Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Marc Davies am na
fedrai ddod i'r cyfarfod. Hefyd,
ymddiheurodd y Cynghorydd Mark Strong am na fedrai ymuno â’r cyfarfod gan ei
fod yn cael trafferthion cysylltu â Zoom. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim buddiannau personol na buddiannau a oedd yn rhagfarnu. |
|
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
Diana Davies, Lynne Walters a Hazel Lloyd Lubran i’r cyfarfod i roi’r adroddiad fel y gallai
Aelodau’r Pwyllgor gael y cyfle i graffu ar y penderfyniadau a’r camau
gweithredu a wnaed gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Bu i Lynne Walters
gyflwyno’r wybodaeth gan gyfeirio’n benodol at y gwaith a wnaed yn ystod
chwarter olaf 2020 o ran adolygu aelodaeth a blaenoriaethau pob Grŵp
Prosiect. Dywedodd fod pump o’r Grwpiau
Prosiect wedi cytuno ar flaenoriaethau a chynlluniau gweithredu newydd a oedd
yn canolbwyntio ar weithredu yng ngoleuni COVID. Yn unol â chais y Pwyllgor
hwn yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, rhoddodd Hazel
Lloyd Lubran, Cadeirydd Grŵp Prosiect Deall Ein
Cymunedau ddiweddariad am y cynnydd yr oedd y grŵp wedi’i wneud. Rhoddodd
grynodeb byr o’r gwaith a wnaed yn ystod pandemig
COVID-19. Soniodd yn benodol am y cyfathrebu rhagorol sydd wedi digwydd ac sy'n
parhau i ddigwydd gyda'r rhwydwaith o grwpiau cymorth lleol a oedd wedi’u
sefydlu. Dywedodd hefyd fod y cyfathrebu parhaus rhwng sefydliadau'r sector
cyhoeddus a'r sector preifat wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod yr argyfwng. Ar ôl hynny, cafodd yr
Aelodau’r cyfle i ofyn cwestiynau i’r Swyddogion a oedd yn bresennol. Bu i
lawer o'r Aelodau ganmol y gwaith a wnaed yn eu trefi a'u cymunedau yn ystod yr
argyfwng gan nodi’r ysbryd tîm rhagorol a ddangoswyd. Diolchodd y Cadeirydd i'r
Swyddogion am eu cyflwyniadau a dywedodd wrth Aelodau'r Pwyllgor y byddai
cynrychiolydd o bob un o'r grwpiau yn cael y cyfle i ddod i gyfarfodydd yn y
dyfodol i roi cyflwyniadau. Ar ôl trafodaeth, gofynnwyd i’r Aelodau ystyried yr
argymhellion canlynol: ARGYMHELLION: i.
Derbyn cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a
gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021 a chofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021; ii.
Derbyn yr adroddiad mwyaf diweddar ynglŷn â Grwpiau Prosiect y BGC,
fel y’i cyflwynwyd i’r BGC; iii.
Derbyn adroddiad ffocws ar waith Grŵp Prosiect Deall ein Cymunedau; a; iv.
Derbyn braslun o Adroddiad Blynyddol Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion
2020-21. Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i dderbyn yr
argymhellion fel y’u nodwyd uchod fel y gallai’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a
Chraffu gyflawni ei rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 3 2020-21 Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
Siân Howys i’r cyfarfod i roi Crynodeb Gweithredol o’r Adroddiad
CYSUR/CWMPAS. Yn dilyn cwestiynau,
cytunodd Aelodau'r Pwyllgor y dylid anfon neges i staff y Gwasanaethau
Cymdeithasol i'w canmol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad yn ystod argyfwng
COVID. Cytunodd Ms Howys y byddai’n cyfleu’r neges hon i’w chydweithwyr. CYTUNODD Aelodau’r Pwyllgor i nodi
cynnwys yr adroddiad a'r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol fel bod
trefniadau llywodraethu gweithgarwch yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau sy’n
bartneriaid yn cael eu monitro. |
|
Adroddiad ar Gofnod Penderfyniadau Grŵp Rheoli Aur COVID-19 Cofnodion: Croesawyd Elin Prysor a Hannah Rees i gyflwyno’r
adroddiad am Gofnod Penderfyniadau Grŵp Rheoli Aur COVID-19. Cyflwynodd
Hannah Rees yr adroddiad gan roi gwybodaeth am benderfyniadau Grŵp
Arweiniol Covid-19 (y Grŵp Rheoli Aur) yn ystod y cyfarfodydd a gynhaliwyd
rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 29 Ebrill 2021. Yn dilyn
trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad a chynnwys
Cyfarfodydd Grŵp Rheoli Aur Covid-19 yn unol â’r Cofnod Penderfyniadau a
oedd wedi’i gynnwys gyda phapurau’r agenda. CYTUNODD yr Aelodau i dderbyn a nodi’r adroddiad er gwybodaeth. Drwy wneud hyn, gellid monitro’r modd y mae trefniadau gwneud penderfyniadau’r Cyngor yn cael ei lywodraethu ar ôl i’r trefniadau hynny gael eu haddasu. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Ivor
Williams gynnig y dylid cadarnhau Cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Cydlynu a
gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021 a 18 Mawrth 2021 yn rhai cywir ac eiliwyd y
cynnig hwn gan y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE.
Nid oedd dim materion yn codi o'r cofnodion. |
|
Cofnodion: Bu i Gadeirydd pob Pwyllgor neu’r Is-gadeirydd yn
absenoldeb y Cadeirydd, neu’r Swyddog Craffu os oedd y ddau yn absennol,
ddarparu gwybodaeth yn eu tro am y Pwyllgorau trosolwg a chraffu
perthnasol. Yn dilyn
trafodaeth, cytunwyd y byddai’r canlynol yn cael eu cynnwys ar Flaenraglenni Gwaith y Pwyllgorau canlynol fel eitemau i’w
hystyried yn y dyfodol: ·
Adnoddau Corfforaethol - Gwasanaethau CLIC ·
Cymunedau Iachach – Effaith y defnydd o gyffuriau ledled
y Sir (gan gynnwys sefydliadau addysg). Byddai Aelodau’r Pwyllgor Cymunedau
sy’n Dysgu yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol pan fyddai’r eitem hon yn cael
ei hystyried. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna'r Cadeirydd ei fod er sylw brys y Pwyllgor Cofnodion: Ni chodwyd dim materion
eraill. Diolchodd y
Cynghorydd Rowland Rees-Evans i Aelodau’r Pwyllgor am ddod i’r
cyfarfod ac i’r swyddogion am gyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd
gryno. Diolchodd hefyd i dîm y Gwasanaethau Democrataidd a’r
Cyfieithwyr am sicrhau bod y cyfarfod wedi’i gynnal yn hwylus. |