Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Sian Maehrlein am nad oedd yn medru mynychu’r cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Evans am nad oedd yn medru mynychu’r cyfarfod gan ei fod ar gyfrifoldebau eraill dros y Cyngor; byddai’n ymuno â’r cyfarfod unwaith y byddai’r cyfarfod hwnnw yn gorffen.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

3.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Rhodri Davies ddatgan buddiant personol ac sy’n rhagfarnu yng nghais A230390 ac fe gaiff yr eitem ei chadeirio gan yr is-gadeirydd, Y Cynghorydd Ifan Davies.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Maldwyn Lewis ddatgan buddiant personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A230474.

 

Gwnaeth Dana Jones, Swyddog Democrataidd a Safonau ddatgan buddiant personol ac sy’n rhagfarnu yng Ngheisiadau A230434 a A210308, ac fe wnaeth Mrs Dwynwen Jones, Swyddog Cefnogi Craffu wneud y cofnodion ar gyfer yr eitemau hyn.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Tachwedd 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod ar 8 Tachwedd 2023 yn gofnod cywir.

 

Materion yn Codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Dim.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio o ran ceisiadau statudol, llywodraeth leol, hysbysiadau a datblygu:-

 

Gwnaeth Mr Rhys ap Dylan (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau a’r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

A230434 Codi annedd fforddiadwy, tir yn Allt y Bryn, Llanarth

 

 

CYMERADWYO’r cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb Adran 106 ar gyfer annedd fforddiadwy.

 

 

_________________________________________________________________

 

Gwnaeth Mr Rhys ap Dylan (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau a’r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

 

A210308 datblygiad preswyl 3 annedd, gan gynnwys y Ficerdy newydd, tir gyferbyn â’r Ficerdy, Llanarth.

 

 

 

CYMERADWYO’r cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb Adran 106 ar gyfer darparu’r byngalo sydd wedi’i gymeradwyo yn y cais cynllunio A230434 i fod fel uned fforddiadwy barhaol, ac iddo gael ei gwblhau ac er mwyn iddo gael ei gwblhau'n ymarferol cyn meddiannu'r ail annedd ar y farchnad agored.

 

_______________________________________________________________

 

Anerchodd Mr Geraint John (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu 

 

A230223 Codi Unedau Diwydiannol gyda Masnach Cownter. Defnydd B8, Cyn

Depo Nwy Gwres Stad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr

Aberystwyth

 

CYMERADWYO’r cais yn ddibynol ar amodau.

 

Roedd Aelodau o’r farm y gallai’r cais gael ei gymeradwyo am y rhesymau canlynol:

·       y tebygolrwydd o lifogydd ar y safle yn isel

·       roedd amddiffynfeydd mewn lle, ond roedd angen eu diweddaru gan fod y data model a ddefnyddiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi’i selio ar ffigyrau o 2013, sydd bellach yn annheg

·       dylai Cyfoeth Naturiol Cymru wella’r amddiffynfeydd llifogydd presennol

·       roedd hwn yn safle cae brown

·       mae’r safle hwn wedi’i letya yn flaenorol fel uned ddiwydiannol

·       cafwyd budd economaidd cytbwys wrth gymeradwyo'r cais ar ôl clywed yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr asiant

________________________________________________________________

Anerchodd Mr Richard Rees (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu  

 

A230265 Menter wledig arfaethedig preswyl i gynnwys newidiadau i fynedfa bresennol cae a gosod gwaith trin gwastraff ar safle'r annedd flaenorol a elwir yn ' Newydd'. Tir yn Nhŷ Newydd Tregaron, Tregaron

 

CYFEIRIO'r cais at y Panel Arolygu Safle yn unol â Pharagraff 1 a 5 o Weithdrefn Weithredol fabwysiedig y Cyngor. Bydd y cais hefyd yn cael ei ohirio am fis am gyfnod 'oeri’ er mwyn caniatáu amser pellach i ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau.

 

_________________________________________________________________

Yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ifan Davies, oedd cadeirydd y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn y cais.

 

A230390 Dymchwel adeiladau a strwythurau adfeiliedig presennol, paratoi safle a disodli adeilad ffrâm ddur newydd, Fferm Pwllperian, Cwmystwyth, Aberystwyth.

 

CYMERADWYO'r cais yn ddibynnol ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r amserlen o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Dim.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.