Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: |
||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
||
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol a
buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A230409. Datganodd Mr Russell Hughes Pickering fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu
yng nghais A240382. (Cadeiriodd y Cynghorydd Carl Worrall y cyfarfod ar gyfer Cais A240382 a A240557 gan eu bod yn geisiadau yn ward y Cadeirydd, y Cynghorydd Ifan Davies.) |
||
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024 yn gywir. Materion yn codi Cofnodion 09/10/24- A230165 Codi Annedd Gweithwyr Menter Wledig, Blaenffynnon, Llanwnnen, Llanbedr-Pont-Steffan – Adroddwyd bod llythyr wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru cyn cyfnod y Nadolig yn nodi y byddent yn galw’r cais i mewn. Yn dilyn hynny, roedd yr ymgeisydd wedi tynnu’r cais yn ôl. Cofnodion 11/12/24- A240477 Defnydd o annedd fel Llety Gwyliau Tymor Byr (Caniatâd Dros Dro), Parc y Deri, A485 o Lanilar i’r Gyffordd â’r C1037, Llanilar, Aberystwyth – Gofynnodd y Cynghorydd Rhodri Evans a oedd y trafodaethau’n parhau gyda’r ymgeisydd mewn perthynas â’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cynllunio fod trafodaeth wedi’i chynnal. |
||
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Cofnodion: Ystyriwyd
Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ynghylch y
ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac a oedd
angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:- A230409 Cloddio lagŵn bio-wrtaith
i storio sgil-gynhyrchion y diwydiant bwyd cyn gwneud cais am y tir er budd
amaethyddol (yn rhannol ôl-weithredol), Tir yn Fferm Ffynnoncyff,
Ferwig, Cardigan CYMERADWYO’R cais yn amodol ar amodau.
________________________________________________________________ A240382 Garej Newydd Arfaethedig i gynnwys dymchwel
y Garej bresennol, Moduron Strata
Motors, Stryd y Bont, Pontrhydfendigaid CYMERADWYO’R cais
yn amodol ar amodau. Roedd yr Aelodau
o’r farn y gellid cymeradwyo’r cais gan fod y cais yn cydymffurfio â DM17 a
DM06. _________________________________________________________________ |
||
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar ddatblygu, hysbysebu; ceisiadau cynllunio statudol ac awdurdodau lleol:- A210916 Datblygiad un blaned gyda llwybr ychwanegol. Codi tŷ 3 ystafell wely di-garbon effaith isel. Codi gweithdy pren ar gyfer gwneud sudd afal a chynhyrchion llysieuol. Codi 2 twnnel polythen, pwll bywyd gwyllt, Llety’r Gog, Llangeitho, Tregaron GOHIRIO’R cais i’r Panel Arolygu Safle yn unol â Pharagraffau 2 a 5 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor. ________________________________________________________________ Anerchodd Mr Jacob Hughes (ymgeisydd) y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu. A240557 Newid defnydd Unedau Gwyliau i Anheddau Preswyl a gwaith cysylltiedig, Parc Teifi Chalets, Stryd y Bont, Pontrhydfendigaid, Ystrad Meurig CYMERADWYO’R cais yn amodol ar amodau, i gynnwys Cytundeb Adran 106 ar gyfer anheddau fforddiadwy. __________________________________________________________________ |
||
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig Cofnodion:
|
||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |