Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Bu i’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Bryan Davies, a’r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Rhodri Evans, ddiolch i’r Cadeirydd am ei holl waith a’i degwch yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, a bu iddynt ddymuno’n dda iddo ar ei ymddeoliad. Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Aelodau eraill a fydd yn ymddeol hefyd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Ceredig Davies a Maldwyn Lewis wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i’r cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorwyr Bryan Davies a Gwyn James y byddai angen iddynt adael y cyfarfod yn gynnar pe bai’r cyfarfod yn dal i fynd rhagddo.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Odwyn Davies ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210091.

 

Bu i’r Cynghorwyr Dafydd Edwards, Rhodri Evans, Catherine Hughes a Gareth Lloyd ddatgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210960.

 

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Chwefror 2022 pdf eicon PDF 201 KB

Cofnodion:

.

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Chwefror 2022 yn gywir.              

 

           Materion yn codi

           Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:-                      

 

Tra’r oedd y Pwyllgor yn ystyried y cais isod, cyflwynwyd gwybodaeth esempt fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007. Cytunwyd i gau’r cyhoedd a’r wasg allan o’r cyfarfod tra’r oedd y Pwyllgor yn trafod yr wybodaeth honno, yn unol ag adran 100B(2) o’r Ddeddf. Ar ôl iddo ystyried yr wybodaeth esempt hon, ailddechreuodd y Pwyllgor gyfarfod yn gyhoeddus.

 

           A210722 Byngalo ymddeol arfaethedig, Garej Bayview, Parc-llyn, Aberteifi

 

GWRTHOD y cais oherwydd ei fod yn mynd yn groes i strategaeth dai’r Cynllun Datblygu Lleol fel y’i hamlinellwyd ym mholisïau S01 ac S04.     

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-

 

Bu i Ms Jane Morgan (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.                                          

 

A210091 Cais cynllunio ôl-weithredol ar gyfer sied storio offer amaethyddol a gwelliannau i’r fynedfa bresennol i gerbydau, Tir gyferbyn â Than yr Allt, Coxhead, Tregaron

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais i ofyn i’r ymgeisydd ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd ganddi yng nghyfarfod y Pwyllgor.

 

_____________________________________________________________________

 

            Darllenwyd llythyr ar ran Mr Jeremey Davies (Ymgeisydd) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.

 

 

            A210408 Addasiadau mewnol sy’n ofynnol i leoli llety byw ar y llawr cyntaf ac ystafelloedd gwely ar y llawr daear, gan addasu ffenestri’r wedd gefn yn unig, Island House, Maes yr Hafan, Aberaeron

 

 

            CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau.

 

            _____________________________________________________________

           

            Darllenwyd llythyr ar ran Mr Rob Thomas (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.

 

            A210573 Codi annedd newydd, Tir wrth ymyl Maes y Fedwen, Tre-saith

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais er mwyn i’r ymgeisydd ystyried, a chytuno i godi, annedd fforddiadwy a gaiff ei sicrhau drwy gytundeb Adran 106, gan ganiatáu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio gymeradwyo’r cais os yw’r ymgeisydd yn cytuno. Os na fydd yr ymgeisydd yn cytuno i godi annedd fforddiadwy, caiff y cais ei atgyfeirio at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen am gyfnod “callio”.

            -------------------------------------------------------------------------------------------------------------

 

Bu i Mr Richard Banks (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.                  

 

 

A210697 Amrywio amodau 4, 6, 7, 8 a 13 caniatâd cynllunio A160636 i gydymffurfio â Chynllun Safle cyfeirnod 2538-505-REV B a Chynllun Peirianyddol cyfeirnod 2538_(00)02_101-REV A yn hytrach na Chynllun Safle Dangosol RB/0054cREV4- Mawrth 2017, Tir oddi ar Ffordd Newydd, Aber-porth, Aberteifi                                            

 

            CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb cyfreithiol adran 106.

 

Roedd yr Aelodau am iddi gael ei nodi eu bod wedi gofyn a allai’r ymgeisydd ddarparu mwy o dai fforddiadwy drwy’r cynllun. Bu i’r swyddog ymateb drwy ddweud bod yr ymgeisydd wedi darparu tri thŷ fforddiadwy yn unol â’r polisi.

 

            _______________________________________________________________________

 

A211113 Amrywio amod 3 caniatâd cynllunio A160636 – i estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno’r materion a gadwyd yn ôl, Tir oddi ar Ffordd Newydd, Aber-porth, Aberteifi

           

            CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb adran 106.

 

 

            _____________________________________________________________________

           

Bu i Ms Helen Ashby-Ridgway (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.                  

 

A210888 Cynnig i ddatblygu seiliau i leoli carafannau sefydlog ac i addasu’r pwll presennol, gyda gwaith cysylltiedig o ran mynediad, parcio ceir, tirweddu, a seilwaith draenio, Parc Gwyliau Quay West, Cei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.                                

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law.

 

 

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn oedd ei gyfarfod olaf cyn iddo

ymddeol, a bu iddo ddiolch i bawb am eu gwaith a’u cymorth. Bu iddo

hefyd ddymuno’n dda i’r holl Gynghorwyr eraill a oedd yn ymddeol. Bu i

Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ddiolch i’r

Cadeirydd a’r holl Gynghorwyr am eu gwaith yn ystod y tymor.

 

 

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor