Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

23.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans am na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod. 

Cadeiriodd y Cynghorydd Wyn Evans (Is-gadeirydd) y cyfarfod gan fod y Cynghorydd Keith Evans (Cadeirydd, a oedd yn bresennol o bell) yn gwella o salwch.

 

24.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Gareth Davies fuddiant personol mewn perthynas ag Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru 

 

 

25.

Ystyried cyllideb ddrafft 2023/24, a ystyriwyd gan y Cabinet ar 24/01/23 pdf eicon PDF 740 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Wyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, gweddill Aelodau’r Cabinet, yr Aelodau nad ydynt yn perthyn i Bwyllgor a Swyddogion i’r cyfarfod.  

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies yr adroddiad ar gyllideb ddrafft 2023/2024 gan gynnwys rhaglen gyfalaf aml-flwyddyn wedi’i diweddaru a noddodd ei bod yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru a bod setliad terfynol Llywodraeth Cymru i ddod ar 28 Chwefror 2023.  

 

Cynghorodd yr Arweinydd Aelodau’r Pwyllgor y croesawir y cynnydd uwch na’r disgwyl o 8.1% (ar sail ariannol) yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/2024.  Dylai hyn sicrhau y gellir diogelu gwasanaethau i breswylwyr Ceredigion cymaint ag sy’n bosibl ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024 er y cydnabyddir bod hon yn Gyllideb eithriadol o heriol o hyd.   Mae’r pwyntiau allweddol sy’n deillio o’r adroddiad fel a ganlyn:

 

·       Mae’r pwysau costau a wynebir gan y Cyngor yn dod i gyfanswm na welwyd ei debyg o £22m, sydd gyfwerth â ffactor chwyddiant penodol i Geredigion o fwy na 13%. Mae hyn yn cymharu â chwyddiant cyffredinol o 10.5% (ffigwr CPI Rhagfyr 2022). Mae angen dod o hyd i ddiffyg o £12m yn y gyllideb felly drwy gyfuniad o ystyriaethau o ran Arbedion Cyllidebol a chynnydd yn Nhreth y Cyngor.

 

·       Dywedodd nad oedd y meysydd lle gwelir pwysau costau yn gyffredinol yn unigryw i Geredigion. Mae themâu’n dod i’r amlwg yn gyson sy’n debyg i’r rhai y cyfeirir atynt yn y wasg yn genedlaethol sy’n effeithio ar ystod o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat yn ogystal ag ar sefyllfa ariannol teuluoedd unigol.  Maent yn amrywio o gostau ynni a thanwydd i ddyfarniadau cyflog staff uwch na’r rhagamcanion, i gontractau â chymalau sy’n gysylltiedig â chwyddiant.

 

·       Mae cynnydd arfaethedig ar ei ardoll gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd sydd ar lefel na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae cynnydd arfaethedig o 13% yn ei Gyllideb yn arwain yn ei dro at bwysau costau mawr, mewn termau cymharol, ar gyllideb y Cyngor ei hun.

 

·       Mae’r gofynion ar gyllidebau sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn dal i gynyddu, ac mae hefyd angen cyfeirio mwy nag £1.7m o gyllid o fewn y Setliad Dros Dro (1.5% o’r cynnydd o 8.1%) i wasanaethau a gomisiynir yn allanol yng Ngheredigion er sicrhau bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn dal i gael eu talu ar y Cyflog Byw Real, o leiaf, (sydd wedi codi o £9.90 i £10.90 yr awr - cynnydd o 10.1%).

 

·       Ar waethaf heriau gweithredol ar adegau mewn rhai gwasanaethau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dal i ddarparu gwasanaeth o safon a gaiff ei gydnabod gan reoleiddwyr allanol. Mae Asesu Cymru yn asesu bod y Cyngor yn parhau yn sefydlog yn ariannol, er yn cydnabod bod heriau ariannol yn ei wynebu gan greu risg ariannol parhaus nad yw’n unigryw i Geredigion.

 

·       Mae lefel bresennol Band D Treth y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 25.

26.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 18 Ionawr 2023 ac unrhyw fater yn codi o’r cofnodion.

CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir Gofnodion y Cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2023. Nid oedd materion yn codi o’r cofnodion hynny.  

         

5   Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd sy’n gofyn am sylw brys y Pwyllgor

Ni chodwyd materion eraill.