Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu - Dydd Mercher, 23ain Tachwedd, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

Hefyd, ymddiheurodd Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi a Pherfformiad am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

 

 

6.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

 

Ni ddatgelwyd dim buddiannau personol na buddiannau a oedd yn rhagfarnu. 

Roedd y Cynghorydd Rhodri Evans yn dymuno nodi bod ei wraig yn cael ei chyflogi gan yr Awdurdod Lleol.

 

 

7.

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022 a Chynllun Llesiant Lleol Drafft Ceredigion ar gyfer 2023-28. pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          

3      Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022 a Chynllun Llesiant Lleol Drafft Ceredigion ar gyfer 2023-28.

    Daeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, i’r cyfarfod i gyflwyno’r eitem am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd Diana Davies a Naomi McDonagh, y Swyddogion perthnasol hefyd yn bresennol.

 

Esboniodd yr Arweinydd ei bod yn ofynnol, o dan Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu ar y penderfyniadau a wneir, neu gamau eraill a gymerir, gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal yr Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. Roedd adran 39 hefyd yn nodi bod yn rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus anfon copi o’i Gynllun Llesiant Lleol at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol.

 

Roedd y canllawiau statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)      2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal heb fod yn hwyrach na blwyddyn cyn iddo gyhoeddi ei Gynllun Llesiant Lleol. Roedd y canllawiau hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Cynllun Llesiant Lleol gael ei gyhoeddi heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl pob etholiad llywodraeth leol cyffredin. Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ei Asesiad o Lesiant Lleol ar 4 Mai 2022 ac fe’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin 2022. Bu’r Asesiad o Lesiant Lleol yn allweddol wrth lywio a sefydlu’r pedwar Amcan Llesiant Lleol y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 7 Mawrth 2022 ac a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin. Esboniodd yr Arweinydd mai’r amcanion hyn fyddai’r sail i Gynllun Llesiant Lleol nesaf Ceredigion a’i bod fel a ganlyn:

1.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau economi gynaliadwy sydd o fudd i bobl leol ac yn adeiladu ar gryfderau Ceredigion.

2.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i leihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau ac yn defnyddio atebion cymdeithasol a gwyrdd i wella iechyd corfforol a meddyliol.

3.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu mentrau datgarboneiddio yng Ngheredigion i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.

4.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i alluogi cymunedau i deimlo’n ddiogel ac yn gysylltiedig a byddwn yn hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol ac yn cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

 

           Cytunwyd hefyd y byddai amcan trawsbleidiol i fynd i’r afael â chaledi a thlodi yn cael ei ymgorffori yn y cynllun i adlewyrchu goblygiadau’r argyfwng costau byw yn awr ac yn y dyfodol. Cydnabuwyd y byddai gan hyn y potensial i gael effaith ar draws y pedwar piler lleslles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, a byddai gweithio gyda’n gilydd ar draws sefydliadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn helpu i gynnal ffocws ar y maes gwaith hwn.

 

Dywedwyd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod cynnwys y Cynllun Llesiant Lleol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Monitro'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3         Adroddiad monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22

Croesawyd y Cynghorydd Catrin MS Davies, Aelod Cabinet a Cathryn Morgan i gyflwyno adroddiad monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22.

 

             Roedd Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ystyried anghenion pob unigolyn yn ein gwaith bob dydd. Roedd y Ddeddf yn cynnwys Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Penodol i Gymru a oedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Cyngor bennu Amcanion Llesiant mewn Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ac roedd yn rhaid adolygu’r cynllun bob pedair blynedd.

 

             Rhoddir sylw i’r modd y caiff y Gymraeg ei hybu a’i defnyddio ym Mesur y Gymraeg 2011, yn hytrach na’r Ddeddf Cydraddoldeb. Fodd bynnag, roeddem yn ystyried gofynion y Gymraeg ochr yn ochr â nodweddion gwarchodedig y Ddeddf Cydraddoldeb er mwyn hyrwyddo dull cyfannol.

 

             Roedd cynllun gweithredu’n sicrhau bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 y Cyngor yn cael ei gyflawni, ac roedd wedi’i rannu i 5 Amcan Cydraddoldeb.

 

Dywedwyd mai hwn oedd yr ail adroddiad blynyddol ynghylch y cynnydd a wnaed o ran Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020- 2024. Roedd y system lliwiau BRAG yn dangos pa mor dda yr oedd y camau gweithredu’n perfformio neu’n cael eu cyflawni, o gymharu â’r llynedd. 

 

             Tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:

                Cyflwynwyd asesiad risg beichiogrwydd diwygiedig. Roedd yr asesiad risg bellach yn adlewyrchu’n well canllawiau presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch pobl feichiog yn y gweithle.

Roedd y tîm Cydlyniant Cymunedol rhanbarthol yn parhau i weithio gyda phartneriaid i annog pobl i godi ymwybyddiaeth am droseddau casineb ac i adrodd am unrhyw achosion. Cynhaliwyd digwyddiadau ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i fynd i’r afael â throseddau casineb, gan gynnwys Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, digwyddiadGolau Glas’ ar gyfer ffoaduriaid, Sesiynau Peilot Casineb Ar-lein a Hyfforddiant Small Steps ynghylch yr Asgell Dde.

                  Etholwyd Lloyd Warburton, disgybl yn Ysgol Penglais, fel yr Aelod newydd o Senedd Ieuenctid Cymru dros Geredigion ac roedd hefyd yn aelod gweithgar o Gyngor Ieuenctid Ceredigion.

Bu’r Gofrestr Tai Hygyrch a’r Polisi Tai Hygyrch ar waith ers mis Mehefin 2016. O ganlyniad, roedd nifer y bobl a ddefnyddiai’r gofrestr tai hygyrch ac a dderbyniai gynigion yn dilyn hynny yn parhau i gynyddu.

Roedd perfformiad disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol Ceredigion yn dda. Cafwyd cynnydd yn nifer y disgyblion a oedd wedi cael diagnosis o awtistiaeth ddifrifol yn y blynyddoedd cynnar, a’r disgyblion oedd ag anghenion cymhleth.

Roedd pandemig COVID-19 wedi cael effaith mawr ar y cynnydd yr oedd  dysgwyr sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn ei wneud, er ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i’r targedau: 9.5% o ddisgyblion wedi symud i fyny lefel (targed = 5%). 3.4% wedi gwneud cynnydd o 2 lefel neu fwy (targed = 1%). 77.7% o ddisgyblion sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar god C-E. O’r rhain roedd 56.9% yn gymwys (D) neu’n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 ac Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2022 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3           Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 ac Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2022

Croesawyd Arweinydd y Cyngor ynghyd â Geraint Edwards, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol i gyflwyno’r Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 a’r Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2022.

 

  Roedd yn ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, ynghyd â’r holl awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyhoeddi gwybodaeth am y gweithlu yn flynyddol.

 

           Roedd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 2011, a oedd yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi amrywiaeth o ddata am ein gweithlu o dan bob un o’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

 

            Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:

·       Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn ag annog mwy o fenywod i ymgeisio am rolau uwch swyddogion, dywedodd y Swyddog wrth yr Aelodau fod disgwyl y byddai’r Polisi Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith yn cael ei adolygu yn gynnar yn 2023 ac y byddai’n cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar yr adeg honno.

 

            Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i dderbyn yr Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 a’r Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2022.

 

10.

Adroddiad Hunanasesu 2021/22 pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd yr Arweinydd unwaith eto i gyflwyno Adroddiad Hunanasesu

             2021/22. Roedd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn disodli Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 gynt ac yn cyflwyno cyfundrefn berfformiad newydd ar gyfer Prif Gynghorau yn seiliedig ar Hunanasesu.

 

Bwriad y gyfundrefn berfformiad newydd oedd adeiladu a chefnogi diwylliant lle’r oedd cynghorau yn ceisio gwella a gwneud yn well yn barhaus ym mhopeth a wnânt, heb ystyried pa mor dda yr oeddent yn perfformio eisoes. Roedd y Ddeddf yn disgwyl y byddai’r cynghorau bob amser yn ymdrechu i gyflawni mwy a cheisio sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau lleol. Un ffordd o wneud hyn oedd herio’r sefyllfa bresennol yn barhaus a gofyn cwestiynau ynghylch sut yr oeddent yn gweithredu.

 

              Roedd y Ddeddf yn cyflwyno 5 dyletswydd benodol ar gyfer Cynghorau:

                 • Y ddyletswydd i adolygu perfformiad yn barhaus

• Y ddyletswydd i ymgynghori ar berfformiad

• Y ddyletswydd i adrodd ar berfformiad

• Y ddyletswydd i drefnu asesiad o berfformiad gan banel

• Y ddyletswydd i ymateb i adroddiad ar asesiad o berfformiad gan banel

               

 

Byddai’r hunanasesiad yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau ac roedd disgwyl i awdurdodau lleol arfer ymagwedd wahanol at asesu eu perfformiad i’r hyn ydoedd cynt. Byddai hyn yn gofyn am fwy o fyfyrio ar yr hunan.

 

             Ers mis Mai 2022 bu Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal rownd gyntaf y broses Hunanasesu ac roedd y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu wedi chwarae rhan ganolog ynddi:

Ar 15 Mehefin 2022 cyflwynwyd y broses Hunanasesu a ddatblygwyd i’w defnyddio yng Ngheredigion i’r Pwyllgor. (roedd dull y Cyngor yn defnyddio set o Brif Lwybrau Ymholi neu gwestiynau allweddol i helpu i ganolbwyntio ar ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau).

Ar 29 Gorffennaf 2022 cynhaliwyd gweithdy gyda’r Pwyllgor i gofnodi canfyddiadau Aelodau ar berfformiad y Cyngor a chyfleoedd i wella fel y gellid cyfrannu’r wybodaeth at y Matrics Hunanasesu. (tabl oedd y Matrics a oedd yn casglu ynghyd yr holl dystiolaeth, heriau’r dyfodol, y gweithredu arfaethedig a’r sgoriau).

Ar 10 Awst 2022 cynhaliwyd gweithdy arall gyda’r Pwyllgor i adolygu’r sgoriau drafft a’r Matrics Prif Lwybrau Ymholi.

 

Ers hynny, defnyddiwyd y dystiolaeth a gasglwyd i gynhyrchu Adroddiad Hunanasesu, a oedd i’w weld yn Atodiad 3. Hwn oedd allbwn allweddol y broses Hunanasesu ac roedd yn amlinellu’r modd yr oedd y Cyngor yn perfformio ar hyn o bryd a’r camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd wrth symud ymlaen.

 

              Roedd Adroddiad Hunanasesu 2021/22 yn cyflawni gofynion:

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – wrth osod ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol ac adolygu’r cynnydd a wnaed o ran yr amcanion hyn.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 – y ddyletswydd i adolygu perfformiad yn barhaus, i ymgynghori ar berfformiad, i adrodd ar berfformiad, i drefnu asesiad o berfformiad gan banel ac i ymateb i adroddiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog, fel y'i nodwyd yn Neddf y Lluoedd Arfog 2021 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd Paul Hinge, yr Aelod Eiriolwr dros y Lluoedd Arfog i gyflwyno’r adroddiad. Roedd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet, wedi ymddiheuro am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hinge wrth y Pwyllgor, yn sgil cymal 8 Deddf Lluoedd Arfog 2021, fod gofyniad newydd ar rai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, i roi sylw dyladwy i egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog. Ychwanegodd y byddai angen i’r Cyngor gydymffurfio â’r gyfraith newydd a ddaeth i rym ar 22 Tachwedd 2022. Y swyddogaethau a oedd yn berthnasol i’r cyngor o ran y ddeddf hon oedd tai, addysg a’r gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.

 

               Roedd Deddf y Lluoedd Arfog 2021 yn ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog yn gyfraith ac roedd hyn yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i sicrhau nad oedd aelodau’r lluoedd arfog, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd dan anfantais pan fyddent yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Derbyniodd Deddf y Lluoedd Arfog 2021 Gydsyniad Brenhinol ar 15 Rhagfyr 2021.

 

Cyflwynwyd y Canllawiau Statudol drafft ynghylch Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2022.

 

               Cafodd y Pwyllgor wybod am y sefyllfa bresennol. Wrth gyflawni ei ymrwymiadau presennol, roedd y Cyngor yn rhoi sylw dyladwy i ofynion Cymuned y Lluoedd Arfog, ac roedd wedi ceisio adeiladu'n gadarnhaol ar ei ymrwymiad ers gwneud ei addewid cychwynnol. Roedd hyn wedi arwain at wneud gwelliannau uniongyrchol i bolisïau'r Cyngor fel rhan o'i ymrwymiad i'r Cyfamod. Roedd hyn i’w weld yn glir yn y polisi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a oedd yn cefnogi opsiynau gweithio hyblyg. Roedd y polisi hwn hefyd yn cydnabod yr angen clir i aelodau’r lluoedd arfog a milwyr wrth gefn gael cyfnodau awdurdodedig ychwanegol o absenoldeb i gefnogi eu hymrwymiadau ychwanegol. Rhoddodd y Cynghorydd Hinge ddwy enghraifft ardderchog o sefyllfaoedd lle’r oedd yr Awdurdod wedi cefnogi milwyr wrth gefn a’u teuluoedd yn ddiweddar.

 

Hefyd, trwy ddarparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth, roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi arwain y gwaith o sefydlu Fforwm Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion a oedd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i godi proffil Cymuned y Lluoedd Arfog yn barhaus. Trwy ymyriadau uniongyrchol a gweithio mewn partneriaeth, roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau ei ymrwymiad i Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ac roedd y gwaith cadarnhaol hwn wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Arian ac Efydd.

Yn ogystal â'r uchod, roedd trefniadau ar y gweill i hyrwyddo hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ychwanegol drwy gyrsiau ar-lein a fyddai’n paratoi’r gwasanaethau ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Byddai hyn yn cael ei hyrwyddo drwy’r Tîm Dysgu a Datblygu. Byddai adolygu polisïau Addysg a Thai y Cyngor hefyd yn cael ei ystyried er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Byddai’r Canllawiau Statudol yn cael eu hystyried ynghyd ag enghreifftiau o gyngor ac arferion da. Byddai’r Cyngor yn defnyddio’r rhain i wella'r ddarpariaeth ymhellach ac i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

 

              CAMAU ARFAETHEDIG

  Yn ogystal â'r gwaith yr oedd y Cyngor eisoes yn ei wneud, cynigiwyd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

Adroddiad ar yr adolygiad o Bolisi RIPA ac Arolygiad IPCO (Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio) pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Elin Prysor, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol a’r Swyddog Monitro adroddiad ynghylch yr adolygiad o Bolisi RIPA ac Arolygiad Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO).

 

     Nodwyd bod y Pwyllgor wedi derbyn yr adroddiad blaenorol ar

     26 Medi 2022.

 

               Tynnwyd sylw at y ffaith bod Paragraff 4.47 Cod Ymarfer diwygiedig y Swyddfa Gartref ar Wyliadwriaeth Gudd ac Ymyrryd ag Eiddo (2018) yn nodi y dylai aelodau etholedig awdurdod lleol adolygu defnydd yr awdurdod o RIPA a phennu’r polisi unwaith y flwyddyn. Adroddwyd ar Weithgarwch RIPA yn yr adroddiad blaenorol i’r pwyllgor hwn ar 26 Medi 2022. Cafodd diwygiadau i Bolisi RIPA eu cyflwyno’n fwyaf diweddar i’r pwyllgor hwn ar 15 Medi 2022.

     

Yn y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022, adroddwyd bod cyfarfodydd wedi’u cynnal gyda’r IPCO yn rhan o’i arolygiad. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, roedd y Cyngor wedi derbyn llythyr oddi wrth yr IPCO yn crynhoi prif ganfyddiadau’r arolygiad ac roedd y llythyr hwnnw ynghlwm wrth bapurau’r agenda. Mewn ymateb i’r trafodaethau a gafodd eu cynnal yn ystod yr arolygiad ynghylch amlder dim gweithgarwch o ran gwyliadwriaeth ar-lein, crëwyd templed e-bost newydd a fyddai’n cael ei ddefnyddio wrth wneud cais i Swyddogion Dynodedig am adroddiadau chwarterol ar weithgarwch gwyliadwriaeth ar-lein. Bwriad y templed diwygiedig hwn oedd rhoi mwy o eglurder o ran y wybodaeth y gofynnir amdani. Roedd y templed hwn hefyd ynghlwm wrth bapurau’r agenda. Dywedwyd hefyd fod yr IPCO wedi cyhoeddi eu cylchlythyr chwarterol ar gyfer Hydref 2022 a’i fod ar gael i’w weld ar eu gwefan.

 

      Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor:

1)    Nodi cynnwys y copi drafft diwygiedig o Bolisi Corfforaethol RIPA a’r Ddogfen Weithdrefnau,

               2) Nodi cynnwys Adroddiad Arolygiad IPCO,

3) Nodi cynnwys ymateb yr Uwch-swyddog Cyfrifol i Adroddiad Arolygiad  IPCO,

               4) Nodi cynnwys y Cais E-bost wedi’i ddiweddaru am Weithgarwch RIPA,

                   a,

               5) Nodi cynnwys Cylchlythyr Chwarterol IPCO ar gyfer Hydref 2022.

                 

               Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi a derbyn argymhellion 1-5 

a restrir uchod er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf o ran y diwygiadau i Bolisi RIPA a chanlyniad Arolygiad RIPA ar y Cyngor a gynhaliwyd gan IPCO yn ddiweddar.

 

 

13.

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2022-23 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Alun Williams, yr Aelod Cabinet, yn bresennol i gyflwyno

Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2022-23.

 

Yn ystod trafodaethau, amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:

·       Yn Chwarter 1, roedd gostyngiad yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd o'i gymharu â Chwarter 4 gyda 943 o gysylltiadau/adroddiadau wedi'u derbyn yn Chwarter 1 a 1010 wedi'u derbyn yn Chwarter 4.

·       Fodd bynnag, roedd cynnydd yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a aeth ymlaen i angen cymryd camau o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant, 221 yn Chwarter 1 o'i gymharu â 154 yn Chwarter 4.

·       Canran yr adroddiadau a aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 23.4% o'i gymharu â 21.8% yn Chwarter 4. Aeth 11.5% o'r rhain ymlaen i ymholiad Adran 47 o'i gymharu â 6.49% yn Chwarter 4, ac aeth 1.4% ymlaen i Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant o'i gymharu â 0.99% yn Chwarter 4.

·       Cyfanswm y plant a roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn Cynhadledd oedd 12, o'i gymharu â 21 yn y chwarter blaenorol.

·       Cyfanswm y plant a dynnwyd oddi ar y gofrestr oedd 14 o'i gymharu â 12 yn y chwarter blaenorol.

·       Cyfanswm yr ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 109, cafodd 92 eu cynnal ar y cyd â'r Heddlu, a chafodd 17 eu cynnal fel Asiantaeth Sengl Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn Chwarter 4 nifer yr ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd oedd 65, cafodd 64 eu cynnal ar y cyd â'r Heddlu.

·       Y prif gategori o gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 1 oedd cam-drin corfforol (47) ac yna cam-drin/camfanteisio'n rhywiol(44), o'i gymharu â Chwarter 4 lle mai cam-drin corfforol (22) oedd yr ail brif gategori, a cham-drin/camfanteisio'n rhywiol (29) oedd y prif gategori o gam-drin.

·       Y prif ffactorau risg ar gyfer y 40 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 30/06/22 oedd cam-drin domestig (38), iechyd meddwl rhieni (28), troseddau treisgar oedolion (28), troseddau treisgar

gan oedolion (27), rhieni yn camddefnyddio sylweddau/camddefnyddio alcohol (27), a diffyg cydweithrediad rhieni â'r Cynllun Amddiffyn Plant (17).

·       O ran Diogelu Oedolion, bu gostyngiad yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin a/neu eu hesgeuluso, gyda 120 yn Chwarter 4 a 107 yn Chwarter 1, a'r adroddiadau gwirioneddol a dderbyniwyd oedd 120 yn Chwarter 1 ac 154 yn Chwarter 4.

·       Y categori o gam-drin yr adroddwyd amdano fwyaf yn ystod y chwarter hwn oedd cam-drin emosiynol/seicolegol, gyda 58 o adroddiadau yn datgan mai hwn oedd y prif gategori o gam-drin. Y categori hwn o gam-drin oedd y prif gategori o gam-drin a adroddwyd yn Chwarter 4 hefyd lle

         cafwyd 61 o adroddiadau. Esgeulustod oedd yr ail brif gategori o                    gam-drin a adroddwyd (46), yna cam-drin ariannol (34) a cham-drin corfforol. Roedd 9 adroddiad o gam-drin rhywiol.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr adroddiad a'r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol fel bod trefniadau llywodraethu’r Awdurdod Lleol a’r asiantaethau sy’n bartneriaid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod Blaenorol ac unrhyw faterion sy’n codi o’r Cofnodion hynny pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

3      Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydlynu a gynhaliwyd ar  27 Hydref 2022 yn gywir ac nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion hynny.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod ac am eu hamynedd. Ymddiheurodd am y problemau technegol a gafwyd yn ystod y cyfarfod. Gofynnodd y Cadeirydd i Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor gyfeirio pryderon y Pwyllgor at y person/pobl briodol gan fod problemau technegol wedi amharu ar y cyfarfod 14 o weithiau yn ystod y bore.

 

15.

Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ystyried y Blaenraglenni Gwaith drafft pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd pob Cadeirydd ddiweddariad yn eu tro am flaenraglenni gwaith eu Pwyllgorau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Keith Evans, y Cadeirydd, am gynnwys diweddariad ynglŷn â’r System Hybrid ar agenda cyfarfod y Pwyllgor a fyddai’n cael ei gynnal ar 18 Ionawr 2023. Cadarnhawyd hefyd y byddai adroddiad am Gylch Caron yn cael ei gyflwyno yn yr un cyfarfod.

 

 

                 Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor am ddod i’r cyfarfod a daeth y  cyfarfod i ben am 12:34pm. Hefyd, dymunodd yn dda i bawb dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

.