Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 14eg Mehefin, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Ceris Jones a Carl Worrall wedi ymddiheuro na fyddai modd iddynt fynychu’r cyfarfod.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Rhodri Evans ei fod wedi cael goddefeb i siarad yn unig am Gais A201012 gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau.

Datganodd Mrs Dana Jones, Gwasanaethau Democrataidd a Swyddog Safonau, fudd personol ac sy'n rhagfarnu yng Nghais A220035 ac roedd Ms Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol – Gwasanaethau Democrataidd wedi cymryd y cofnodion ar gyfer yr eitem hon.

 

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2023 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:-

 

A220398 Annedd mewnlenwi arfaethedig, Tir Wrth Ymyl Uwch-y-nant Borth

 

O blaid yr argymhelliad i WRTHOD y cais:-  Mark Strong (1)

 

Yn erbyn yr argymhelliad i WRTHOD y cais:-  Gethin Davies, Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Rhodri Davies, Rhodri Evans, Hugh Hughes, Maldwyn Lewis, Gareth Lloyd, Siân Maehrlein, Chris James (11)

 

Yn dilyn y bleidlais, y penderfyniad felly oedd CYMERADWYO’R cais ar yr amod bod yr hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu gwaredu.

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau a chwblhau cytundeb A106 dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mewn perthynas â dynodi tai fforddiadwy.

 

Nid oedd yr Aelodau yn cytuno gydag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-

         roedd ystyriaethau perthnasol eraill yn yr achos hwn a fyddai’n cyfiawnhau cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion, yn gyntaf, gan gydnabod bod y safle y tu allan i ffiniau diffiniedig yr anheddiad, nododd yr Aelodau fodd bynnag bod y safle yn agos iawn i’r anheddiad, lle y mae gwasanaethau a chyfleusterau digonol ar gael i fodloni anghenion dyddiol y deiliaid yn y dyfodol.

         Roedd yr Aelodau o’r farn bod y ffaith bod Borth yn agos fel Canolfan Gwasanaeth Gwledig yn ffactor pwysig yn yr achos hwn, a oedd yn wahanol i’r achosion a ystyriwyd gan y grŵp yn flaenorol, yr oedd ganddynt gyd-destun mwy gwledig

         bod ffurf adeiledig y naill ochr i’r llall i’r plot, a’i fod felly yn cynrychioli cyfle mewnlenwi yn hytrach na ffurf datblygu mwy gwasgaredig neu hirgul.

         Yn ogystal, nododd yr Aelodau bod y safle yn agos iawn i Barc Gwyliau Brynowen hefyd.

         Rhoddodd yr Aelodau gryn bwys ar y ffaith bod caniatâd wedi cael ei roi ar ddau achlysur yn y gorffennol ar gyfer datblygiad preswyl y safle hwn.  Er gwaethaf y ffaith bod cyfnod y ddau ganiatâd hwn wedi dod i ben erbyn hyn, roedd yr Aelodau yn teimlo bod cynsail wedi cael ei osod gan y ddau ganiatâd cynllunio blaenorol hyn.

         Roedd yr Aelodau yn pryderu y bu diffyg o ran y ddarpariaeth tai yn yr anheddiad ei hun, ac roeddent o’r farn bod angen i’r Cyngor ddarparu cymaint o dai fforddiadwy ag y bo modd, gan bod pobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad.

         Gan gloi felly, roedd yr Aelodau o’r farn bod ystyriaethau perthnasol eraill yn yr achos hwn, yr oeddent yn ddigonol i wrthbwyso’r ragdybiaeth yn erbyn y datblygiad yn y polisi.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:-

 

Anerchodd Mr Emmanuel Kincaid (Asiant) a Mr O Jones (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

        

A201012 Newid Defnydd Tir Amaethyddol i fod yn Safle Pod Glampio, Caeau i’r De-Ddwyrain o Bantyfod, Llanddewi Brefi, Tregaron

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â phwynt 2 a 3 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

______________________________________________________________

Anerchodd Miss Abby Jaques (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A210384 Newid defnydd a thrawsnewid adeilad amaethyddol gwag yn feithrinfa blant, Adeilad Gwag yng Nghrymant, Brongest, Castellnewydd Emlyn

 

 

CYMERADWYO’R cais.

Nid oedd yr aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y byddai modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-

         Mae ystyriaethau perthnasol yn gwrthbwyso’r polisïau dros ei wrthod

         Roedd y cyfleuster gofal plant hwn yn bodloni’r galw

         Byddai’n cynnig cyflogaeth

         Mae’n cadw at y polisi o fodloni anghenion gofal plant yn y sir

         Byddai’r cyfleuster yn bodloni angen sydd eisoes wedi cael ei nodi

         Mae’r elfennau cadarnhaol yn gwrthbwyso’r elfennau negyddol yn y cais hwn

______________________________________________________________

Anerchodd Mr Rhys ap Dylan (Asiant) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A220035 Codi annedd menter gwledig a gweithdy, Fferm Cwmcoedog, Mydroilyn, Llanbedr Pont Steffan

 

 

CYFEIRIO i’r grŵp Callio am y rhesymau a amlinellwyd yn ystod y drafodaeth, a oedd yn cynnwys:

         Lleoliad y cais

         Pe byddai modd ystyried y cais dan TAN 6

         Perchnogaeth Bryn Mair (tyst B)

         ei faint

         

________________________________________________________________

 

A220250 Codi bloc o fflatiau ar wahân, a fydd yn cynnwys chwech llawr (chweched llawr yn cynnwys llofft), a fydd yn cynnwys 24 uned, a lle parcio ceir cysylltiedig a mannau amwynder cymunol, Darn o dir gerllaw Adeilad Brynderw, Ffordd Stanley, Aberystwyth

 

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â phwynt 3 a 7 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

__________________________________________________________________  Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) a Mr David Clark (Aelod o Deulu yr Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A220454 Datblygiad preswyl o Hyd at dri annedd, Tir Ym Mhlwmp, Plwmp, Llandysul

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag Adran 106 am anheddau fforddiadwy a fyddai’n cynnwys bod yr anheddau hyn yn cael eu hadeiladu cyn yr annedd ar gyfer y farchnad agored.

Nid oedd yr Aelodau yn cytuno ag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau canlynol:-

         At ei gilydd, mae  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw, ar yr amod y nodir nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud am un eitem ar y rhestr hon.  (A200855)

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi’r apeliadau a oedd wedi dod i law.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.