Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem | |||
---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd
y Cynghorydd Wyn Thomas a’r Cynghorydd Elizabeth Evans (sylwedydd i’r Pwyllgor
yn rhinwedd ei rôl fel
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio) am
na fedrent
ddod i’r cyfarfod. |
||||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim buddiannau personol na buddiannau a oedd yn rhagfarnu. |
||||
Cofnodion:
|
||||
Adroddiad ar Gofnod o Benderfyniadau'r Grwp Rheoli Aur Covid-19 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth Elin Prysor i’r cyfarfod
i gyflwyno adroddiad am Gofnod Penderfyniadau’r Grŵp Rheoli Aur Covid-19. Cyflwynwyd yr adroddiadau
blaenorol ar 20 Ionawr 2021 a 16 Mehefin
2021. Cafodd y Cofnod Penderfyniadau ar gyfer y penderfyniadau a wnaed rhwng 4 Mai 2021 a 31 Awst 2021 ei gynnwys
yn yr adroddiad
hwn ac roedd wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Yn ystod y drafodaeth,
gofynnodd un o’r Aelodau paham
fod y wybodaeth dim ond yn ymwneud
â’r cyfnod hyd at fis Awst
2021. Cadarnhaodd y Swyddog
fod y cofnod i’w weld yn gyhoeddus
ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag,
cytunodd y Swyddog y dylai gael
ei ddiweddaru’n gyson a dywedodd y byddai’n sicrhau bod diweddariad misol yn cael ei
ddangos yn y dyfodol. Yn dilyn cwestiwn
am bwerau dirprwyedig dros dro, cadarnhawyd
bod y pwerau hynny wedi dod
i ben ar 31 Awst 2021. Serch hynny, roedd y Grŵp Rheoli Aur yn parhau
i gwrdd o dan Ddeddf Argyfyngau
Sifil 2004. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau
i nodi cynnwys
Cofnod Penderfyniadau cyfarfodydd Grŵp Rheoli Aur Covid-19 y Grŵp Arweiniol er mwyn monitro’r
modd yr oedd
trefniadau gwneud penderfyniadau’r Cyngor yn cael ei
lywodraethu ar ôl i’r trefniadau
hynny gael
eu haddasu. Diolchodd y Cadeirydd i Elin Prysor am yr adroddiad.
|
||||
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth Elizabeth Upcott i’r cyfarfod
i gyflwyno Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd
CYSUR/CWMPAS ar gyfer Chwarter 1 2021/22, 2021/2022. Bu iddi
amlinellu crynodeb o’r prif bwyntiau
fel a ganlyn: ·
Roedd tipyn o gynnydd yn nifer
yr adroddiadau diogelu plant o'i gymharu â'r chwarter
blaenorol a arweiniodd at Drafodaethau Strategaeth/Cyfarfodydd Strategaeth Amddiffyn Plant, 99 o adroddiadau
yn Chwarter 4 o'i gymharu â 116 yn Chwarter 1. Mae hwn yn gynnydd
sylweddol o'r un chwarter y flwyddyn
flaenorol pan gafwyd 85 o adroddiadau a aeth ymlaen i drafodaeth
strategaeth/cyfarfod strategaeth. Gyda'r cyfyngiadau'n cael eu llacio a'r
ysgolion yn ailagor cafwyd twf yn nifer
yr adroddiadau a dderbyniwyd ar ôl i lefelau
adrodd leihau yn ystod y cyfnod
clo. ·
Cynhaliwyd 18 o Gynadleddau
Cychwynnol Amddiffyn Plant yn ystod y chwarter
hwn o'i gymharu
â 9 yn y chwarter blaenorol, sef Chwarter 4. ·
Cyfanswm y plant a gafodd
eu rhoi ar
y Gofrestr Amddiffyn Plant yn dilyn Cynadleddau
Cychwynnol oedd 18 yn y chwarter hwn,
o'i gymharu â 7 yn ystod y chwarter
blaenorol. ·
Unwaith eto
yr heddlu oedd y brif asiantaeth
atgyfeirio yn y chwarter hwn wedi'i
ddilyn gan staff Addysg ac yna staff y
Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn
yn dilyn yr un patrwm
â Chwarter 4. ·
Y
pryderon mwyaf a arweiniodd at gwblhau ymholiadau amddiffyn plant oedd honiadau o gam-drin/camfanteisio'n rhywiol (25) a cham-drin corfforol (24). Yn Chwarter 4 y prif gategorïau o gam-drin a gafodd eu
hadrodd oedd cam-drin corfforol (17) a cham-drin rhywiol (16). ·
Roedd y cynadleddau cychwynnol amddiffyn plant a gynhaliwyd yn ystod
y chwarter hwn wedi dyblu o'r
chwarter blaenorol. Cynhaliwyd 94.4% o'r cynadleddau cychwynnol o fewn yr amserlenni. ·
Cynhaliwyd cyfanswm o 12
o Gynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn ystod y chwarter hwn. Roedd y rhain
ar gyfer cyfanswm o 24 o blant o 12 teulu. O ganlyniad i'r cynadleddau adolygu roedd 7 plentyn wedi parhau
ar y gofrestr a chafodd 17 o blant eu dileu o'r
Gofrestr Amddiffyn Plant. O'r nifer y plant a gafodd eu dileu
o'r gofrestr, roedd 16 o blant yn parhau i
fod yn destun
Cynllun Plentyn sydd Angen Gofal
a Chymorth. ·
Mewn 95% o'r cynadleddau a gynhaliwyd roedd o leiaf un aelod o'r teulu
sydd â Chyfrifoldeb Rhieni yn bresennol
yn y gynhadledd, ac mewn 90% o'r cynadleddau
a gynhaliwyd cafodd barn y plentyn ei chynrychioli. ·
Y
prif ffactorau risg i blant
a gafodd eu cofnodi o'r cynadleddau
oedd cam-drin domestig, rhieni ddim yn cydweithredu
â Chynllun Amddiffyn Plant,
rhieni'n gwahanu, ac anawsterau iechyd meddwl rhieni. ·
Roedd nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn gyson â'r
chwarter blaenorol. Fodd bynnag, cafodd
17 o blant eu datgofrestru a chafodd 18 o blant eraill eu
cofrestru yn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant. Yn dilyn cwestiwn ynglŷn â chapasiti’r staff, cadarnhawyd bod yna swyddi gwag oedd angen eu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 41. |
||||
Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Lisa Evans Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/2021. Cytunodd yr Aelodau i nodi’r cynnwys cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ar 9 Rhagfyr 2021. |
||||
Hunanwerthuso'r trefniadau craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Lisa Evans adroddiad ynghylch hunanwerthuso’r trefniadau craffu. Yng nghyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd
ar 23 Chwefror 2018, cytunwyd y byddai’r Swyddogion Craffu yn cynnal adolygiad
o effeithiolrwydd y trefniadau
Trosolwg a Chraffu yng Nghyngor Sir Ceredigion ac y byddai hyn yn
cael ei wneud
bob blwyddyn yn y dyfodol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2020, penderfynwyd gwneud y canlynol: 1.
Parhau i gynnal yr
arolwg yn flynyddol; 2.
Lleihau nifer y cwestiynau gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad; 3.
Adolygu fformat yr adroddiad,
cyfuno'r ymatebion Cymraeg a Saesneg, a chyfieithu'r ddogfen yn ei chyfanrwydd. Cafwyd cyfanswm o 15 o ymatebion. Roedd hyn yn
ostyngiad o’i gymharu â’r 25 o ymatebion a dderbyniwyd yn 2020. Roedd rhai aelodau wedi
ymateb ar-lein
a rhai wedi ymateb drwy’r post. Ni ddatgelwyd enwau’r Aelodau. Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried yr ymatebion a ddaeth i law o’r
holiadur ynghylch hunanwerthuso’r trefniadau craffu a nodi unrhyw
feysydd i’w gwella. Yn dilyn trafodaeth,
cytunwyd i nodi’r ymatebion a ddaeth i law. |
||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cathryn Morgan gofnodion
cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd
ar 17 Medi
2021. Cyflwynodd Rob Starr a Caitlin Theodorou
yr Asesiad Drafft o Lesiant Lleol. Dywedodd Rob Starr wrth Aelodau’r Pwyllgor fod yr Asesiad
drafft o Lesiant Lleol wedi’i baratoi
er mwyn cyfrannu
at y gwaith o baratoi Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28. Byddai’r
Cynllun yn nodi sut y byddai’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
yn gwella llesiant Ceredigion a’i chymunedau dros y 5 mlynedd nesaf gan
amlinellu’r hyn sy’n bwysig i’r
bobl a’r cymunedau yng Ngheredigion.
Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r asesiad drafft fel y gellid
ymgynghori yn ei gylch ac roedd
y Bwrdd ar y trywydd iawn i
gyhoeddi’r Asesiad terfynol ym mis
Mawrth 2022. Ar ôl hynny,
amlinellodd Rob Starr a Caitlin Theodorou
y prif themâu a chanfyddiadau hyd yma a oedd
fel a ganlyn: ·
Digideiddio – adroddwyd bod hon yn flaenoriaeth uchel, yn fwy felly gan
fod mwy o bobl bellach yn
gweithio o gartref ac o
bell; ·
Fforddiadwyedd tai – adroddwyd bod hyn yn flaenoriaeth uchel, yn fwy
felly gan fod prisiau tai wedi cynyddu yn ystod
y pandemig; ·
Tlodi (tlodi mewn gwaith a thlodi
plant) – Ceredigion welodd yr
ail gynnydd uchaf mewn tlodi plant yng Nghymru ac felly roedd angen monitro
hyn yn ofalus; ·
Newid yn y boblogaeth – bu gostyngiad yn nifer
y bobl sydd yn yr oedran
gweithio a chynnydd yn nifer y bobl
hŷn. Gallai hyn arwain at fwy
o anghenion cymhleth a phwysau ar ein
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; ·
Yr Amgylchedd – roedd newid hinsawdd
a diogelu’r amgylchedd yn bwysig, yn
enwedig i blant; ·
Anghenion iechyd y dyfodol – Nodwyd y byddai cael gwasanaethau
hamdden o ansawdd gwell a sicrhau gwell mynediad iddynt yn cynorthwyo
lles ac iechyd meddwl yr unigolyn; ·
Rôl diwylliant – nodwyd bod hyn yn bwysig er
y cafwyd gostyngiad yn nifer y bobl
sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau
celfyddydol a threftadaethol ychydig cyn pandemig COVID-19. Serch hynny, roedd
canlyniadau’r ymgysylltu yn dangos tystiolaeth
bod unigolion yn gwerthfawrogi’n fawr rôl
diwylliant yn eu bywydau; ·
Y
Gymraeg – roedd y dystiolaeth yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn
parhau i gynyddu. Aeth Caitlin Theodorou yn ei
blaen i esbonio
camau nesaf y broses hon: ·
Cyfnod ymgynghori –
8 wythnos (disgwyl iddo ddechrau’n fuan iawn); ·
Ymgynghoriad i
barhau tan Ionawr 2022; ·
Gofyn i bawb roi adborth
ac ymateb; ·
Cyflwyno’r Asesiad Terfynol i’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ar 7
Mawrth 2022.
Wrth ymateb i gwestiynau a phryderon yr Aelodau,
yn benodol y pryderon ynghylch tlodi a thai,
cadarnhawyd bod angen gwneud rhagor o waith ymchwil cyn cwblhau’r ddogfen.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i’r
argymhellion canlynol: 1.
Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion a gynhaliwyd ar
17 Medi 2021; a 2.
Derbyn yr Asesiad drafft o Lesiant Lleol sy’n
destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn
o bryd. Diolchodd y Cadeirydd i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 33. |
||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Cadeiryddion
pob Pwyllgor wybodaeth yn eu
tro am y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y maen nhw’n eu
cadeirio. Cytunwyd i gynnwys
Strydlun ar flaengynllun gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus fel y gellid trafod rhwystrau
ar balmentydd. |
||||
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 yn rhai cywir. Tynnodd y Cadeirydd sylw’r Pwyllgor at gofnod 29 ar dudalen
2 sef ‘Cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd
ar 12 Gorffennaf 2021 ac Adroddiad Blynyddol Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2020-2021’. Dywedodd
fod Aelod o’r Pwyllgor wedi
codi pryderon ym mharagraff 2 a 3 gan ofyn i’r
Cadeirydd godi’r pryderon hynny yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cadarnhaodd y Cynghorydd Rees-Evans ei fod wedi
codi’r pryderon hynny. |
||||
Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd ei fod er sylw brys y Pwyllgor Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater.
Diolchodd y Cadeirydd,
y Cynghorydd Rowland Rees-Evans, i
Aelodau’r Pwyllgor am ddod i’r cyfarfod
ac i’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet am gyflwyno’r wybodaeth. Diolchodd i bob swyddog a fu’n rhan o’r
cyfarfod am sicrhau bod y cyfarfod wedi rhedeg
yn rhwydd. |