Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 13eg Medi, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Marc Davies a Raymond Evans am eu anallu i fynychu.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bryan Davies fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A220368 a datgan ei fod yn dymuno cael ei gofnodi bod y cais wedi’i ohirio i’r Pwyllgor, gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais yn ychwanegol iddo fod yn ddatblygiad mawr.

 

Datganodd y Cynghorydd Rhodri Evans  fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A230425.

 

Datganodd y Cynghorydd Ceris Jones fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A230425.

 

Datganodd Mr Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol -Economi ac Adfywio  fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais  A230435.

 

Datganodd Mrs Dana Jones, Gwasanaethau Democrataidd a Swyddog Safonau  fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A220368 a chymerwyd cofnodion yr eitem hon gan Ms Nia Jones, Rheolwr CorfforaetholGwasanaethau Democrataidd.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Awst 2023 pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Awst 2023 yn gywir.

 

Materion yn codi

Dim.

 

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac

Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod

blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:-

 

A210757 Adeilad saernïo blwch ceffylau arfaethedig, i gynnwys gosod gwaith mynediad i gerbydau a thrin pecynnau, Tir cyfagos B4338, o'r gyffordd â C1279 a chyffordd C1060, Llanybydder

 

I OHIRIO penderfyniad y cais am fis i'r ymgeisydd gyflwyno prawf dilyniannol mwy trylwyr i gefnogi'r cais. 

_________________________________________________________________

 

 

A220638 Cam 4 - Codi 8 annedd i gynnwys 2 annedd fforddiadwy, Cae John, Cross Inn, Llanon

 

I OHIRIO penderfyniad y cais i'r  swyddogion drafod gyda'r ymgeisydd/asiant os byddent yn cytuno i gynyddu nifer yr aneddau fforddiadwy yn y datblygiad i 50%.

_________________________________________________________________

 

A230399 Estyniad llawr 1af, 23 Bro Henllys, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan

 

 

I WRTHOD y cais gan and oedd y datblygiad arfaethedig drwy ei ddyluniad, ei raddfa a’i ymddangosiad yn dangos ystyriaeth briodol o wahaniaethau cymhedrol yr ardal, tynnu oddi wrth olygfa’r stryd gan achosi ymyrraeth weledol sylweddol negyddol i gymeriad tirwedd yr ardal, yn groes i bolisiau DM06 A DM17 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

__________________________________________________________________

 

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

 

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac

Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r

awdurdod lleol:-

 

Anerchodd  Ms Anna Rose (Gwrthwynebydd) and Mr Geraint John (Asiant) y Pwyllgor yn unol â’r weithrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A220368 Datblygiad preswyl gyda mynediad cysylltiedig, tirlunio

a gwaith ategol. Tir i'r gogledd o Aylestone, Llanarth

 

CYMERADWYO’r cais yn unol âg amodau a chytundeb S.106.

 

________________________________________________________________

 

A230425 Defnyddio newid dosbarth o B1 (swyddfeydd) i ddefnydd D1 (Canolfan Iechyd) ar gyfer ardaloedd lleol ar gcynllun llawr Canolfan Rheidol Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion

 

CYMERADWYO'r cais yn unol ag amodau.

 

_________________________________________________________________

 

 

 

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw

 

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi and oedd apeliadau wedi dod i law

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.