Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 17eg Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Raymond Evans, Maldwyn Lewis a Mark Strong ymddiheuro am fethu mynychu’r cyfarfod.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023 pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir.

 

Materion yn codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 950 KB

Cofnodion:

Dim.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 973 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio ar ddatblygiad, hysbysebu; ceisiadau cynllunio statudol ac awdurdodau lleol:-

 

 

Anerchodd Mr Jason Evans (asiant ar gyfer y gwrthwynebwyr) a Mr Geraint John (asiant yr ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu  

 

A220711 Cais llawn ar gyfer datblygiad preswyl sy'n cynnwys 5 x fflat hunangynhwysol 2 ystafell wely, ar dir wrth ymyl y Marina, Aberystwyth

 

CYFEIRIO'r cais at y Panel Arolygu Safle yn unol â Pharagraff 4 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

 

_________________________________________________________________

 

A230527 Datblygu 18 uned fasnachol defnydd hyblyg (Defnyddiau B1, B2 a B8 o'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd, gan gynnwys cownteri masnach) ar ffurf dau adeilad, Plot C2 Parc Teifi, Aberteifi

 

 

I GYMERADWYO yn ddibynnol ar amodau

 

_______________________________________________________________

Anerchodd Mrs Helen Rowlands a Ms Rhiannon Sanders (Gwrthwynebwyr) a Mr Andrew Vaughan Harries (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A230561 Dymchwel arfaethedig yr annedd bresennol ac adeiladu annedd newydd arfaethedig a'r holl waith cysylltiedig; y Traeth, Cae Dolwen, Aberporth, Aberteifi

 

Cyfeirio'r cais at y Panel Arolygu Safle yn unol â Pharagraff 4 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor.

 

________________________________________________________________

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 956 KB

Cofnodion:

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 951 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Heb dderbyn dim.

 

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor