Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Llun, 22ain Mai, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Rhodri Evans ar y cyfle i longyfarch y Cadeirydd, y Cynghorydd Keith Evans, ar gael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cyngor yng nghyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar Fai 19eg 2023.  Hefyd llongyfarchodd y Cadeirydd y Cynghorydd Maldwyn Lewis a etholwyd yn Gadeirydd yn yr un cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Geraint Wyn Hughes a Ceris Jones am fethu mynychu'r cyfarfod.

 

Ymddiheurodd Elin Prysor, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, am ei hanallu i fynychu'r cyfarfod.  

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Rhodri Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 4 ar yr agenda, Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion.

 

3.

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol Cyfun CYSUR / CWMPAS Chwarter 3 2022/23 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i Adroddiad Diogelu Chwarter 3 y Grŵp Gweithredu Lleol Cyfun CYSUR/CWMPAS, rhwng y cyfnod 1.10.2022 a 31.12.2022, 2022/23.

 

Croesawodd y Cadeirydd Elizabeth Upcott, Rheolwr Corfforaethol, i roi crynodeb o’r pwyntiau allweddol, a oedd fel a ganlyn:

 

Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol:

·       Yn Chwarter 3, bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau a dderbyniwyd ynghylch plant / pobl ifanc o’i gymharu â Chwarter 2. Derbyniwyd 1112 o gysylltiadau / adroddiadau yn Chwarter 3 o’i gymharu â 1030 yn Chwarter 2.

·       Bu cynnydd yng nghyfanswm y cysylltiadau / adroddiadau a arweiniodd at gymryd camau o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant. Roedd 193 yn Chwarter 3 o’i gymharu â 171 yn Chwarter 2.

·       Canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 17.3% o’i gymharu â 16.7% yn Chwarter 2.

·       Yn Chwarter 3, aeth 7.3% o’r adroddiadau ymlaen i Ymholiad Adran 47 o’i gymharu ag 8.3% yn Chwarter 2. Roedd angen i 0.97% o’r adroddiadau symud ymlaen i Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant yn Chwarter 2 o’i gymharu ag 1.6% yn y chwarter hwn, sef Chwarter 3. Felly bu cynnydd yn nifer y cysylltiadau / adroddiadau a dderbyniwyd yn Chwarter 3 a arweiniodd at gynnydd yn nifer y trafodaethau strategaeth a gynhaliwyd a chynnydd yn nifer y plant a oedd yn destun Cynadleddau Cychwynnol Amddiffyn Plant.

·       Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant oedd 31 o’i gymharu ag 16 yn Chwarter 2.

·       Cyfanswm y plant a dynnwyd oddi ar y gofrestr yn y chwarter hwn yn dilyn y Gynhadledd Adolygu Amddiffyn Plant oedd 28 o’i gymharu â 13 yn Chwarter 2.

·       Cyfanswm yr ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 81 o’i gymharu ag 86 yn Chwarter 2. Yn y chwarter hwn, cafodd 59 o’r ymholiadau eu cynnal ar y cyd â’r Heddlu a chafodd 22 eu cynnal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fel Asiantaeth Sengl.

·       Y prif gategorïau o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 3 oedd cam-drin corfforol (40), cam-drin / cam-fanteisio’n rhywiol (15), esgeulustod (13) a cham-drin emosiynol (9).  Mae hyn yn dilyn yr un patrwm â’r hyn a welwyd yn Chwarter 2. 

·       Roedd 49 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter hwn, o’i gymharu â 46 ar ddiwedd Chwarter 2. Yn y chwarter hwn, cofrestrwyd 29 o dan y categori cam-drin emosiynol / seicolegol, 14 o dan y categori esgeulustod a 6 o dan y categori esgeulustod a cham-drin corfforol.

·       Y prif ffactorau risg ar gyfer y 49 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 31/12/2022 oedd cam-drin domestig, iechyd meddwl rhieni, rhieni’n camddefnyddio sylweddau / alcohol a rhieni’n gwahanu.

·       O ran Diogelu Oedolion, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a / neu eu hesgeuluso, gyda 128 oedolyn yn cael eu hadrodd yn y chwarter hwn o’i gymharu â 113 yn Chwarter 2.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion a chyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2023 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, Diana Davies a Tim Bray, Swyddogion, i’r cyfarfod i gyflwyno Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion a chyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar Ebrill 24ain 2023. O dan Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r pŵer i graffu ar y penderfyniadau a wneir, neu gamau eraill a gymerir, gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ardal yr Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. Mae Adran 39 hefyd yn nodi bod yn rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus anfon copi o’i Gynllun Llesiant Lleol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol.

 

Mae’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu wedi derbyn diweddariadau yn y gorffennol am y broses o ddatblygu’r Asesiad Llesiant Lleol a Chynllun Llesiant Lleol 2023-2028 yng Ngheredigion.

 

Ar ôl i Gynllun Llesiant Lleol 2023-28 gael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar Fawrth 6ed 2023, gwnaeth pob un o sefydliadau statudol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried y Cynllun Llesiant Lleol yng nghyfarfodydd eu byrddau yn unigol, gan wneud hynny rhwng Mawrth 22ain ac Ebrill 20fed. Gallwn gadarnhau bod pob un o aelodau statudol unigol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo Cynllun Llesiant Lleol 2023-28 drwy eu trefniadau llywodraethu arferol. Fel un o’r aelodau statudol, cymeradwyodd Cyngor Sir Ceredigion y cynllun yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ar Fawrth 22ain 2023, y Cabinet ar Ebrill 4ydd 2023 a’r Cyngor llawn ar Ebrill 20fed 2023. Cyfarfu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar Ebrill 24ain 2023 i gadarnhau’r broses o gymeradwyo’r Cynllun Llesiant 2023-28 a bu i’r holl bartneriaid gytuno’n unfrydol. Cytunwyd y byddai’r Cynllun yn cael ei gyhoeddi ar 2il Mai, gan fodloni’r terfyn amser statudol fel y nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir pob etholiad cyffredin o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).

 

Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn dwyn dyddiad Ebrill 24ain 2023. 

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:

·       Swyddogion i adrodd yn ôl drwy e-bost ar y cwestiwn a ofynnwyd ynghylch sut mae’r cynnydd o 1% yn nifer y perchnogion tai yng Ngheredigion, yn unol â Chyfrifiad 2021, yn cymharu ag Awdurdodau eraill, 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Adroddiad Sylfaenol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Risgiau yn Sgil y Newid yn yr Hinsawdd, bydd Swyddogion a Chadeirydd y pwyllgor hwn yn codi’r cwestiwn yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu ag Aelodau’r Pwyllgor,

·       Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y ffigurau cyflogaeth a Statws Gweithgarwch Economaidd a ddangoswyd yn y Cyfrifiad diwethaf.  Dywedwyd bod y ffigurau hyn yn cael eu monitro’n barhaus gan Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac felly mae’r blaenoriaethau yn y Cynllun Llesiant Lleol yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i:

1.    Nodi bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Dyletswydd Trais Difrifol pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet, Diana Davies a Tim Bray, Swyddogion, i gyflwyno'r adroddiad.

 

Dechreuodd y Ddyletswydd Trais Difrifol ar Ionawr 31ain 2023 ac mae’n cynnwys y gofynion a nodir ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu, a’r Llysoedd 2022. Mae’r rhain yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau penodedig i gydweithio i atal a lleihau trais difrifol. Mae’r awdurdodau penodedig yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub, y Sector Heddlua a Chyfiawnder (timau prawf a throseddu ieuenctid). Y sefydliadau hyn sy’n gyfrifol am gyflawni’r ddyletswydd ac sy’n gyd-atebol am gyflawni prif gerrig milltir yr arian grant rhanbarthol a ddarperir gan y Swyddfa Gartref i weithredu gofynion y Ddyletswydd.  Yn ogystal â’r awdurdodau penodedig a nodir uchod, mae yna awdurdodau perthnasol sy'n cynnwys awdurdodau addysgol (ynghyd ag awdurdodau dalfa ieuenctid a charchardai). Mae gofyn i’r awdurdodau hyn gydweithio â’r awdurdodau penodedig, yn ôl yr angen, i gyflawni’r ddyletswydd a hefyd rhaid i’r awdurdodau penodedig ymgynghori â nhw wrth baratoi’r strategaeth. Rhaid i awdurdodau penodedig nodi'r mathau o drais difrifol sy'n digwydd yn yr ardal, achosion y trais hwnnw (cyhyd ag y bo modd gwneud hynny), a pharatoi a gweithredu strategaeth ar gyfer atal a lleihau trais difrifol yn yr ardal. Dylai'r strategaeth gynnwys atebion pwrpasol i atal a lleihau trais difrifol. Rhaid cadw golwg ar hyn ac adolygu yn flynyddol a'i ddiweddaru pan fo angen. Asesiad o Anghenion Strategol I fwydo i’r broses, dylai awdurdodau penodedig wneud dadansoddiad ar y cyd, yn seiliedig ar dystiolaeth o achosion trais difrifol o fewn eu hardal, a defnyddio'r dadansoddiad hwn i ddatblygu Asesiad o Anghenion Strategol a ddylai lywio'r strategaeth leol. Bydd hyn yn cynnwys ystod eang o ddata, er enghraifft gallai gynnwys data lleol a chenedlaethol am droseddau, data’r cyfrifiad, a data ysbytai a gofal sylfaenol. O safbwynt awdurdod lleol, gallai hefyd gynnwys data addysgol megis presenoldeb, data am atal a gwahardd disgyblion, a data am ofal cymdeithasol plant. Bydd yr Asesiad o Anghenion Strategol yn cynnwys dealltwriaeth gyffredin o'r carfanau sydd fwyaf agored i drais difrifol a bydd angen i'r strategaeth leol ddangos sut mae pob ardal yn cyfeirio adnoddau i’r boblogaeth ddiffiniedig sydd fwyaf angen cymorth.

 

Nid yw'r Ddyletswydd yn diffinio trais difrifol oherwydd mae’n fater i bob ardal unigol wneud hynny ‒ bydd hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth leol ar gyfer yr Asesiad o Anghenion Strategol.  Wrth ystyried yr Asesiad, mae’n eglur nad yw trais yn gyfyngedig i drais corfforol yn erbyn person. Mae'n darparu, at ddibenion y Ddyletswydd, bod trais yn cynnwys cam-drin domestig, troseddau rhyw, trais yn erbyn eiddo a bygythiadau o drais. At hynny, mae Strategaeth Trais Difrifol 2018 yn nodi fod Trais Difrifol yn ymwneud â mathau penodol o droseddau megis lladd, trais â chyllyll a gynnau, a meysydd lle mae trais difrifol neu ei fygythiad yn gynhenid, megis mewn gangiau a llinellau cyffuriau. Mae hefyd yn cynnwys bygythiadau sy'n dod i'r amlwg mewn rhai ardaloedd o'r wlad, megis defnyddio sylweddau cyrydol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad ar ddefnydd yr Awdurdod o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet, a Harry Dimmack, Swyddog Llywodraethu, i gyflwyno’r Adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd Polisi RIPA diwygiedig i’r Pwyllgor ar 23ain Tachwedd 2022, ac fe’i cymeradwywyd gan y Cyngor ar 26ain Ionawr 2023. Cafodd yr aelodau ddiweddariad hefyd yn dilyn arolygiad gan Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) yng nghyfarfod mis Tachwedd.

 

Yn ogystal â’r newidiadau a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn ar 23ain Tachwedd 2022, gwnaeth y Cyngor gymeradwyo dau newid pellach i’r adran a geir yn y polisi RIPA ar y Weithdrefn ar gyflwyno cais am Awdurdodiad Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig (gweler adroddiad y Cyngor am ragor o wybodaeth). Cymeradwywyd y newidiadau ychwanegol hyn cyn cyfarfod y Cyngor a hynny gan Gadeirydd y Pwyllgor hwn.

 

Y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu sy’n gyfrifol am fonitro defnydd y Cyngor o Ddeddf RIPA. Cyflwynwyd y diweddariad diweddaraf ynglŷn â gweithgarwch RIPA i’r Pwyllgor ar 26ain Medi 2022. Cyflwynir adroddiadau bob 6 mis.

 

Rhwng 4ydd Gorffennaf 2022 a 26ain Ebrill 2023, cafodd un cais am wyliadwriaeth gyfeiriedig ei gyflwyno a’i gymeradwyo.  Cafodd yr awdurdodiad ei gymeradwyo gan ynadon ar 13eg Ionawr 2023 a daeth i ben ar 13eg Ebrill 2023 (3 mis). Gwnaed adolygiad ar 11eg Ebrill 2023 a ddaeth i’r casgliad na ddylai’r awdurdodiad gael ei adnewyddu.

 

Ar Fai’r 12fed 2023 cafodd diweddariad RIPA gan yr Uwch-swyddog Cyfrifol ei gyhoeddi ar Newyddion Cerinet a hynny ar gyfer holl staff y Cyngor. Roedd hwn yn hysbysu’r staff bod Dogfen Bolisi a Gweithdrefnau Corfforaethol y Cyngor ar Wyliadwriaeth Gyfeiriedig, Ffynonellau Cuddwybodaeth Dynol a Data Cyfathrebu, ar sail Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) RHAN II, wedi cael eu diweddaru. Roedd y diweddariad hwn hefyd yn rhoi braslun i’r staff o’r ffurflenni a’r canllawiau RIPA a oedd ar gael ar CeriNet. Bwriedir cylchredeg negeseuon ar Cerinet bob chwe mis i sicrhau bod unrhyw staff newydd yn ymwybodol o’r angen i ystyried RIPA.

 

Mae cylchlythyr chwarterol hefyd wedi’i gyhoeddi gan Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) ac mae ar gael i’w weld ar eu Gwefan. https://www.ipco.org.uk/publications/correspondence/

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:

·       Codwyd cwestiwn ynghylch ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Cadarnhaodd y Swyddog Llywodraethu y byddai'n rhaid i'r Awdurdod gadw at y polisi Rhyddid Gwybodaeth wrth ymateb i unrhyw gais.

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i'r Aelodau nodi'r adroddiad.

Cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys yr adroddiad, er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd y Cyngor o RIPA a gweithrediad polisïau.    

 

7.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod Cydlynu a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 fel cofnod cywir o’r trafodion ac nid oedd dim materion sy’n codi  o’r cofnodion hynny.

 

8.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd pob Cadeirydd (neu Is-gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd) yn ei dro ddiweddariad ar Flaengynlluniau Gwaith eu Pwyllgorau priodol. 

 

1.    Cymunedau Ffyniannus

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith Cymunedau Ffyniannus.

Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Evans y Cadeirydd am drefnu cyfarfod diweddar i drafod sefyllfa’r Gwastraff. 

2.    Cymunedau Iachach

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith Cymunedau Iachach.

Roedd yr aelodau’n siomedig bod yr adroddiad ynghylch Recriwtio//cadw Llesiant Gydol Oed wedi’i symud ymlaen i 3ydd Gorffennaf 2023 o gyfarfod y Pwyllgor ar 24ain Mai 2023.

3.    Cymunedau sy’n Dysgu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith Cymunedau sy'n Dysgu. 

Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor gwestiwn mewn perthynas â Datganiad o Ddiddordeb a dywedodd y Swyddog Safonau a Chraffu y dylai'r Cynghorydd gysylltu â'r Swyddog Monitro.

4.    Adnoddau Corfforaethol

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith Adnoddau Corfforaethol. 

5.    Pwyllgor Cydlynu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad mewn perthynas â blaengynllun gwaith y Pwyllgor Cydlynu.  Nodir ar hyn o bryd y bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydlynu ar 29 Mehefin 2023.  Dywedodd Cadeirydd yr Adnoddau Corfforaethol, y Cynghorydd Rhodri Evans, y dylid cyflwyno’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig i’r Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol gan ei fod yn dod o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn.  Dywedodd y Swyddog Trosolwg a Chraffu ei bod wedi bod mewn cysylltiad â Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol.  Y broblem yw'r amserlen ar gyfer cwblhau adroddiadau.  Fodd bynnag, efallai y bydd cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol ar Orffennaf y 19eg 2023 yn bosibilrwydd. 

              

Awgrymwyd y dylai pob Pwyllgor gael adroddiad yn yr Hydref ar sefyllfa'r Gyllideb er mwyn i'r Aelodau allu paratoi ar gyfer cyfarfodydd mis Chwefror.   Byddai hyn yn rhoi cyfle i drafod lle mae arbedion yn debygol o fod yn rhoi mwy o fewnbwn gan Aelodau ynghylch yr opsiynau sydd ar gael.

 

Awgrymodd Aelod y dylid cynnwys Caffael ar Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor perthnasol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Pwyllgor, Aelodau’r Cabinet, Swyddogion am fynychu a daeth y trafodion i ben am 12 hanner dydd.