Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Ymddiheurodd
y Cynghorwyr Endaf Edwards a Ceris Jones am na fedrent fod yn bresennol yn
y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim buddiannau personol na buddiannau a oedd yn rhagfarnu. |
|
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 4 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth Sian Howys a’r Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet) i’r cyfarfod i gyflwyno
Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd
CYSUR / CWMPAS i Aelodau’r Pwyllgor. Gwnaed hyn i sicrhau
bod yr aelodau'n monitro’r cynnydd a wnaed yng nghyfarfodydd
rheoli chwarterol Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd
CYSUR/CWMPAS. Adroddiadau rheoli
amlasiantaethol oedd y rhain ynghylch diogelu plant ac oedolion yng Ngheredigion
yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2022. Roeddent
yn darparu gwybodaeth ynghylch y camau a gymerwyd o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru. Amlinellodd
Sian y prif bwyntiau a oedd wedi’u
nodi yn y blaen adroddiad. Cododd un o’r Aelodau bryderon
bod yr atgyfeiriadau Amddiffyn Plant yn ardal Aberystwyth wedi dyblu yn ystod
y chwarter dan sylw. Wrth ymateb i’r
pryder, esboniwyd bod atgyfeiriadau diogelu, o bryd i’w gilydd,
yn medru cael eu gwneud
mewn grŵp, h.y. mwy nag un unigolyn mewn un teulu neu mewn grŵp cyfoedion. Gallai fod hefyd ffactorau
tymhorol. Nododd Aelod arall fod
12 o unigolion wedi’u tynnu oddi ar
y gofrestr Amddiffyn Plant gan ofyn a
oeddent yn cael eu tynnu
oddi ar y gofrestr yn awtomatig
pan fyddent yn cyrraedd oed penodol.
Cadarnhaodd y Swyddog y byddai hyn yn
digwydd pan fyddai’r unigolyn yn troi’n
18 oed. Codwyd pryder hefyd
fod y data yn dangos nad oedd
pob cynhadledd adolygu amddiffyn plant yn cael ei
chynnal o fewn y terfynau amser angenrheidiol. Esboniodd y Swyddog fod swyddi
gwag yn golygu
bod y gweithlu o dan bwysau
mawr a bod y gweithwyr
felly yn blaenoriaethu tasgau. Gofynnodd un o’r Aelodau a oedd
adolygiadau wyneb yn wyneb yn
cael eu cynnal
bellach ym Mhenmorfa a Chanolfan Rheidol fel yr oeddent
cyn cyfnod y Covid. Cadarnhawyd nad oedd y swyddfeydd hyn wedi ailagor
i’r cyhoedd ond byddai lleoliadau
priodol eraill yn cael eu
defnyddio at y diben hwn pan fyddai angen. Cadarnhawyd hefyd fod y defnydd
a wneir o’r swyddfeydd yn cael
ei adolygu’n gorfforaethol. Cyfeiriwyd at hunan-niweidio ymhlith plant a chadarnhaodd y Swyddog mai tîm Gwasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd
yn darparu’r data yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cadeirydd fod gan Aelodau
Pwyllgorau Craffu yr hawl i
wahodd unrhyw sefydliadau allanol i’r cyfarfodydd er mwyn iddynt gael
eu holi. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach, y Cynghorydd Caryl
Roberts, y dylid gwahodd cynrychiolydd o dîm CAMHS i un o gyfarfodydd y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i’r Aelodau nodi cynnwys yr adroddiad
a gweithgarwch
yr Awdurdod Lleol. Cytunodd yr Aelodau i
nodi’r cynnwys fel bod trefniadau llywodraethu gweithgarwch yr Awdurdod Lleol
ac asiantaethau sy’n bartneriaid yn cael eu monitro. Diolchodd
y Cadeirydd i Sian Howys am
ddod i’r cyfarfod ac am gyflwyno’r adroddiad a diolchodd hefyd am y Crynodeb Gweithredol a oedd wedi’i baratoi.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
Naomi McDonagh, Diana Davies ac Alun Williams ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Bryan Davies (Aelod Cabinet) i’r cyfarfod i gyflwyno cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022 ac Adroddiad Blynyddol
Llesiant Lleol Ceredigion. O dan Adran 35 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015, roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r pŵer i graffu ar benderfyniadau a wnaed,
neu gamau eraill a gymerwyd, gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal
yr Awdurdod Lleol wrth arfer ei swyddogaethau. Roedd yn ofyniad statudol yn
Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 bod Pwyllgorau Trosolwg a
Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol yn craffu ar adroddiadau
blynyddol. Yn wahanol i’r asesiadau llesiant a’r cynlluniau llesiant, nid oedd
yn rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus aros ar gyfer argymhellion y panel
craffu i gymeradwyo adroddiadau blynyddol ond, roedd y Bwrdd yn cael ei annog i
ddefnyddio argymhellion Craffu wrth ddatblygu rhaglenni gwaith a chyflwyno
adroddiadau yn y dyfodol. Yn ystod y drafodaeth, pwysleisiwyd mor
bwysig oedd cynnwys yr Aelodau Lleol yn unrhyw drafodaeth / ymgynghoriad a oedd
yn ymwneud â’u wardiau gan fod eu mewnbwn yn werthfawr. Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i’r Aelodau
dderbyn cofnodion drafft cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd
ar 12 Gorffennaf 2022 yn ogystal â derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol
Cynllun Llesiant Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion 2021-2022. Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion ynghyd ag Arweinydd y Cyngor am ddod i’r cyfarfod ac am gyflwyno’r adroddiad. |
|
Adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Elin Prysor adroddiad
ynghylch defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) gan mai Aelodau’r Pwyllgor
Cydlynu oedd yn gyfrifol am adolygu defnydd y Cyngor o RIPA. Fel arfer, byddai adroddiadau
i’r Pwyllgor yn cael eu
cyflwyno bob 6 mis; fodd bynnag, cyflwynwyd yr adroddiad hwn
12 mis ar ôl yr un blaenorol oherwydd diffyg gweithgarwch RIPA. Adroddwyd na fu gweithgarwch RIPA gan unrhyw un o wasanaethau’r Cyngor rhwng 13 Awst 2021 a 4 Gorffennaf 2022. Cadarnhaodd y Swyddogion Awdurdodi nad oeddent
wedi ystyried unrhyw geisiadau RIPA yn ystod y cyfnod
hwn. Ar 28 Chwefror 2022,
cyflwynodd darparwr allanol weithdy hyfforddiant hanner diwrnod ynglŷn â RIPA i’r swyddogion perthnasol. Dywedwyd y byddai Adroddiad Swyddfa’r
Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO) yn cael ei gyflwyno
yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i
nodi cynnwys yr adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i Elin Prysor am ddod i’r cyfarfod ac am gyflwyno’r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2021/2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Lisa Evans fod yr Adroddiad Blynyddol
Trosolwg a Chraffu yn amlinellu’r prif faterion a
ystyriwyd gan y pum Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu yn ystod 2021/2022. Roedd dyletswydd statudol ar Awdurdodau
Lleol i gyhoeddi
adroddiad blynyddol ynglŷn â gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Byddai’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei
gyhoeddi ar y dudalen Trosolwg a Chraffu ar wefan
y Cyngor. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i
nodi’r wybodaeth a oedd wedi’i
chynnwys yn yr adroddiad cyn
y byddai’n cael ei gyflwyno i’r
Cyngor ar 20 Hydref
2022. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd pob Cadeirydd ddiweddariad am waith eu Pwyllgorau
Trosolwg a Chraffu. Yn dilyn trafodaeth,
cytunwyd i gynnwys yr eitemau
canlynol ar y Blaenraglenni Gwaith: Y Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Ffyniannus – Peiriannau Talu ac Arddangos ym Meysydd Parcio’r
Cyngor. Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol – gofyn am adroddiad diweddaru ynglŷn â Threth y Cyngor ar Ail Gartrefi
yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19 Rhagfyr 2022; Y Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Iachach – gwahodd cynrychiolydd o Dîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Plant a’r Glasoed (CAMHS) y Bwrdd
Iechyd i un o gyfarfodydd y
dyfodol i roi diweddariad am y gwasanaeth; a gofyn am ddiweddariad ynglŷn â phroblemau recriwtio o ran timau Porth Cynnal, Porth Gofal a Phorth Cymorth Cynnar. |
|
Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydlynu a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022 yn gywir ac nid
oedd dim materion yn codi o’r
cofnodion hynny. Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor
am fod yn bresennol a daeth y cyfarfod i ben am 11:47am. |