Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 12fed Ebrill, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

3.

Datgan Buddiannau Personol a/neu Fuddiannau sy'n Rhagfarnu pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Mawrth 2023

Cofnodion:

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 347 KB

Cofnodion:

5 Ceisiadau cynllunio a ohiriwyd yng Nghyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:- 5 Ceisiadau cynllunio a ohiriwyd yng Nghyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:-

A220885 Codi un annedd teuluol a dau dŷ fforddiadwy ar dir y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo yn flaenorol at ddefnydd preswyl.  Tir Gerllaw Sŵn Y Gwynt, Bont-goch, Tal-y-bont

 

GOHIRIO’R penderfyniad am y cais er mwyn cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd ynghylch gwneud y tri annedd yn rhai fforddiadwy a bod yr annedd teuluol yn cael ei leihau er mwyn cydymffurfio â meini prawf ynghylch maint fforddiadwy.  Awdurdodir y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio i GYMERADWYO’R cais yn unol â chytundeb Adran 106 a GWRTHOD y cais os na chaiff cytundeb ei sicrhau cyn pen mis.

 

Nid oedd yr Aelodau yn cytuno gydag argymhelliad y Swyddogion ac roeddent o’r farn y dylid cymeradwyo’r cais, gan bod 3 annedd fforddiadwy yn dderbyniol ac yn cyd-fynd â’r polisi, fel y nodwyd gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio.

________________________________________________________________

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 341 KB

Cofnodion:

 Dim. 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 348 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 879 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi’r apeliadau a oedd wedi dod i law.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.