Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 15fed Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A230409.

 

Datganodd Mr Russell Hughes Pickering  fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A240382.

 

(Cadeiriodd y Cynghorydd Carl Worrall y cyfarfod ar gyfer Cais A240382 a  A240557 gan eu bod yn geisiadau yn ward y Cadeirydd, y Cynghorydd Ifan Davies.)

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024 yn gywir.

 

Materion yn codi

Cofnodion 09/10/24- A230165 Codi Annedd Gweithwyr Menter Wledig, Blaenffynnon, Llanwnnen, Llanbedr-Pont-Steffan – Adroddwyd bod llythyr wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru cyn cyfnod y Nadolig yn nodi y byddent yn galw’r cais i mewn. Yn dilyn hynny, roedd yr ymgeisydd wedi tynnu’r cais yn ôl.

 

Cofnodion 11/12/24- A240477  Defnydd o annedd fel Llety Gwyliau Tymor Byr (Caniatâd Dros Dro), Parc y Deri, A485 o Lanilar i’r Gyffordd â’r C1037, Llanilar, Aberystwyth – Gofynnodd y Cynghorydd Rhodri Evans a oedd y trafodaethau’n parhau gyda’r ymgeisydd mewn perthynas â’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cynllunio fod trafodaeth wedi’i chynnal.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio

ynghylch y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A230409  Cloddio lagŵn bio-wrtaith i storio sgil-gynhyrchion y diwydiant bwyd cyn gwneud cais am y tir er budd amaethyddol (yn rhannol ôl-weithredol), Tir yn Fferm Ffynnoncyff, Ferwig, Cardigan

 

CYMERADWYO’R cais yn amodol ar amodau. ________________________________________________________________

 

A240382   Garej Newydd Arfaethedig i gynnwys dymchwel y Garej bresennol,

Moduron Strata Motors, Stryd y Bont, Pontrhydfendigaid

 

CYMERADWYO’R cais yn amodol ar amodau.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais gan fod y cais yn cydymffurfio â DM17 a DM06.

 

 

_________________________________________________________________

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar ddatblygu, hysbysebu; ceisiadau cynllunio statudol ac awdurdodau lleol:-

 

A210916 Datblygiad un blaned gyda llwybr ychwanegol. Codi 3 ystafell wely di-garbon effaith isel. Codi gweithdy pren ar gyfer gwneud sudd afal a chynhyrchion llysieuol. Codi 2 twnnel polythen, pwll bywyd gwyllt, Llety’r Gog, Llangeitho, Tregaron

 

GOHIRIO’R cais i’r Panel Arolygu Safle yn unol â Pharagraffau 2 a 5 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

________________________________________________________________

Anerchodd Mr Jacob Hughes (ymgeisydd) y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A240557 Newid defnydd Unedau Gwyliau i Anheddau Preswyl a gwaith cysylltiedig, Parc Teifi Chalets, Stryd y Bont, Pontrhydfendigaid,

Ystrad Meurig

 

CYMERADWYO’R cais yn amodol ar amodau, i gynnwys Cytundeb Adran 106 ar gyfer anheddau fforddiadwy. 

__________________________________________________________________

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio.

 

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.