Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Nodyn: Special 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Croeso ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

    Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards am nad oedd yn gallu bod yn

    bresennol yn y cyfarfod.

    Ymddiheurodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet, am nad oedd yn

    gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

    Ymddiheurodd Mr James Starbuck, Cyfarwyddwr Corfforaethol, am nad  

    oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

20.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau personol na buddiannau sy’n rhagfarnu.

 

21.

Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

     3   Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27

          

Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yn bresennol i gyflwyno’r Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i’r weinyddiaeth flaenorol (Aelodau Cabinet a Chynghorwyr) am y Strategaeth Gorfforaethol flaenorol. Dywedodd, yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022, mae angen Strategaeth Gorfforaethol newydd i nodi Amcanion Llesiant Corfforaethol newydd y Cyngor (blaenoriaethau corfforaethol) a’r uchelgeisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r Strategaeth yn nodi sut y bydd y Cyngor yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion a chymunedau Ceredigion a chynyddu ei gyfraniad tuag at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod gan yr Awdurdod gyfnod heriol o’i flaen. Roedd y Prif Weithredwr, Eifion Evans, hefyd yn bresennol, a chytunodd gyda sylwadau’r Arweinydd. Diolchodd hefyd i’r Swyddogion a oedd ynghlwm â’r strategaeth, sef Alun Williams, Diana Davies a Rob Starr, am eu gwaith caled wrth lunio’r Strategaeth.

 

Parhaodd Rob Starr, Rheolwr Perfformiad ac Ymchwil, i gyflwyno cynnwys yr adroddiad. Eglurodd mai pwrpas craidd y Strategaeth Gorfforaethol yw dangos sut y bydd yr awdurdod yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd a lles dinasyddion Ceredigion, trwy ei Weledigaeth hirdymor a’i Amcanion Llesiant Corfforaethol. Yr Amcanion Llesiant Corfforaethol arfaethedig yw:

 

·       Hybu’r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth

·       Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach

·       Darparu’r Dechrau Gorau Mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu

·       Creu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i Gilydd

 

Esboniodd Rob Starr fod yr amcanion wedi’u nodi trwy ddadansoddi tystiolaeth ac ymgysylltu gyda thrigolion, gan gynnwys uchelgeisiau’r weinyddiaeth wleidyddol newydd, Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion a’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y strategaeth ddrafft a gynhaliwyd rhwng 24 Awst a 30 Medi 2022. Cafwyd cyfanswm o 51 o ymatebion i’r ymgynghoriad - daeth rhai ymatebion i law ar ôl y dyddiad cau ac felly nid oedd y ffigurau wedi’u cynnwys yn y ddogfen eto ond maen nhw wedi cael eu hystyried.

 

Eglurodd Rob Starr fod yr amcanion hefyd wedi’u nodi gan ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd hyn yn cynnwys nodi sut mae modd i ni wneud y cyfraniad mwyaf posib tuag at y nodau llesiant cenedlaethol a hefyd sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy i sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol ddrafft yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n manylu ar y camau sydd angen eu cymryd i gyflawni pob un o’r Amcanion Llesiant Corfforaethol. Mae’r cynnydd yn cael ei adolygu bob blwyddyn, a bydd hyn yn cael ei gyhoeddi yn Adroddiad Hunanasesu’r Cyngor.

 

Yna, esboniodd Rob Starr y broses a’r camau sy’n gysylltiedig â llunio’r strategaeth. Cyfeiriodd hefyd at dudalen 6 o’r strategaeth, Gwella Canlyniadau, a sut

maent yn cyd-fynd â’r hunanasesiad wrth ddiwallu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dywedodd wrth Aelodau’r Pwyllgor mai’r 3 thema mwyaf

cyffredin o’r adborth a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 21.

22.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-lynu a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022 ac ystyried unrhyw faterion yn codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod Cydlynu a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022 yn gywir ac nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor am fod yn bresennol a daeth y cyfarfod i ben am 11:08am.