Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 13eg Tachwedd, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Raymond Evans, Ceris Jones a Carl Worrall am iddynt fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Marc Davies y bydd yn gadael y cyfarfod yn gynnar oherwydd dyletswyddau eraill y Cyngor.

 

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Nid oedd cyhoeddiadau.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng ngheisiadau A240479 ac A230741 .

 

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Medi 2024 pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi

A230165 Codi Annedd Gweithwyr Menter Wledig, Blaenffynnon, Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais i alw i mewn y cais cynllunio yma.  Cadwyd trafodaeth am y weithdrefn o alw i mewn penderfyniad a’r ffaith bod y cawl wnaeth alw’r cais i mewn yn medru parhau’n anhysbys .  Cytunwyd y dylid trefnu gweithdy ar y broses o alw penderfyniad i mewn ac y dylai llyfryn ar y weithdrefn o alw i mewn gael ei ddosbarthu i Aelodau er gwybodaeth.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:

 

A240479 Codi swyddfa, cadw’r adeilad storio, creu maes parcio a gwaith cysylltiedig. D.I. Evans Cyf, Gwrthwynt, B4333 Beulah,

Castellnewydd Emlyn

 

CYMERADWYO’R cais gydag amodau

 

Nid oedd Aelodau yn cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-

  • Roedd lefel daear yr adeilad wedi ei leihau ryw 850mm er mwyn bod yn lefel â’r brif iard
  • Bwriedir defnyddio gwydr barugog yn y ffenestri llawr cyntaf sy’n wynebu’r cefn
  • Nid oedd gan Delfryn unrhyw ffenestri a oedd yn wynebu safle’r cais
  • Nid oedd y sawl a oedd yn byw yn Delfryn ar hyn o bryd o wedi gwrthwynebu’r cais
  • Byddai unrhyw un fydd yn prynu Delfryn yn y dyfodol yn ymwybodol o’r adeilad os caiff ei gymeradwyo
  • Byddai o fudd o ran iechyd a diogelwch ymwelwyr iddo gael ei leoli yn agosach i’r brif fynedfa

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

 

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar ddatblygu, hysbysebu; ceisiadau cynllunio statudol ac awdurdodau lleol:

 

Anerchodd Mr Daniel Morris (Ymgeisydd) a Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) y Pwyllgor yn unol â’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer Aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A230741 Codi annedd TAN 6 a'r sied a'r iard sy’n gysylltiedig. Tir wrth ochr Penrhiwdulais Brongest, Beulah, Castell Newydd Emlyn

 

GOHIRIO’R cais i’r Panel Arolygu Safleoedd a’r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiynau 1 a 3) proses gohirio y Gweithdrefnau Gweithredol Rheoli Datblygu. Roedd cyfeirio i’r Panel Arolygu Safleoedd hefyd yn unol â Pharagraff 2 a 5 Cod Ymarfer y Cyngor ar gyfer ymweliadau safle’r Pwyllgor Rheoli Datblygu .

 

______________________________________________________________

 

Bu i Mr D C Evans (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r Gweithdrefnau  gweithredol ar gyfer Aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A240306 Datblygiad Preswyl a gwaith cysylltiedig , Cwrt Dulas, Llanbedr Pont Steffan

 

CYMERADWYO’R cais gydag amodau a Chytundeb Adran 106 ar gyfer tai fforddiadwy 

 

 

Bu i Mr Hefin Evans (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r Gweithdrefnau  gweithredol ar gyfer Aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A240330 Annedd amaethyddol a gwaith cysylltiedig, Neuadd Fawr, Talybont

 

GOHIRIO’R cais i’r Grŵp Callio  yn unol â pharagraff 2 y broses gohirio  ar gyfer ceisiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu – Gweithdrefnau Gweithredol er mwyn ystyried yn benodol lleihau maint yr annedd.

 

 

______________________________________________________________

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r apeliadau cynllunio a dderbyniwyd.

.

 

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.