Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Materion Personol Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Marc Davies wedi ymddiheuro nad oedd modd iddo fynychu’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Chwefror 2023 PDF 100 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Chwefror 2023 yn gywir Materion yn
codi Eitem 5- A220511 Codi annedd fforddiadwy, Lleine, Ferwig, Aberteifi- Adroddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio, y cafwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru yn ystod y dau ddiwrnod diwethaf, sy’n rhoi cyfarwyddyd i’r Cyngor beidio rhoi caniatâd cynllunio heb sicrhau caniatâd Gweinidogion Cymru yn gyntaf. Nodwyd y byddai penderfyniadau a wnaethpwyd ynghylch ceisiadau wedi’u galw i mewn yn cael eu hadrodd dan eitem 8, Apeliadau pan fyddent yn cyrraedd. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 675 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i Adroddiad y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol - Economi ac Adfywio ar y ceisiadau
cynllunio a ganlyn a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac yr oedd angen
eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor:- A200553 Codi Annedd i’r Rheolwyr, tir
ger Parc Busnes Nantllan, Clarach, Aberystwyth GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:- 1. Mae safle y cais
wedi’i leoli mewn cefn gwlad
agored, y tu allan i anheddiad sefydledig, lle y ceir tybiaeth gyffredinol
yn erbyn datblygiad preswyl newydd oni bai ei fod yn
cyfateb ag eithriad penodol a ragnodir gan bolisi cynllunio. Fel y mae, nid yw’r
cynnig yn cwympo dan eithriad o’r fath, felly ystyrir ei fod
yn mynd yn
groes i ddarpariaethau
Polisi Cynllunio Cymru, Nodyn
Cyngor Technegol 6 a pholisïau
S01 ac S04 Cynllun Datblygu
Lleol Ceredigion. 2. Mae’r Awdurdod
Cynllunio Lleol o’r farn y bydd
darparu annedd mawr unigol mewn
lleoliad eithaf amlwg ar wahân
i unrhyw adeiladau gerllaw yn cael
effaith niweidiol ar gymeriad yr
ardal, gan gyfateb ag ychwanegiad anghyson i’r tirlun. Mae’r cynnig yn mynd
yn groes i bolisïau DM06 a DM17 y Cynllun Datblygu Lleol. A220097 Codi pâr o dai pâr, Isfryn,
Talsarn, Llanbedr Pont Steffan GWRTHOD y cais am y rheswm canlynol: Mae'r cais
yn groes i bolisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol, sy'n ceisio amddiffyn cefn gwlad agored
rhag datblygiadau preswyl newydd anghynaladwy a heb gyfiawnhad, yn benodol polisi S04 y CDLl a Pholisi Cynllunio Cymru. |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 664 KB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – y
Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol
a'r awdurdod lleol:- Anerchodd Mr Peter Jones (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â’r
weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau’r Cyhoedd sy’n annerch y Pwyllgor Rheoli
Datblygu A210757 Adeilad gwneuthuriad fan geffylau arfaethedig, gan
gynnwys gosod mynediad i gerbydau a chyfleuster parod i drin carthion, Tir
Gerllaw y B4338, o’r gyffordd gyda C1279 a’r gyffordd gyda C1060,
Llanybydder CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraff 5 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor a GOHIRIO’R cais er mwyn caniatáu mwy o amser neu gyfnod ‘callio’ i ystyried y pwyntiau a fynegwyd gan Aelodau, gan gynnwys ystyried safleoedd presennol ac amgen ar gyfer y busnes er mwyn lleddfu unrhyw risgiau posibl, pe bai’r Pwyllgor yn dymuno cymeradwyo’r cais wrth iddo ei ailystyried. |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 664 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |