Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 12fed Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i Mrs Ffion Lloyd, Cyfreithiwr wrth iddi adael ei rôl gyda’r awdurdod gan ddiolch iddi am ei gwaith dros y blynyddoedd.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

i.      Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux ei fod wedi derbyn gollyngiad i siarad ar gais A240772.

ii.     Datganodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu ynghylch cais A211186 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater yn cael ei drafod.

iii.    Cadeiriodd y Cynghorydd Carl Worrall y cyfarfod ar gyfer Cais A240509 a gan ei fod yn gais yn ward y Cadeirydd, y Cynghorydd Ifan Davies.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2025 pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2025 yn gywir.

 

Materion yn codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A210916 - Datblygiad un blaned gyda llwybr ychwanegol. Codi tŷ 3 ystafell wely di-garbon effaith isel, codi gweithdy pren ar gyfer gwneud sudd afal a chynhyrchion llysieuol, codi 2 twnnel polythen, pwll bywyd gwyllt, Llety’r Gôg, Llangeitho, Tregaron

 

GWRTHOD y cais ar sail diogelwch ffyrdd.

 

 

A211186 - Codi siop fwyd Aldi manwerthu Dosbarth A1, adnewyddu pafiliwn chwaraeon rhestredig Gradd II, gosod tri pod arddangos pren parod, ac ardal natur a bioamrywiaeth gyda mynediad cysylltiedig, maes parcio a thirlunio cysylltiedig, Caeau Chwarae y Drindod, Dewi Sant, Ffordd Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan

 

GWRTHOD y cais yn seiliedig ar y rhesymau canlynol:

·       Nid oes angen meintiol nac ansoddol am y siop fwyd arfaethedig yn Llanbedr Pont Steffan.

·       Byddai disgwyl i'r siop fwyd arfaethedig gael effaith andwyol fawr ar y Sainsbury's presennol yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan yn ogystal â’r stryd fawr.

·       Byddai hyn yn effeithio'n andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd canol y dref, a allai yn ei dro gynyddu nifer y siopau gwag drachefn yn y ganolfan, ar adeg pan fo mater siopau gwag ar gynnydd eisoes yn bryder.

·       Disgwylir i'r siop fwyd arfaethedig gael effaith andwyol fawr ar ganol trefi Aberaeron a Llandysul, gyda cholledion o tua 10% o gyfanswm y fasnach cyfleustra yn cael eu rhagweld. Mae hyn yn bryder mawr o ystyried pwysigrwydd y ddarpariaeth cyfleustra i iechyd cyffredinol y ddwy ganolfan ac i'w rôl fel canolfannau gwasanaethu ar gyfer eu cymunedau lleol.

·       Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion y dirwedd.

·       Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol fawr, o arwyddocâd sylweddol, ar leoliad y Pafiliwn Rhestredig Gradd II.

·       Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad a golwg yr Ardal Gadwraeth.

·       Ystyrir y byddai’r datblygiad arfaethedig yn arwain at golli lle chwarae nad yw wedi cael ei ddigolledu mewn mannau eraill ac nid yw'r ddarpariaeth yn destun gwelliannau digonol i gyfiawnhau colli'r cae.

 

 

A240169 - Codi annedd, sied amaethyddol a gwaith cysylltiedig ar safle hen annedd/annedd wedi’i amddifadu, Fronlwyd, Llangrannog, Llandysul

 

GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:

 

O ystyried cyflwr adfeiliedig yr annedd sy'n ddarostyngedig i'r cais, mae'r cynnig yn gwrthdaro â maen prawf 1i Polisi LU09 o Gynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2007 – 2022 (a fabwysiadwyd yn 2013). Felly, ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cynrychioli tai newydd mewn 'lleoliadau eraill' yn groes i bolisïau cynllunio S01 ac S04 o Gynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2007-2022 a fabwysiadwyd (mabwysiadwyd 2013).

 

 

A240509 - Newid defnydd o swyddfeydd (cyfreithwyr) i fan preswyl yn Manarafon, Stryd y Capel, Tregaron

 

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi yn unol â Rhan 4, Dogfen I o Gyfansoddiad y Cyngor gan fod penderfyniad y Pwyllgor yn mynd yn groes i argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais, ac yn wyriad sylweddol oddi wrth bolisi. Cynigodd y Cynghorydd Rhodri Evans y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio ar ddatblygiad, hysbysebu; awdurdodau lleol a cheisiadau cynllunio statudol:-

 

A240707 - Newidiadau Arfaethedig ac Estyniad i Annedd Presennol a’r Holl Waith Cysylltiedig, 51 Heol Y Graig, Aberporth, Aberteifi

 

Nodi bod y cais wedi’i DYNNU’N ÔL o’r agenda gan fod rhagor o wybodaeth wedi dod i law gan yr asiant yn dilyn cyhoeddi’r agenda ac nad oedd gan Swyddogion ddigon o amser i fynd i’r afael â’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd.

 

 

Gwnaeth Mr Dylan Green (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A240757 - Bwriad i ddymchwel yr eiddo preswyl presennol ac ailddatblygu ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig, Hen Gartref Gofal Bodlondeb, Ffordd Penparcau, Aberystwyth

 

CYFEIRIO'R cais at y Panel Arolygu Safle (SIP) yn unol â Pharagraff 5 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

 

Gwnaeth Mr Mike Southall (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A240851 - Datblygiad preswyl, ynghyd â mynedfeydd cysylltiedig i gerbydau a cherddwyr, maes parcio, ardaloedd amwynder, tirweddu a datblygu ategol: paratoi'r safle, clirio, triniaeth, ail-broffilio a gosod gwasanaethau a seilwaith newydd, Tir yn Nôl y Dintir, Heol y Felin Newydd, Aberteifi

 

CYMERADWYO’R cais yn amodol ar amodau.

 

 

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r amserlen o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd ag Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi'r apeliadau cynllunio a dderbyniwyd.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.