Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 9fed Awst, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

10.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

 

Dim.

11.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

12.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau personol a/neu Datganiadau sy’n rhagfarnu.

13.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 pdf eicon PDF 108 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir .

 

14.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio canlynol a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol a oedd angen ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor: -

 

A220763  Annedd cyfnewid arfaethedig (Dymchwel ar ôl cwblhau), estyniad i’r ardd a gwaith cysylltiedig, Allt y Bryn, Beulah, Castellnewydd Emlyn

 

CYMERADWYO’R cais gydag amodau.

Nid oedd Aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y dylid cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol: -

 

·       Ystyriwyd gan Aelodau er bod yr annedd cyfnewid yn fwy o faint na’r gwreiddiol roedd graddfa’r annedd arfaethedig yn briodol i’r safle am fod adeiladau diwydiannol mawr ar bwys y safle a siediau amaethyddol ymhellach i lawr y ffordd.  

·       Roedd Aelodau o’r farn fod yr adeilad cyfredol o werth pensaernïol isel a bod yr annedd cyfnewid yn fodern gan fod yn fwy effeithlon o ran ynni gan fod yn welliant gweledol i’r safle.

·       Nodwyd gan Aelodau fod y safle ar ei ben ei hun heb anheddau eraill ar bwys a bu iddynt ystyried y byddai’r annedd cyfnewid yn gwella dyluniad yr ardal.  Ystyriwyd gan Aelodau nad oedd steil pensaernïol penodol yn yr ardal a bod nifer o dai tebyg yn yr ardal gyda ffenestri mawr.  Nid oedd y safle ar fferm a nodwyd gan y Panel Archwilio Safleoedd y caiff yr annedd cyfnewid ei osod ymhellach nol na’r annedd cyfredol ac ystyriwyd nad oedd i’w weld ar unwaith o’r ffordd wrth deithio heibio.

 

Am y rhesymau uchod ystyriwyd gan Aelodau y dylai’r cais Annedd cyfnewid gael gymeradwyo am fod y cais yn unol â meini prawf 2 Polisi LU08 a Pholisïau DM06 a DM17

 

 

15.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

6 Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu

Ystyriwyd adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar geisiadau cynllunio statudol, llywodraeth leol, hysbysebion a datblygu:-

 

Bu i Mr a Mrs Eurig James (Ymgeiswyr) annerch y Pwyllgor yn unol â’r Weithdrefn Gweithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu.   

 

A220774   Adfer annedd i’w defnyddio fel uned wyliau, gan gynnwys gosod cyfleuster parod i drin carthion a mynedfa newydd i gerbydau.,  Ty'n Bwlch, Lledrod.

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safleoedd yn unol â Pharagraff 5 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor a GOHIRIO’R cais er mwyn cael mwy o amser ar gyfer y cyfnod ‘ystyried ymhellach’ i ystyried y pwyntiau a godwyd gan Aelodau ac ystyried a oedd unrhyw ystyriaethau materol y gellir eu cyfiawnhau ac y bydd yn gorbwyso’r polisïau cynllunio cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

_________________________________________________________________

 

A230198  Sied wartheg a storfa maethynnau Coybal, Ceinewydd

 

CYMERADWYO gydag amodau.

_________________________________________________________________

 

A230369  Estyniad i’r cyntedd a waliau ffin newydd gan gynnwys storfa generadur newydd yn ogystal â newid defnydd o swyddfa i gartref gofal preswyl C2,  Byngalo Min y Mor, Gerddi Wellington, Aberaeron

 

CYMERADWYO gydag amodau.

 

______________________________________________________________

 

Bu i Mr Richard Jones annerch y Pwyllgor yn unol â’r Weithdrefn Gweithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu. 

 

 

A230399  Estyniad i’r Llawr Cyntaf,  23 Bro Henllys, Felin-fach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion,

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safleoedd yn unol â Pharagraff 5 o’r meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

______________________________________________________________

 

 

16.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio yr deliwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio.

17.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi’r apeliadau a dderbyniwyd.