Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Materion Personol Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod. |
||
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
||
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion:
|
||
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 1 MB Cofnodion: Dim. |
||
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 1 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:-
A201012 Newid Defnydd Tir Amaethyddol i fod yn safle Podiau Glampio, Caeau i’r De-ddwyrain o Bantyfod, Llanddewi Brefi, Tregaron Nodi bod y cais wedi cael ei DYNNU’N ÔL o’r agenda, oherwydd y cafwyd gwybodaeth bellach gan yr asiant ar ôl cyhoeddi’r agenda i’w hystyried gan y swyddogion. ______________________________________________________________ Anerchodd Mr Paul Nicholls (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu A220398 Annedd mewnlenwi arfaethedig, Tir Gerllaw Uwch-y-nant Borth GOHIRIO’R cais er mwyn caniatáu amser pellach neu gyfnod ‘callio’ er mwyn ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, er mwyn ystyried a oes unrhyw ystyriaethau perthnasol y dangosir tystiolaeth ddigonol ohonynt i wrthbwyso’r polisïau, ystyried arwyddocâd y gwyro ac ystyried y risgiau sydd ynghlwm â chymeradwyo’r penderfyniad, cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. ______________________________________________________________ A220815 Codi sied amaethyddol i gadw tail buarth, Llanio Fawr, Tregaron CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau. ________________________________________________________________ Anerchodd Mr Tim Rainbird (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu A230028 Codi 1 uned fanwerthu (Dosbarth A1) a chreu ardal arddangos allanol, mynediad a threfniadau gwasanaethu, lle parcio ceir, tirlunio a gwaith cysylltiedig, Tir yn Ffordd y Baddondy, Aberteifi CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau . _____________________________________________________________ Anerchodd Ms Samantha Davies (gwrthwynebydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A230102 Ysgol Gynradd un llawr newydd gydag Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Canolfan Iaith, Meithrin, ffordd fynediad newydd a lle parcio, MUGA a Chae 3G llifoleuedig gydag adeilad Storio/Toiled, cyfleusterau chwistrellu, is-orsaf, lle gwasanaeth a lle storio sbwriel, gwaith tirlunio gan gynnwys ffens, triniaethau ffin a llwybrau, a gwelliannau i’r palmant wrth ymyl y briffordd, Ysgol Gynradd Dyffryn Aeron, Ffordd Llanbedr Pont Steffan, Felin-fach, Llanbedr Pont Steffan CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau. ________________________________________________________________ Anerchodd Mr Keith Davies y Pwyllgor ar ran Grŵp Preswylwyr Llangawsai (gwrthwynebydd) yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A230162 Dymchwel 2 uned ystafell ddosbarth Dros dro ac 1 garej a’u disodli gyda bloc deulawr newydd o 10 ystafell ddosbarth, tanc chwistrellu cysylltiedig, gwaith allanol a gwaith tirlunio, Ysgol Gymraeg, Plascrug, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth GOHIRIO’R penderfyniad er mwyn cael ymateb boddhaol gan ymgynghorai, sef NRW, ynghylch llifogydd, halogi tir ac arolwg ystlumod, a hefyd, ceisio eglurhad gan gynrychiolaeth o swyddogion i gymeradwyo/gwrthod y cais gan bod y Swyddog Corfforaethol Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio wedi datgan budd yn y cais. Cyflwynir y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
||
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
||
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law. |
||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |