Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elaine
Evans, Dan Potter a Mark Strong am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y
cyfarfod. Ymddiheurodd Lowri Edwards, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd am nad oedd modd iddi fod yn
bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim Buddiannau Personol/ Buddiannau sy’n Rhagfarnu. |
|
Cyllideb ddrafft 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Rowland
Rees-Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, fraslun o weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd
i’r cyfarfod Arweinydd y Cyngor - y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ynghyd â’r
Aelodau o’r Cabinet a Swyddogion. Bu i
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn gyflwyno’r adroddiad am gyllideb
ddrafft 2022/23 a’r rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan esbonio mai setliad
dros dro yw hwn a bod disgwyl y setliad terfynol ar 1 Mawrth, 2022. Cyfanswm y setliad refeniw, a elwir yn Gyllid Allanol
Cyfun, a ddyrannwyd i Geredigion ar gyfer 2022/23 yw £119.419m, o gymharu â £110.006m yn 2021/22 (wedi'i addasu ar gyfer
trosglwyddiadau) sef cynnydd o 8.6%. Mae
Cymru gyfan wedi gweld cynnydd o 9.4% ar gyfartaledd ac mae Ceredigion yn safle 19 o blith yr awdurdodau
lleol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod i Aelodau’r
Pwyllgor fod £50 miliwn o
arbedion wedi’u gwneud ers iddi gael ei phenodi yn 2012. Mae Setliad Ceredigion yn
adlewyrchu ystod o symudiadau ailddosbarthu llai ffafriol yn ariannol a
welir yn y boblogaeth a dangosyddion niferoedd disgyblion Ysgolion Uwchradd. Mae Asesiadau o
Wariant Safonol yn gyfrifiadau tybiannol o’r swm y mae angen i bob
Cyngor ei wario er mwyn darparu lefel safonol o wasanaeth. Yr Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer 2022/23 yw £166.372m,
sef cynnydd o 7.2% o’r flwyddyn flaenorol
(2021/22 - £155.153m). Y cynnydd mwyaf sylweddol o ran gwasanaeth oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol, sef 12.2%. Mae model y Gyllideb wedi’i
ddrafftio i gynnwys yr addasiadau o ran y setliad dros dro. Bydd
angen ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen ac sy’n codi yn y setliad
terfynol a'u hymgorffori'n briodol yn y gyllideb. Mae'r gwaith
asesu manwl, a wnaed i nodi’r pwysau costau anochel sy'n
wynebu'r Gwasanaethau, wedi'i gwblhau ac mae hwn wedi nodi cyfanswm net o
£13.1m a grynhowyd yn Atodiad 1 o bapurau’r agenda. Mae'r swm
yma bron yn ddwbl y blynyddoedd cynt ac yn £3.8m yn fwy na'r swm uwch sydd ar
gael yn y setliad. Byddai hyn gyfystyr â’r angen i gynyddu Treth y Cyngor
gan bron i 8%, fodd bynnag
mae rhai arbedion ar gael i broses pennu’r gyllideb. Daw costau cynyddol Gofal yn unig i £7m,
gan gynnwys: ·
Cyflog Byw Gwirioneddol £9.90 y DU ac Yswiriant Gwladol
Cyflogwyr 1.25% – yn effeithio ar y rhan fwyaf os nad y cyfan o’r Gwasanaethau
a Gomisiynir yn ymwneud â Gofal (yn arwain at ffactorau chwyddiant dros dro o
8.87% ar gyfer Gofal Cartref / Byw â Chymorth, 9.13% ar gyfer Gofal Preswyl ac
11.15% ar gyfer Taliadau Uniongyrchol); ·
Cartrefi Preswyl – adolygiad pennu ffioedd yn mynd
rhagddo ar hyn o bryd; ·
Taliadau Uniongyrchol; ·
Plant sy'n derbyn gofal; ·
Gofal Cartref. Dywedodd yr Arweinydd fod darparu ar
gyfer chwyddiant mewn cyflogau hefyd yn ffactor arwyddocaol a
amcangyfrifir yn £3.4m, ac fel y mae pethau nid oes cytundeb ffurfiol eto ar
brif ddyfarniad cyflog 2021/22. Ar ôl cymryd i ystyriaeth y cyllid posibl sydd
ar gael, gellir cyflawni cyllideb wedi’i mantoli. Mabwysiadwyd
ffordd gorfforaethol o ymdrin â cholledion a chostau net Covid-19, yn hytrach ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 50. |
|
CONTEST - Strategaeth Gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor na fyddai’r adroddiad hwn yn cael ei ystyried a hynny am nad oedd Swyddogion ar gael. Cytunwyd y byddai’r pwnc yn cael sylw yn ystod tymor nesaf y cyngor. |
|
Adroddiad ar gofnod penderfyniadau'r Gr?p Rheoli Aur Covid-19 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Elin Prysor yn bresennol
i gyflwyno adroddiad ar gofnod penderfyniadau Grŵp Rheoli Aur
Covid-19. Cyflwynwyd yr adroddiadau
blaenorol ar 20 Ionawr 2021, 16 Mehefin 2021 a 1 Rhagfyr 2021. Roedd y Cofnod o
benderfyniadau a wnaed rhwng 1 Medi 2021 a 31 Rhagfyr 2021 wedi'u cynnwys yn yr
adroddiad hwn ac roeddent wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Ar ôl trafod, cytunodd yr
Aelodau i nodi cynnwys cofnod penderfyniadau cyfarfodydd y Grŵp Rheoli
Aur Covid-19 a hynny i fonitro’r gwaith o lywodraethu trefniadau’r Cyngor
parthed gwneud penderfyniadau. Diolchodd y
Cadeirydd i Elin Prysor am yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Cadarnhawyd bod
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydlynu a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2021 yn gywir
ac nad oedd dim materion yn codi o’r cofnodion hynny. Rhoddodd y Cynghorydd
Rowland Rees-Evans wybod i’r Aelodau mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor
Cydlynu am y tymor hwn o’r cyngor. Cymerodd y cyfle i ddiolch i Aelodau’r
Pwyllgor am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra bu’n
Gadeirydd. Diolchodd i Arweinydd y
Cyngor ac Aelodau’r Cabinet. Hefyd estynnodd ei ddiolch i Lisa Evans, Swyddog
Craffu a Safonau, ac i Dwynwen Jones, Swyddog Trosolwg a Chraffu, am eu
cefnogaeth yn y cyfnod hwnnw. Hefyd estynnodd ei ddiolch i’r Swyddog Monitro,
Elin Prysor, i’r Cyfieithwyr Carwyn Williams a Rhidian Jones ac i’r holl
Swyddogion am sicrhau fod y cyfarfodydd yn rhedeg yn esmwyth yn y cyfnod hwnnw.
|