Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 8fed Mawrth, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Marc Davies wedi ymddiheuro nad oedd modd iddo fynychu’r cyfarfod.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Chwefror 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Chwefror 2023 yn gywir

 

Materion yn codi

Eitem 5-  A220511 Codi annedd fforddiadwy, Lleine, Ferwig, Aberteifi- Adroddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio, y cafwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru yn ystod y dau ddiwrnod diwethaf, sy’n rhoi cyfarwyddyd i’r Cyngor beidio rhoi caniatâd cynllunio heb sicrhau caniatâd Gweinidogion Cymru yn gyntaf.  Nodwyd y byddai penderfyniadau a wnaethpwyd ynghylch ceisiadau wedi’u galw i mewn yn cael eu hadrodd dan eitem 8, Apeliadau pan fyddent yn cyrraedd.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 675 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio a ganlyn a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac yr oedd angen eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor:-

A200553 Codi Annedd i’r Rheolwyr, tir ger Parc Busnes Nantllan, Clarach, Aberystwyth

 

GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:-

 

1. Mae safle y cais wedi’i leoli mewn cefn gwlad agored, y tu allan i anheddiad sefydledig, lle y ceir tybiaeth gyffredinol yn erbyn datblygiad preswyl newydd oni bai ei fod yn cyfateb ag eithriad penodol a ragnodir gan bolisi cynllunio.  Fel y mae, nid yw’r cynnig yn cwympo dan eithriad o’r fath, felly ystyrir ei fod yn mynd yn groes i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru, Nodyn Cyngor Technegol 6 a pholisïau S01 ac S04 Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion.

2. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y bydd darparu annedd mawr unigol mewn lleoliad eithaf amlwg ar wahân i unrhyw adeiladau gerllaw yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal, gan gyfateb ag ychwanegiad anghyson i’r tirlun.  Mae’r cynnig yn mynd yn groes i bolisïau DM06 a DM17 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

A220097 Codi pâr o dai pâr, Isfryn, Talsarn, Llanbedr Pont Steffan

 

GWRTHOD y cais am y rheswm canlynol: 

 

Mae'r cais yn groes i bolisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol, sy'n ceisio amddiffyn cefn gwlad agored rhag datblygiadau preswyl newydd anghynaladwy a heb gyfiawnhad, yn benodol polisi S04 y CDLl a Pholisi Cynllunio Cymru.

 

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 664 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – y Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:-

 

Anerchodd Mr Peter Jones (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu

 

A210757 Adeilad gwneuthuriad fan geffylau arfaethedig, gan gynnwys gosod mynediad i gerbydau a chyfleuster parod i drin carthion, Tir Gerllaw y B4338, o’r gyffordd gyda C1279 a’r gyffordd gyda C1060, Llanybydder   

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraff 5 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor a GOHIRIO’R cais er mwyn caniatáu mwy o amser neu gyfnod ‘callio’ i ystyried y pwyntiau a fynegwyd gan Aelodau, gan gynnwys ystyried safleoedd presennol ac amgen ar gyfer y busnes er mwyn lleddfu unrhyw risgiau posibl, pe bai’r Pwyllgor yn dymuno cymeradwyo’r cais wrth iddo ei ailystyried.

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 664 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.