Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorwyr Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi a Pherfformiad a Phobl a Threfniadaeth, Caryl Roberts a Chris James  am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion a Chyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Bryan Davies, cyflwynodd Hazel Lloyd-Lubran yr adroddiad ynghylch Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion. Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch fersiwn ddrafft Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028 i ben ar 31 Ionawr 2023. Gwnaed newidiadau a gwelliannau gan gynnwys y rhai a awgrymwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023, ystyriwyd y newidiadau arfaethedig gan bob sefydliad sy’n aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r bwriad o gymeradwyo’r Cynllun drwy eu trefniadau llywodraethu arferol cyn y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi cymeradwyaeth derfynol i gyhoeddi’r Cynllun ym mis Mai 2023.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Hazel Lloyd-Lubran, Naomi McDonagh a Diana Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roeddent yn disgwyl fwy o ymateb i’r ymgynghoriad; fodd bynnag, cydnabuwyd mai un ffactor posib ar gyfer y nifer isel o ymatebion oedd bod pobl wedi blino ar ymgynghoriadau. Yn ogystal, gan fod gwaith ymgynghori gyda phartneriaid wedi’i wneud yn gynnar yn y broses, roedd llai o adborth oddi wrth y cyrff hyn gan eu bod nhw eisoes wedi cyfrannu at ddatblygu’r cynllun.

·       O ran y broses ymgynghori, cysylltwyd ag ystod o sefydliadau, cynhaliwyd ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd y manylion eu cynnwys ar dudalen ymgynghoriadau’r Cyngor ar y we, a soniwyd am yr ymgynghoriad mewn nifer o gyfarfodydd gan gynnwys cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Cwblhawyd ymarfer ymgysylltu gyda 13 ysgol gynradd a 3 ysgol uwchradd ar draws y sir ac ymgynghorwyd â grwpiau megis y Fforwm Anabledd. Roedd posteri a chopïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden / canolfannau llesiant. Roedd cyfrifoldeb ar bob partner o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod safbwyntiau pobl yn cael eu clywed. Wrth symud ymlaen, byddai trafod ac ymgysylltu’n barhaus â chymunedau’n fuddiol ynghyd â newid sut y caiff safbwyntiau a barn eu casglu.

·       Er ei bod hi’n bwysig ystyried y 12% nad oedd yn cytuno mai’r 5 amcan llesiant oedd y blaenoriaethau cywir, roedd hi’n hyfryd nodi bod 88% yn cytuno. Roedd hi hefyd yn bwysig ystyried y niferoedd a oedd ynghlwm wrth hyn yn hytrach na’r canrannau gan fod y gyfradd ymateb yn isel. Roedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi gwneud sylwadau ynghylch cadernid yr Asesiad o Lesiant Lleol gan gynnwys y gwaith ymgysylltu a arweiniodd at ffurfio’r cynllun, ac felly roedd y swyddogion yn hyderus fod y blaenoriaethau’n gywir ac yn adlewyrchu safbwyntiau’r partneriaid a’r cyhoedd.

·       Codwyd pryderon am y ffaith fod Llywodraeth Cymru’n uchelgeisiol gyda’i chynlluniau, ond nid oedd unrhyw gyllid ar gael i awdurdodau lleol i gyflawni hyn. Byddai’r Cynllun Llesiant Lleol yn arwain at gydweithio pellach rhwng Partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru a gobeithiwyd, drwy ganolbwyntio ar y blaenoriaethau, y byddai hyn yn cynorthwyo i gyflawni’r cynllun. Nododd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet) fod Llywodraeth Cymru’n mynd i’r Grŵp Rheoli Carbon a Newid Hinsawdd ac yn cyfrannu at y trafodaethau ond cytunodd fod mwy o gydweithio’n bwysig.

·       Roedd Byrddau Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad ynglyn â Diwygiadau i'r Polisi Chwythu'r Chwiban pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Matthew Vaux, esboniodd Harry Dimmack mai’r tro diwethaf y cafodd adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor ynghylch newidiadau i’r Polisi Chwythu’r Chwiban oedd ar 16 Mai 2018, ac yna cymeradwywyd y newidiadau gan y Cabinet ar 19 Mehefin 2018. Rhoddwyd trosolwg o’r newidiadau allweddol, a oedd wedi’u marcio yn Atodiad 1. Byddai’r cyfeiriad ar gyfer Archwilio Cymru’n cael ei newid cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Harry Dimmack. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Gan mai mân newidiadau yn unig oedd i’r polisi, roedd cyflwyno’r polisi i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn ddigonol.

·       Pe bai person eisiau codi pryder yn allanol, roedd y manylion cyswllt perthnasol wedi’u nodi ar dudalen 8 y polisi.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r diwygiadau i’r Polisi Chwythu’r Chwiban fel y’u dangosir yn Atodiad 1,  yn amodol ar ddiweddaru’r manylion cyswllt ar gyfer Archwilio Cymru.

 

5.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023.

 

Materion sy’n codi: Dim.

6.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i Gadeirydd pob Pwyllgor (neu’r Is-gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd), ddarparu gwybodaeth yn eu tro am Flaenraglenni Gwaith eu Pwyllgorau.

 

1.    Pwyllgor Cydlynu

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad am flaenraglen waith y Pwyllgor Cydlynu.

 

2.    Cymunedau sy’n Dysgu

Nododd y Cadeirydd fod adborth ynghylch proses pennu’r gyllideb ar gyfer 23/24 a Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion wedi’u cyflwyno yn ystod cyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror 2023, wedi i’r materion gael eu hystyried gan y Pwyllgor. Rhoddwyd diweddariad ynghylch blaenraglen waith y Pwyllgor a nodwyd bod Aelodau wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug ac Ysgol Bro Siôn Ciwlt ar 1 Chwefror 2023 fel rhan o’r ffrwd waith. 

 

3.    Cymunedau Ffyniannus

Esboniodd y Cadeirydd fod Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cyfarfod ar 30 Ionawr 2023 ac yna cynhaliwyd cyfarfod arbennig ar 21 Mawrth 2023 i drafod casglu gwastraff ymhellach gyda swyddogion. Rhoddwyd diweddariad ynghylch blaenraglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus. Gwahoddwyd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddod i gyfarfod ym mis Mehefin i drafod Newid Hinsawdd ac Erydu Arfordirol / Llifogydd, ond ni dderbyniwyd ymateb hyd yn hyn. Cytunwyd i wahodd Dŵr Cymru a Sarah Groves-Phillips, Rheolwr Gwasanaeth – Polisi Cynllunio, i’r cyfarfod hefyd.

 

4.    Adnoddau Corfforaethol

Esboniodd y Cadeirydd fod gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ynghylch Ffermydd y Cyngor yn parhau. O ran y rheolau ynghylch Parhau Perygl Nitradau (NVZs) ar gyfer y sector amaethyddol, eglurodd y Cadeirydd fod swyddogion wedi ymweld â’r ffermydd ac wedi cynnal asesiadau. Rhoddwyd diweddariad ynghylch y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2023. O gofio’r toriadau arfaethedig yn y gyllideb, anogodd y Cadeirydd bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i ystyried hyn wrth symud ymlaen ac i chwilio am feysydd lle gellid gwneud arbedion.

 

5.    Cymunedau Iachach

Yn absenoldeb y Cadeirydd, rhoddodd y Cynghorydd Ceris Jones, yr Is-gadeirydd, ddiweddariad ynghylch blaenraglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Nododd y Cynghorydd Ceris Jones y byddai’n cadarnhau teitl yr adroddiad ynghylch archwilio safleoedd bwyd, gan fod y flaenraglen waith yn wahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg.