Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Personal Cofnodion: Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Cerys Jones ar enedigaeth ei
mab. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorwyr Cerys Jones, Siân Maehrlein a
Mark Strong wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i'r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Mehefin 2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y
Cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2022 yn gywir. Materion yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio
canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor
eu hystyried ymhellach:- A201119. Cadw Odyn Sychu
Plociau Biomas, a dwy Simnai adefnydd parhaus o Foeler Rhif 1 yn unig (yng
nghanol yr adeilad) yn dilyn gweithgarwch profi a oedd yn ymwneud â Chaniatâd
Cynllunio Dros Dro A190302, Cae Celyn, Heol Llanfair, Llanbedr Pont Steffan GWRTHOD y cais
oherwydd y byddai cadw'r cynnig yn debygol o arwain at niwed i amwynder preswyl
y preswylwyr cyfagos, yn groes i ddarpariaethau Cymru'r Dyfodol, Polisi
Cynllunio Cymru ac i bolisïau DM06, LU25 a DM22 Cynllun Datblygu Lleol
Ceredigion 2007-2022 a fabwysiadwyd |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu,
hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:- A200674 Caniatâd
Cynllunio Llawn er mwyn Codi Uned Dofednod ar Fferm a
fydd yn dal 32,000 o Ieir Buarth (Cynhyrchu Wyau), ynghyd â Biniau Bwydo
cysylltiedig, Mynediad mewnol ar y Fferm a Gwaith Cysylltiedig, Pwllpridd, Lledrod, Aberystwyth CYMERADWYO'R cais yn unol ag amodau ac yn unol â chanlyniad yr Asesiad Rheoliadau Cynefin
Anerchodd Mr Aled Jones
(Ymgeisydd) a Mr Llŷr Evans, (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r ychwanegiad dros
dro i'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor
Reoli Datblygu mewn ymateb i Covid-19 A210363 Codi adeilad
amaethyddol er mwyn cadw stoc ifanc (buarth gwellt), Alltgoch,
Silian CYFEIRIO'R
cais i Banel Archwilio Safle yn unol â Pharagraff
1, 2 a 3 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor. _____________________________________________ A210523 Datblygiad
Preswyl Mewnlenwol o 7 Annedd gan gynnwys Anheddau
Fforddiadwy (i'w trafod), Tir yn Wenfryn Ffos-y-ffin,
Aberaeron GOHIRIO'R penderfyniad am y cais
oherwydd bod yr asiant wedi dosbarthu gwybodaeth newydd cyn y cyfarfod, yr oedd
gofyn i swyddogion cynllunio a phriffyrdd ei hystyried, a chyflwynir y cais eto
mewn cyfarfod yn y dyfodol os na fyddai modd i'r holl bartïon gytuno.
|
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw |
|
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: None. |