Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 12fed Chwefror, 2025 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Gweithdrefn

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cadeirydd yn y Siambr, CYTUNWYD mai'r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Carl Worrall fyddai’n cadeirio’r cyfarfod.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Rhodri Davies a Ceris Jones am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Estynnwyd dymuniadau gorau i'r Cynghorydd Ifan Davies yn dilyn ei lawdriniaeth. 

 

Adroddodd Mr Russell Hughes-Pickering – Swyddog Arweiniol Corfforaethol yr Economi ac Adfywio am y digwyddiad llwyddiannus diweddar a gynhaliwyd ganddo ar gyfer Prostate Cymru a diolchodd i bawb am fynychu a chefnogi. Dywedodd mai'r neges allweddol oedd i ddynion gael prawf, bydd 1 o bob 8 neu 1 o bob 3 dyn sydd â hanes teuluol yn cael canser y prostad.

4.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Matthew Vaux fuddiant personol ac sy’n rhagfarnu ynghylch Cais A240772.

 

Datganodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol ac sy’n rhagfarnu ynghylch Cais A211186.

 

Datganodd Mrs Dana Jones, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a Safonau ddiddordeb yng nghais A240772, a chymerwyd y cofnodion gan Miss Neris Morgans, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd.

 

5.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025 pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi

Dim.

6.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol CorfforaetholEconomi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A211186 Codi siop fwyd Aldi manwerthu Dosbarth A1, adnewyddu pafiliwn chwaraeon rhestredig Gradd II, gosod tri pod arddangos pren parod, ac ardal natur a bioamrywiaeth gyda mynediad cysylltiedig, maes parcio a thirlunio cysylltiedig, Caeau Chwarae y Drindod, Dewi Sant, Ffordd Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan

 

GOHIRIO 'r cais gan fod gwybodaeth bellach wedi dod i law gan yr asiant yn dilyn cyhoeddi'r agenda ac nid oedd gan Swyddogion ddigon o amser i fynd i'r afael â'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd.

 

Ailadroddodd yr Aelodau eu rhwystredigaeth bod gwybodaeth ac e-byst ychwanegol wedi'u hanfon yn uniongyrchol gan yr asiant yn dilyn cyhoeddi'r agenda, ac oherwydd hyn cafodd y cais ei ohirio eto.

 

7.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio ar ddatblygiad, hysbysebu; awdurdodau lleol a cheisiadau cynllunio statudol:-

 

Anerchodd Mr Ian Evans (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A240169 Codi annedd, sied amaethyddol a gwaith cysylltiedig ar safle hen annedd/annedd wedi’i amddifadu, Fronlwyd, Llangrannog, Llandysul

 

CYFEIRIO 'r cais at y Panel Arolygu Safle (SIP) yn unol â Pharagraff 5 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor ac at y Grŵp Oeri yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol.

 

 

A24050 Newid defnydd o swyddfeydd (cyfreithwyr) i fan preswyl yn Manarafon, Stryd y Capel, Tregaron

 

CYFEIRIO  'r cais at y Panel Arolygu Safle (SIP) yn unol â Pharagraff 5 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor ac at y Grŵp Oeri yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol.

 

 

_____________________________________________________________

A240672 Codi annedd, 41 Dolymeillion, Llanilar

 

GOHIRIO  'r cais yn amodol ar gwblhau cytundeb cyfreithiol Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad swm gohiriedig gyda phwerau i'r Swyddog Corfforaethol ac Arweiniol i gymeradwyo'r cais yn amodol ar amodau unwaith y bydd y cytundeb cyfreithiol wedi'i gwblhau ac i drafod amserlen y datblygwr mewn perthynas â'r ardal chwarae arfaethedig.

 

 

_____________________________________________________________

 

Gwnaeth Mrs Jo Flanagan (gwrthwynebydd) a Mr Dylan Green (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu a darllenwyd llythyr gan Swyddog ar ran Cyngor Tref Cei Newydd.

 

A240772 Cais cynllunio llawn ar gyfer ail-wynebu ac ad-drefnu arfaethedig maes parcio presennol ynghyd â datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig, Tir ym Maes Parcio Canolog, Cei Newydd

 

CYFEIRIO  'r cais at y Panel Arolygu Safle (SIP) yn unol â pharagraffau 1, 2, 3, 4, 5, a 7 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor ac at y Grŵp Oeri yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol.

 

________________________________________________________________

 

 

 

8.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r amserlen o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd ag Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio

9.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

10.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.