Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ifan Davies am ei anallu i fynychu'r cyfarfod.

 

 

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 yn rhai cywir

 

Materion sy'n codi

Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 899 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio a ganlyn a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac yr oedd angen eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor:-

 

A210387 Annedd fforddiadwy arfaethedig i gynnwys gosod mynedfa i

gerbydau a chyfleuster parod i drin carthion, Tir yn gyfagos i Lownant, Talsarn

 

GWRTHOD y cais gan y byddai’n arwain at annedd fforddiadwy newydd mewn lleoliad yng nghefn gwlad agored na ellir ei gyfiawnhau a lleoliad anghynaliadwy yn groes i bolisi cynllunio cenedlaethol a amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 2:  Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006) a’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd, polisïau S01 ac S04.

______________________________________________________________________

 

A220202 Annedd newydd yn lle un wag, Tir ym Mhantyffynnon Isaf, Ysbyty Ystwyth

 

GOHIRIO gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y cais diweddar a gyflwynwyd ar gyfer trac sy’n arwain at safle’r cais, gan fod y fynedfa ar hyn o bryd

yn gwbl anaddas, annigonol, ac o bosibl yn beryglus, mae’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio wedi’i awdurdodi i GYMERADWYO’r cais, os oedd y cais am y trac yn dderbyniol, ac i gynrychioli'r cais i'r pwyllgor os nad oedd.

 

Roedd yr aelodau o’r farn y gellid caniatáu’r cais am y rhesymau a ganlyn:-

·       Roedd y cais yn unol ag LU09; oherwydd yn eu barn nhw nad oedd yr eiddo wedi dadfeilio fel nad oedd bellach yn edrych yn sylweddol fel annedd, ac oherwydd bod modd ei adnewyddu

·       Cefnogwyd y cais ar y sail bod y cais am y trac yn cael ei ganiatáu

 

 

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 903 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol

Corfforaethol  Economi ac Adfywio ar geisiadau cynllunio

datblygu, hysbysebu;statudol a’r awdurdod lleol:-

 

Anerchodd Ms Glesni Phillips y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A220511Codi annedd fforddiadwy,  Lleine, Ferwig, Aberteifi

 

CYFEIRIO’r cais at y Panel Arolygu Safleoedd yn unol â pharagraff

dau a phump y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

       

A220578 Estyniad llawr gwaelod ar gyfer defnydd symudedd,

Sycharth, Felin-fach, Llanbedr Pont Steffan

 

CYMERADWYO’r cais yn destun amodau.

      

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 897 KB

Cofnodion:

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol CorfforaetholEconomi ac Adfywio.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a gafwyd.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.