Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans  Dwynwen Jones

Eitemau
Rhif eitem

9.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones ac Elaine Evans am na allent fynychu'r cyfarfod. 

 

10.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Dim.

11.

Adroddiad Diogelu Gr?p Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 4 2022/23 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS ar gyfer Chwarter 4, rhwng y cyfnod 1af Ionawr i 31ain Mawrth 2023, 2022/23.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod o’r Cabinet, i roi crynodeb o’r pwyntiau allweddol, a oedd fel a ganlyn:

 

Crynodeb o’r pwyntiau Allweddol:

Ø  Yn Chwarter 4, roedd gostyngiad yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd ynghylch plant/pobl ifanc o'i gymharu â Chwarter 3 gyda 1112 o gysylltiadau/adroddiadau wedi'u derbyn yn Chwarter 3 o'i gymharu â 1010 o gysylltiadau/adroddiadau yn Chwarter 4.

Ø  Fodd bynnag, roedd cynnydd yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a aeth ymlaen i gymryd camau o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant o 193 yn Chwarter 3 o'i gymharu â 200 yn Chwarter 4.

Ø  Canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 19.8% o'i gymharu â 17.3% yn Chwarter 3.

Ø  Yn Chwarter 3, aeth 7.3% o adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47 o'i gymharu ag 8.4% yn Chwarter 4. Yn y chwarter hwn, roedd angen i 1.6% o adroddiadau a dderbyniwyd fynd ymlaen i Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant, sef yr un ganran a aeth ymlaen i gynhadledd yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm y plant sy'n destun Cynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Chwarter 4 oedd 23, ac mae hyn yn cymharu â 35 yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm y plant a gafodd eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn Chwarter 4 yn dilyn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant oedd 20 o'i gymharu â 31 yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm y plant a gafodd eu dileu o'r gofrestr ar ôl Cynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn oedd 15 o'i gymharu â 28 yn Chwarter 3.

Ø  Cyfanswm yr Ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 85 o'i gymharu ag 81 yn Chwarter 3. Cafodd 70 o'r ymholiadau hyn eu cynnal ar y cyd â'r Heddlu, a chafodd 25 eu cynnal fel un Asiantaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ø  Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 4 oedd cam-drin corfforol (32), cam-drin/cam-fanteisio rhywiol (24), cam-fanteisio arall (11), esgeulustod (9) a cham-drin emosiynol (8). Mae hyn yn dilyn yr un patrwm a welwyd yn Chwarter 3.

Ø  Roedd 52 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, o'i gymharu â 49 ar ddiwedd Chwarter 3. Roedd 22 o blant wedi'u cofrestru o dan y categori cam-drin emosiynol/seicolegol yn y chwarter hwn, 26 o dan y categori esgeulustod a 4 o dan y categori esgeulustod a cham-drin emosiynol/seicolegol.

Ø  Y prif ffactorau risg ar gyfer y 52 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 31/03/23 oedd cam-drin domestig, iechyd meddwl rhieni, rhieni'n camddefnyddio sylweddau/alcohol a rhieni'n gwahanu.

Ø  O ran Diogelu Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a/neu eu hesgeuluso, gyda 190 o oedolion mewn perygl wedi'u hadrodd yn y chwarter hwn o'i gymharu â 142 yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad drafft a Fframwaith Rheoli Perfformiad pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies yr adroddiad ynghylch y Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad Drafft a'r Fframwaith Rheoli Perfformiad. Roedd Rob Starr, Rheolwr Ymchwil a Pherfformiad, Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol, ac Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, hefyd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dros y pedair blynedd diwethaf mae'r Cyngor wedi bod yn cryfhau ei ddull o reoli perfformiad corfforaethol fel rhan o'i “siwrnai” barhaus o ran perfformiad. Mae wedi:

Ø  Cyflwyno proses newydd symlach o gynllunio busnes, 

Ø  Cyflwyno dangosfyrddau perfformiad newydd i fonitro’r cynnydd - ar sail cynlluniau busnes lefel 1 - drwy’r Bwrdd Perfformiad,

Ø  Adfywio System Berfformio Teifi,

Ø  Diweddaru’r broses o reoli perfformiad yn dilyn COVID-19 er mwyn cynnwys “ymarfer myfyriol” fel elfen graidd.

 

Adlewyrchir hyn yn yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Archwilio Cymru i ddull y Cyngor o reoli perfformiad.

 

Mae deddfwriaeth ddiweddar, ar ffurf y drefn berfformio newydd sy'n seiliedig ar Hunanasesu, hefyd wedi golygu bod angen ffordd newydd o asesu ein perfformiad cyffredinol. Llwyddwyd i gyflwyno proses Hunanasesu newydd yn 2022/23 a chyhoeddwyd Adroddiad Hunanasesu cyntaf y Cyngor ym mis Ionawr 2023.

 

Ar ôl cyflwyno'r prosesau newydd hyn mae'r Cyngor bellach mewn sefyllfa i dynnu'r rhain ynghyd i greu dogfen ddrafft Fframwaith Rheoli Perfformiad. 

Ystyrir bod Fframwaith Rheoli Perfformiad yn arfer da ac mae’n esbonio:

Ø  Sut mae'r broses gorfforaethol o reoli perfformiad yn gweithio,

Ø  Sut mae'r prosesau unigol yn cyd-fynd â’i gilydd i gefnogi cynllunio corfforaethol

Ø  Sut mae rheoli perfformiad yn cael ei ddefnyddio i gyflawni’r Amcanion Llesiant Corfforaethol a chanlyniadau gwell.

 

Mae nod dwbl i’r Fframwaith.

1) darparu dull safonol i'r Cyngor o reoli perfformiad a,

2) fel rhan allweddol o'r trywydd archwilio i ddangos bod gan y Cyngor drefniadau rheoli perfformiad cadarn ar waith. 

 

Mae Datganiad y Polisi Rheoli Perfformiad yn cyd-fynd â'r Fframwaith Perfformiad. Mae’r Datganiad yn nodi prif egwyddorion y Cyngor o ran rheoli perfformiad ac yn ystyried y ddeddfwriaeth newydd ac arfer da. Yn benodol, mae’n tynnu sylw at rôl hanfodol rheoli perfformiad wrth wella’r canlyniadau i bobl a chymunedau Ceredigion ac wrth ategu’r gwaith o lunio polisïau a dod i benderfyniad ar sail tystiolaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, nodwyd y canlynol:

Ø  Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod cyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Perfformiad yn parhau.

Ø  Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod mesurau perfformiad monitro cyfyngedig yn eu lle, ac yn parhau i fod, gyda chymariaethau gan Awdurdodau Lleol cyfagos ac Awdurdodau Lleol o faint tebyg.

Ø  Yn dilyn cwestiwn, cadarnhawyd bod y Mesurau Atebolrwydd Perfformiad cenedlaethol blaenorol bellach wedi darfod yn dilyn cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fodd bynnag, mae Data Cymru yn arwain prosiect i ddisodli’r mesurau gyda Theclyn Data Hunanasesu newydd a fydd yn rhoi data meincnodi cenedlaethol. Bydd gwaith pellach yn parhau i ddatblygu'r teclyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac mae Ceredigion yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi'r prosiect.  

 

Cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn:

 

Ø  Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad Polisi Rheoli Perfformiad drafft a’r Fframwaith Rheoli  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

Offeryn Asesiad Effaith Integredig diwygiedig pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod o’r Cabinet, yn bresennol i gyflwyno offeryn Asesiad Effaith Integredig diwygiedig Cyngor Sir Ceredigion. Roedd Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant hefyd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau oedd yn codi.

 

Eglurodd y Cynghorydd Davies fod offeryn Asesiad Effaith Integredig Cyngor Sir Ceredigion wedi’i gynllunio i helpu swyddogion ac aelodau etholedig i ystyried effaith polisi, strategaeth neu wasanaeth newydd neu ddiwygiedig. Mae’n asesiad integredig sy’n galluogi swyddogion y Cyngor ac aelodau etholedig i wirio bod ein penderfyniadau yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor, yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 a Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac yn cyfrannu at Nodau Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2014. Mae’r offeryn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion y Cyngor ystyried a ydynt wedi cynllunio eu cynnig yn unol â’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy ac wedi rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy’n rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn gosod gofynion ychwanegol ar awdurdodau cyhoeddus. Rhaid i Gyngor Sir Ceredigion feddwl hefyd am yr angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt, ac annog cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt.  Ymdrinnir â’r gofynion hyn yn yr adran ‘Nod Llesiant Cenedlaethol:  Cymru fwy cyfartal’ yn y templed. Dyluniwyd yr offeryn presennol dros bum mlynedd yn ôl ac mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r offeryn Asesiad Effaith Integredig diwygiedig, a bod gweithdy ynghylch ei ddefnyddio yn cael ei gynnig i bob Aelod Etholedig.

 

14.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft Ceredigion 2024-28 pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd M S Davies, Aelod o’r Cabinet, Gynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft Ceredigion 2024-28.  Roedd Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant, yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau oedd yn codi.

 

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gorff cyhoeddus penodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb Penodol Sector Cyhoeddus Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi ein Hamcanion Cydraddoldeb ac yna eu hadolygu bob pedair blynedd. Rhaid cyhoeddi’r amcanion diwygiedig ar gyfer 2024-28 a’r cynllun gweithredu cysylltiedig erbyn 31ain Mawrth 2024.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn:

Ø  cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28 cyn iddo fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod gaeaf 2023.

 

Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28 arfaethedig yn datblygu nod y Cyngor o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, cael gwared â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yng Ngheredigion.

 

15.

Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022-23 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod o’r Cabinet yr Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022-23.  Roedd Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant, yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau oedd yn codi.

 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ystyried anghenion pob unigolyn wrth gyflawni ein gwaith o ddydd i ddydd. Mae'r Ddeddf yn cynnwys Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Penodol i Gymru sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor bennu Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol, rhaid adolygu'r rhain bob pedair blynedd. Mae hybu a defnyddio’r Gymraeg wedi’i nodi ym Mesur y Gymraeg 2011, yn hytrach na’r Ddeddf Cydraddoldeb. Fodd bynnag, rydym yn ystyried gofynion y Gymraeg ochr yn ochr â nodweddion gwarchodedig y Ddeddf Cydraddoldeb fel bod ein hagwedd at anghenion cyfathrebu pob cymuned yn cael ei chydlynu. Mae cynllun gweithredu yn sicrhau bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor 2020-24 yn cael ei gyflawni, wedi’i grwpio o dan bum Amcan Cydraddoldeb, sef:

1. Cyflogwr Cyfle Cyfartal Enghreifftiol

2. Meithrin Perthynas Dda a Mynd i'r Afael â Rhagfarn

3. Ymgysylltu a Chyfranogi

4. Urddas, Parch a Mynediad i Wasanaethau

5. Addysg Deg a Chynhwysol

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:

Ø  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dogfennau PDF sy’n cael eu harddangos ar Wefan y Cyngor, cadarnhaodd Cathryn Morgan na all rhaglenni darllen sgrin a ddefnyddir gan rai pobl ag amhariad ar eu golwg ddarllen cynnwys y ddogfen, ac mai'r arfer orau yw rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol ar y dudalen we yn hytrach na lanlwytho dogfen ar ffurf pdf.

Ø  Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â phobl anabl yn nodi nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r arfordir, cadarnhawyd bod dwy gadair olwyn yn y Sir ar hyn o bryd, un ar gael yng Ngheinewydd. Fodd bynnag, mae angen ymchwilio ymhellach i hyn. 

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn:

Ø  Cael a chymeradwyo Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor 2022-23.

Mae'n ofynnol yn ôl Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus bod yr Awdurdod yn cynhyrchu Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blynyddol ar gyfer 2022/23 a'i gyhoeddi ar y wefan allanol erbyn 31/03/24.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod o’r Cabinet, a Cathryn Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant, am gyflwyno'r adroddiadau uchod.

 

 

16.

Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023 ac Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2023 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, yn bresennol i gyflwyno’r Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023 ac Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2023

Mae’n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, ynghyd â’r holl awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyhoeddi gwybodaeth am y gweithlu yn flynyddol. 

 

Mae’r gofyniad i adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’i gynnwys yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017. Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i wneud chwe chyfrifiad ynglŷn â’r gweithlu ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gymerwyd am y gweithle ar 31 Mawrth 2023.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn:

1.  Cael Adroddiad ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2023,

2. Cael Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2023.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor, a Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, am gyflwyno'r adroddiad.

 

 

17.

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2023 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr, CAVO, i’r cyfarfod a’i llongyfarch ar ei phenodiad diweddar yn Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Roedd Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol, a Tim Bray, Swyddog Argyfyngau Sifil Posibl a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, hefyd yn bresennol.

 

Cyflwynodd Mrs Hazel Lloyd-Lubran, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Fehefin y 13eg 2023 yn amlinellu’r prif flaenoriaethau a’r gwaith sy’n mynd rhagddo.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i:

Ø  Gael cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 13eg Mehefin 2023.

Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

 

18.

Asesiad Strategol Trosedd ac Anhrefn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion. pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Matthew Vaux, Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol a Tim Bray, Swyddog Argyfyngau Sifil Posibl a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, i'r cyfarfod i gyflwyno adroddiad Asesiad Strategol Trosedd ac Anhrefn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion.

 

Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gyfrifol am gwblhau Asesiad Strategol Trosedd ac Anhrefn ac am roi Strategaeth Diogelwch Cymunedol ar waith ar gyfer y Sir. Mae canllawiau’r Swyddfa Gartref yn awgrymu y dylai’r Asesiad Strategol gynnwys data a sylwebaeth oddi wrth y cyhoedd a'r holl asiantaethau sy’n bartneriaid ac y dylid defnyddio’r wybodaeth hon wrth lunio’r Strategaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Mae’r Asesiad Strategol yn cynnwys data rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Rhagfyr 2022 (gan gynnwys y dyddiad hwnnw) ac felly ceir blwyddyn gyfan o ddata i’w ddadansoddi.

 

Paratowyd holiadur cynhwysfawr a’i ddosbarthu’n eang yn y gymuned. Roedd yr holiadur hwn yn un dwyieithog ac ar gael ar ffurf papur. Hefyd, roedd modd ymateb drwy ffurflen electronig ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. Ar ben hyn, rhoddwyd negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac anfonwyd datganiadau at y cyfryngau er mwyn cyfeirio’r cyhoedd at yr ymarfer ymgysylltu a’u hannog i gymryd rhan.

 

Er mwyn sicrhau sylfaen tystiolaeth ehangach a chefnogi’r holiadur, cafodd data hefyd ei gasglu o nifer o ffynonellau perthnasol. Yn adroddiad yr Asesiad Strategol ystyriwyd y data ychwanegol ochr yn ochr â’r ymatebion i’r holiadur. Roedd hyn yn gyfle i gymharu canfyddiadau’r cyhoedd ac ofn troseddau â data empirig o ran troseddau a’r ffigurau ynghylch ymwneud pobl â’r gwasanaeth.

 

Yng nghyfarfod Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion a gynhaliwyd ar Fehefin y 19eg 2023, cytunwyd ar gyfres o flaenoriaethau yn seiliedig ar adolygiad o’r dystiolaeth a gasglwyd. Cytunwyd y dylid rhannu’r blaenoriaethau i ddau gategori:  Y Blaenoriaethau o ran Troseddau a’r Blaenoriaethau o ran Teimlo’n Ddiogel.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i:

1.    Nodi canfyddiadau Asesiad Strategol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol

2.    Nodi’r blaenoriaethau o ran Troseddau a Theimlo’n Ddiogel a fydd yn rhan o Strategaeth y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2023-2024

 

Er mwyn i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu gyflawni ei rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Vaux, Aelod o’r Cabinet a'r Swyddogion am fynychu'r cyfarfod.

 

19.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Lisa Evans, Swyddog Safonau a Chraffu, yr adroddiad blynyddol ar ran Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. 

 

Mae’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu yn amlinellu’r prif faterion a ystyriwyd gan y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystod 2022/2023. Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ynglŷn â gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Cyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol ar y dudalen we ynghylch Trosolwg a Chraffu ar wefan y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:

Ø  Bu cryn dipyn o Graffu yn ystod y cyfnod adrodd.  Llongyfarchwyd y Cadeiryddion am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad a ganlyn:

Ø  Nodi’r wybodaeth sydd yn yr adroddiad cyn i’r adroddiad cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 21 Medi 2023.

Er mwyn bodloni’r gofyniad statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol am y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

20.

Hunanwerthuso'r trefniadau craffu pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Lisa Evans, Swyddog Safonau a Chraffu, adroddiad Hunanwerthuso’r trefniadau Craffu.

 

Yn 2018, cytunwyd y byddai’r Swyddogion Craffu yn cynnal adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau Trosolwg a Chraffu yng Nghyngor Sir Ceredigion ac y byddai hyn yn cael ei wneud bob blwyddyn yn y dyfodol. Adolygwyd y broses yn 2020 a chytunwyd i wneud y canlynol:

1.    Parhau i gynnal yr arolwg yn flynyddol.

2.    Lleihau nifer y cwestiynau gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad.

3.    Adolygu fformat yr adroddiad, cyfuno’r ymatebion Cymraeg a Saesneg, a chyfieithu’r ddogfen yn ei chyfanrwydd. Ar gyfer adolygiad 2022-23, gwahanwyd ymatebion Aelodau Cabinet ac Aelodau Craffu. Derbyniwyd cyfanswm o 15 o ymatebion, mae hyn yr un faint â nifer yr ymatebion a dderbyniwyd yn 2021, ond yn ostyngiad o’i gymharu â’r 25 ymateb a dderbyniwyd yn 2020. Ni chynhaliwyd adolygiad yn 2022 oherwydd yr etholiadau.  Ni ddatgelir enwau aelodau.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i’r Aelodau:

Ø  Ystyried yr ymatebion a ddaeth i law o’r holiadur hunanwerthuso a nodi unrhyw feysydd i’w gwella os oes angen.

Er mwyn sicrhau swyddogaeth trosolwg a chraffu effeithiol.

 

Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i nodi'r ymatebion fel y'u dangosir yn Atodiadau A a B papurau'r agenda.

 

 

21.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod Cydlynu a gynhaliwyd ar Fai’r 22ain 2023 

           fel cofnod cywir o’r trafodion.

         

Gofynnodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans i ba Bwyllgor y byddai adroddiad Caffael yn cael ei gyflwyno.  Eglurodd Dwynwen Jones, Swyddog Trosolwg a Chraffu, fod y Pwyllgor Cydlynu wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ymchwilio i Gaffael yn 2019, cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar Ionawr yr 22ain 2019. Eglurodd y byddai'n dibynnu ar beth yw'r materion yr hoffai'r aelodau graffu arnynt pa Bwyllgor y byddai'n ymchwilio iddynt.  Cytunwyd felly ar ôl cael y Strategaeth Caffael a Chomisiynu a oedd i'w chyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Hydref y 19eg 2023, y byddai trafodaeth bellach yn cael ei chynnal mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Cydlynu gyda'r Cadeiryddion yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i Gadeiryddion drafod hyn gydag Aelodau eu Pwyllgorau. 

 

 

22.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd pob Cadeirydd yn ei dro ddiweddariad ar 

           Flaengynlluniau Gwaith eu Pwyllgorau. 

 

1.    Pwyllgor Cydlynu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar gynllun gwaith y Pwyllgor Cydlynu ar gyfer y dyfodol. 

2.    Adnoddau Corfforaethol

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Adnoddau Corfforaethol yn y dyfodol. 

3.    Cymunedau Iachach

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Iachach yn y dyfodol.

4.    Cymunedau Ffyniannus

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau Ffyniannus yn y dyfodol.  

Mynegodd y Cadeirydd ei siom gydag ansawdd y sain yng nghyfarfod mis Gorffennaf pan fynychodd cynrychiolwyr o Dŵr Cymru y cyfarfod rhithwir a gofynnodd i hyn gael ei ymchwilio. 

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ymweld â Chanolfan Fwyd Horeb ac Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon.

Cytunwyd i ofyn am adroddiad ar Dorri Gwair/Cloddiau a diweddariad ar y Gyllideb i'w roi ar y Blaengynllun Gwaith.

5.    Cymunedau sy’n Dysgu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â chynllun gwaith Cymunedau sy'n Dysgu yn y dyfodol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Pwyllgor, Aelodau o’r Cabinet, Swyddogion am fynychu a daeth y trafodion i ben am hanner dydd.