Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 15fed Mai, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Gethin Davies am ei anallu i fynychu’r cyfarfod.

Nododd y Cynghorwyr Rhodri Evans a Chris James y byddent yn gadael y cyarfod yn gynnar oherwydd dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.

 

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod o'r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024 a 21 Mawrth 2024 pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024 a 21 Mawrth 2024 yn gywir.

 

.

 

5.

Materion yn Codi pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Dim.

6.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

 

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfodydd blaenorol ac a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor:-

 

A220738 Annedd marchnad agored arfaethedig a fydd yn cynnwys mynediad i gerbydau, Pencoed, Pentre’r Bryn, Llandysul

 

I GYMERADWYO’r cais fel annedd fforddiadwy yn amodol ar Rwymedigaeth Adran 106.

 

________________________________________________________________

 

A230293  Codi Annedd Menter Wledig (TAN6)a Sied, tir gerllaw Maespwll, Talgarreg, Llandysul

 

GOHIRIO gwneud penderfyniad ar y cais yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r pwyllgor rhif 2, (Rhesymau er gwybodaeth) a rhif 4 (Gwybodaeth cynllunio newydd a ddaeth i sylw’r aelodau neu swyddogion cynllunio yn dilyn cyhoeddi agenda ac adroddiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu) o’r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

________________________________________________________________

 

 

7.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

 

 

 

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau cynllunio statudol, awdurdod lleol, hysbysebu a datblygu:-

 

Anerchodd Mrs Ellyw Jenkins (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A160043 Adeiladu 22 annedd a gwaith cysylltiedig. Tir gerllaw Gellimanwydd, Talybont.

 

GOHIRIO gwneud penderfyniad ar y cais am gyfnod o chwech mis er mwyn i’r gwasanaeth dderbyn ymateb gan CNC ar yr Asesiad Canlyniad Llifogydd, gan awdurdodi’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio i GYMERADWYO’r cais os yw’r adroddiad yn ddigonol, neu ei WRTHOD os nad yw’n ddigonol.

 

_________________________________________________________________

 

Anerchodd Mrs Caryl Alban (Ymgeisydd)  y Pwyllgor yn unol â’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu. 

 

A200869 Adeiladu annedd a garej domestig cysylltiedig ynghyd ag adeilad amaethyddol, safle gerllaw Glyndewi, Bwlchygroes

 

GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:

1. Byddai’r cais yn arwain at annedd marchnad agored a sied mewn lleoliad arall, lleoliad anghynaladwy sy’n groes i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040, Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006) a’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, polisïau S01 a S04.

2. Os caiff ei ganiatâi, bydd y cais yn tanseilio’r gallu i gyflenwi strategaeth dai’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, Polisïau S01 a S04; a

3. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn niweidiol i gymeriad a golwg gwledig yr ardal o gwmpas, yn groes i’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, polisïau DM06 a DM17.

_______________________________________________________________

 

 

Anerchodd  Mr Maldwyn Davies  (Ymgeisydd)  y Pwyllgor yn unol â’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A230718  Annedd newydd arfaethedig a gwaith cysylltiedig gan gynnwys gosod offer trin carthion a thrac mynediad o gerrig.  Abermarlais, Llwyncelyn, Aberaeron

 

GOHIRIO gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn trafod cynllun yr annedd newydd arfaethedig gyda’r ymgeisydd,  gan awdurdodi’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio i GYMERADWYO’r cais os caiff ei gytuno.

 

_______________________________________________________________

 

A230860 Datblygiad arfaethedig o ddefnydd B1, B2 a B8, ynghyd â gwelliannau o ran mynediad. Tir gerllaw Gwili Jones a’i Feibion, Maesyfelin, Llanbedr Pont Steffan.

 

 CYMERADWYO’r cais yn ddibynnol ar amodau

_________________________________________________________________

 

A230907 Gosod paneli solar ar y llawr a’r gwaith sy’n gysylltiedig â hynny, Qinetiq, Safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn, Heol Pennar, Aberteifi.

 

CYMERADWYO’r cais yn ddibynnol ar amodau

_______________________________________________________________

 

Anerchodd   Mr Ian Bunton  (Ymgeisydd)  y Pwyllgor yn unol â’r gweithdrefnau gweithredol ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A240140  Newid y defnydd o C3 i C4 fel y gellir defnyddio’r eiddo fel tŷ chwech ystafell wely aml-feddiannaeth.  Mae’r eiddo eisoes wedi’i adnewyddu i gydymffurfio â safonau Tai Aml-feddiannaeth y Cyngor 2019.  9 Teras Penglais, Ffordd Penglais, Aberystwyth.

 

CYMERADWYO’r cais yn ddibynnol ar amodau

 

_____________________________________________________________

8.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio.

9.

Apeliadau pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r apeliadau a’r galw i mewn a dderbyniwyd.

 

Gofynnodd Cynghorydd Gareth Lloyd i Aelodau dderbyn sesiwn briffio ar nifer yr apeliadau a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Lleol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, er mwyn cymharu ffigyrau.

10.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd taw hyn fydd ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd, a diolchodd i’r holl Gynghorwyr a Swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei dymor.  Mewn ymateb, diolchodd Cynghorydd Ifan Davies y darpar-Gadeirydd y Cynghorydd Rhodri Davies am ei gadeiryddiaeth yn ystod ei dymor.