Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 9fed Hydref, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones, Mark Strong a Carl Worrall am nad oedden yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A240479.

 

Datgelodd Mrs Ffion Lloyd  fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A230165 ac roedd Ms Elin Prysor yn bresennol yn y cyfarfod i gynghori ar y cais hwn.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024 pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  11 Medi 2024 yn gywir.

 

Materion sy’n codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A200774  Codi caban gwyliau bach ag un llawr, ynghyd â gwaith tirweddu cysylltiedig, ac adleoli’r fynedfa bresennol sy’n is na’r safon i wasanaethu’r fferm a’r caban gwyliau arfaethedig, Tir ar Fferm Blaenarthen, Brongest, Castellnewydd Emlyn

 

GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:-

(i) roedd y cynnig yn mynd yn groes i bolisi LU14 y Cynllun Datblygu Lleol gan nad yw'r polisi yn cefnogi cabanau ar gyfer defnydd gwyliau ar safleoedd twristiaeth newydd.

(ii)  roedd y cynnig yn mynd yn groes i bolisïau DM06 a DM17 y Cynllun Datblygu Lleol gan nad yw'n cyfateb i’r safle a'r cyffiniau a byddai'n cael effaith negyddol ar y dirwedd.

 

__________________________________________________________________

A210935 Annedd arfaethedig mewn cysylltiad â menter sefydledig,

Canolfan Forol Cambrian, Tegfan, Aberaeron

 

 

GWRTHOD y cais gan nad yw'r datblygiad arfaethedig yn bodloni'r prawf anheddau swyddogaethol ac anheddau eraill fel y nodir yn TAN6 ac felly ystyriwyd ei fod yn methu â chydymffurfio â pholisïau S01 a S04 y Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2007 –2022.

 

__________________________________________________________________

 

A230165 Codi Annedd Gweithwyr Menter Wledig, Blaenffynnon, Llanwnnen,

Llanbedr pont steffan

 

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor gan fod penderfyniad y Pwyllgor yn mynd yn groes i argymhelliad y swyddog ac yn wyriad sylweddol oddi wrth bolisi.  Cynigodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y dylid mynd yn erbyn yr argymhelliad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris James.

 

O blaid yr argymhelliad: Neb

 

Yn erbyn yr argymhelliad:

Y Cynghorwyr Ifan Davies, Gethin Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies, Raymond Evans, Rhodri Evans, Hugh Hughes, Chris James, Maldwyn Lewis, Gareth Lloyd, Sian Maehrlein (12)

 

Ymatal: Neb

 

Cytunwyd i GYMERADWYO’r cais yn amodol ar Rwymedigaeth Adran 106 yn cysylltu'r annedd â'r tir ac yn ddarostyngedig i amodau, gan gynnwys tynnu hawliau datblygu a ganiateir er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw gynnydd pellach at y maint yn cael ei wneud.

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:

 

         Ers i'r cynnig cychwynnol gael ei wrthod yn 2018, roedd yr ymgeiswyr wedi adeiladu eu busnes ac wedi ennill enw da am eu stoc sydd wedi ennill gwobrau.

         Roedd natur y fenter yn golygu mai nifer cyfyngedig o erwau oedd ei angen ac mae'r ymgeiswyr wedi dangos menter hyfyw ar 32 erw

         Roedd y busnes yn parhau i dyfu o ran enw da a bri a dylid cefnogi enghreifftiau lleol o arloesi amaethyddol.

         Nid yw'r annedd a gynigir yn ymddangos yn rhy fawr o'i gymharu â'r fenter, ac mae cyfrifon y fenter yn dangos yn bennaf y gellid ei chynnal, ynghyd â chydnabyddiaeth o'r angen i adlonni prynwyr y stoc ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar ddatblygu, hysbysebu; ceisiadau cynllunio statudol ac awdurdodau lleol:-

 

A230741 Codi annedd TAN 6 a'r sied a'r iard sy’n gysylltiedig. Tir wrth ochr

Penrhiwdulais Brongest, Beulah, Castell Newydd Emlyn

 

 

GOHIRIO’r cais yn unol â pharagraff 5(a) y Gweithdrefnau Gweithredol Rheoli Datblygu gan fod yr asiant wedi cyflwyno rhagor o wybodaeth yn dilyn cyhoeddi'r agenda.

_________________________________________________________________

Anerchodd Mr Lindley Evans y Pwyllgor yn unol â’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.   

 

 A240479 Codi adeilad swyddfa, Cadw adeilad storio, creu ardal barcio

a'r gwaith sy’n gysylltiedig. D.i. Evans Cyf, Gwrthwynt, B4333 Beulah,

Castell Newydd Emlyn

 

 

CYFEIRIO'r cais i'r Panel Arolygu Safleoedd yn unol â

pharagraff 4 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol CorfforaetholEconomi ac Adfywio.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a gafwyd.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.