter 1 2023/24 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gwnaeth yr Aelodau ystyried Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1, yn y cyfnod rhwng 01.04.2023 hyd at 30.06.2023, 2023/2024.

 

Gwnaeth y Cadeirydd groesawu’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod o’r Cabinet ac Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i gyflwyno crynodeb o bwyntiau allweddol, a oedd fel a ganlyn:

 

Crynodeb o bwyntiau allweddol:

Yn Chwarter 1, roedd lleihad yn y nifer o gysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn ymwneud â phlant/pobl ifanc o’i gymharu â Chwarter 4-lle derbyniwyd 888 o gysylltiadau/adroddiadau yn Chwarter 1 o’i gymharu â 1010 o gysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 4.

Roedd hefyd lleihad yn y nifer cyffredinol o gysylltiadau/adroddiadau a arweiniodd at yr angen i weithredu dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant, o 172 yn Chwarter 1 o’i gymharu â 200 yn Chwarter 4.

Canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategol oedd 19.4% yn Chwarter 1 o’i gymharu â 19.8% yn Chwarter 4. Yn Chwarter 1, aeth 8.8%  o adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47, o’i gymharu â 8.4% yn Charter 4, ac yna gwnaeth roedd angen i  0.7% fynd ymlaen i Gynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol o’i gymharu â 1.6% yn Chwarter 4.

Mae cyfanswm nifer y plant a fu’n destun Cynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol yn y chwarter hwn wedi gostwng lle mae 10 yn y chwarter hwn o'i gymharu â 23 yn chwarter 4, ac mae hyn yn cymharu â 35 yn Chwarter 3.

Cyfanswm nifer y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol oedd 10 yn y chwarter hwn o'i gymharu ag 20 yn Chwarter 4

Cyfanswm nifer y plant a gafodd eu tynnu’n ôl Adolygiad Cynhadledd Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd 8 o'i gymharu â 15 yn Chwarter 4.

Mae cyfanswm yr ymholiadau Adran 47 a gynhaliwyd wedi gostwng yn y chwarter hwn hefyd, gyda 78 yn cael eu cynnal yn y chwarter hwn o'i gymharu ag 85 yn Chwarter 4, cynhaliwyd 65 o'r ymholiadau hynny ar y cyd â'r Heddlu a gwnaed 13 fel Asiantaeth Sengl Gwasanaethau Cymdeithasol.

Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn cael ei gynnal yn chwarter 1 oedd Cam-drin Corfforol a cham-drin rhywiol a cham-fanteisio ar blant.

Roedd 52 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, ac roedd 52 ar ddiwedd Chwarter 4. Cofrestrwyd 19 o blant o dan y categori cam-drin emosiynol/seicolegol, yn y chwarter hwn, 26 o dan y categori esgeulustod a 7 o dan y categori esgeulustod a cham-drin emosiynol/seicolegol.

Y prif Ffactorau Risg ar gyfer y 52 o blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o'r 30/06/23 oedd cam-drin domestig, iechyd meddwl rhieni, rhieni’n gwahanu, a throseddau trais oedolion.

O ran Diogelu Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 26.

27.

Adroddiad Hunanasesu 2022/23 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, a’r Aelod Cabinet Alun Williams, Diana Davies a Rob Starr, Swyddogion, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drefn berfformio newydd ar sail Hunanasesiad ar gyfer Prif Gynghorau.

 

Mae'r Adroddiad Hunanasesiad ar gyfer 2022/23 yn cyflawni gofynion y ddau: • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – gosod ac adolygu cynnydd yn erbyn ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 - y ddyletswydd i adolygu'r perfformiad, ymgynghori ar berfformiad, adrodd ar berfformiad, trefnu Asesiad Panel Perfformiad ac ymateb i’r Asesiad Panel Perfformiad.

 

Adroddwyd yn dilyn adborth cadarnhaol gan gyfoedion Llywodraeth Cymru, cedwir fformat tebyg ar gyfer eleni i helpu i ledaenu negeseuon allweddol a'u cadw'n gryno, fel y gofynnodd Llywodraeth Cymru. Mae'r gwelliannau a wnaed eleni i gryfhau'r adroddiad fel a ganlyn:

 

Darparu rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad a'r ymgysylltu a wnaed yn ystod y flwyddyn a sut y caiff ei ddefnyddio.

Darparu manylion ymgynghoriad y rhanddeiliaid i gefnogi hunanasesiad.

Darparu rhagor o fanylion yn y sylwebaeth werthuso o berfformiad cyffredinol y Cyngor.

Diweddaru'r Cynllun Gweithredu Hunanasesiad, gan ychwanegu'r camau gweithredu newydd a nodwyd ynghyd â diweddariad cynnydd.

Ehangu'r adran feincnodi (mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i ddatblygu hyn ar y cyd â Data Cymru).

Ychwanegwyd adran "Strwythur y Cyngor" i ddarparu manylion am sut mae'r Cyngor wedi'i strwythuro.

Yn cynnwys dolenni i adroddiadau a strategaethau cysylltiedig eraill, sy'n cael ei ystyried yn arfer gorau.

 

Mae gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyfrifoldeb statudol i ystyried yr Adroddiad Hunanasesiad a gwneud argymhellion ar y canfyddiadau a'r camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd. Cafodd yr Adroddiad ei ystyried yn ei gyfarfod ar 27 Medi 2023 ac fe gafodd yr adroddiad ei gymeradwyo i fwrw ymlaen i'w gymeradwyo yn y Cabinet a'r Cyngor. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol i'r casgliadau na'r gweithredoedd, er bod mân newidiadau fformatio wedi'u gwneud i wella ansawdd yr adroddiad cyn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, mae'r broses o gynhyrchu Adroddiad Hunanasesiad 2022/23 bellach wedi'i gwblhau ac ni ellir ei ddiwygio ymhellach.

 

Disgwylir i'r Adroddiad Hunanasesu fynd ymlaen i'r Cabinet ar 7 Tachwedd 2023 a'r Cyngor ar 14 Rhagfyr 2023, cyn cael ei gyflwyno i Weinidogion, Estyn ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ogystal â chael ei gyhoeddi ar y wefan. Rhan o'r drefn Perfformiad Hunanasesiad newydd yw'r ddyletswydd i gynnal Asesiad Panel Perfformiad unwaith ym mhob cylch etholiadol. Bwriad Asesiadau Panel yw darparu persbectif annibynnol ac allanol o'r graddau y mae'r Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Y nod yw cefnogi Cynghorau i gyflawni eu dyheadau drwy ddatblygu a deall sut maent yn gweithredu a sut y gallant sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaethau effeithiol yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 27.

28.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 129 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod Cydlynu a gynhaliwyd 11 Medi 2023 fel cofnod cywir o’r achos ac nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny.

 

 

 

29.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Rhoddodd pob Cadeirydd yn ei dro ddiweddariad ar Gynlluniau Blaenraglenni  Gwaith eu Pwyllgor  priodol.

 

1.    Pwyllgor Cydlynu

Gwnaeth y Cadeirydd roi diweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith y dyfodol y Pwyllgor Cydlynu.

2.    Adnoddau Corfforaethol

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Adnoddau Corfforaethol yn y dyfodol. Soniodd y Cadeirydd fod rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â Thref Aberteifi ddydd Gwener, 3ydd o Dachwedd 2023. Trefnodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet, i'r Aelodau ymweld â busnesau a siarad â sawl perchennog siop ar y stryd fawr i ddysgu mwy am ddadansoddiad y lleoliad a’r rhyngrwyd o dechnolegau a ddefnyddir. Roedd gan yr aelodau ddiddordeb mawr yn yr ymweliad hwn a diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Clive Davies am drefnu. Diolchodd hefyd i'r busnesau a roddodd o’u hamser i siarad ag Aelodau'r Pwyllgor. Mynychodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans hefyd gan ei fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus.

3.    Cymunedau Ffyniannus

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Ffyniannus yn y dyfodol. Manteisiodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r Cynghorydd Clive Davies am drefnu ymweliad Tref Aberteifi a'r busnesau a roddodd o’u hamser ar y diwrnod hefyd.

Mae ymweliad â Chanolfan Fwyd Horeb wedi'i drefnu yn ystod yr wythnosau nesaf.

4.    Cymunedau Iachach

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Iachach yn y dyfodol.

5.    Cymunedau Dysgu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Dysgu yn y dyfodol.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a allai'r Cadeiryddion/Is-gadeiryddion (Aelodau'r Pwyllgor hwn) dderbyn gwybodaeth/rhesymau/canllawiau ynghylch pryd y gellir cau cyfarfod, pryd y gellir cymryd egwyl ac ati.

 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor, Aelodau’r Cabinet a Swyddogion am fynychu a chau’r trafodaethau am 11:15yb.