Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Chris James wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo fynychu’r cyfarfod.

Dywedodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis y byddai’n gadael y cyfarfod yn gynnar oherwydd ymrwymiadau eraill.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ifan Davies fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A211191.

 

Datganodd y Cynghorydd Elizabeth Evans fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A211019.

 

Datganodd y Cynghorydd Rhodri Evans fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais  A211019.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2023 pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2023 yn gywir.

Materion yn codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:-

 

A211191 Newid defnydd tir at ddefnydd twristiaeth, er mwyn caniatáu codi pâr o gabanau i’w defnyddio fel llety gwyliau, ynghyd â’r gwaith cysylltiedig gan gynnwys lleoedd parcio a gosod systemau draenio, Hafodhir Uchaf, Bethania, Llanon

 

GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:-

1. Mae’r cynnig mewn lleoliad anaddas ac ystyrir ei fod yn mynd yn groes i bolisïau S01, S04 ac LU14 Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2007-2022 (Mabwysiadwyd 25 Ebrill, 2013)

 

 

A210592 Codi annedd, Plot y tu ôl Brynmorwel, Brynhoffnant, Llandysul

 

GWRTHOD y cais am y rhesymau canlynol:-

1. Barnir bod y datblygiad arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar amwynder preswyl yr eiddo cyfagos, gan fynd yn groes i DM06 CDLl.

2. Byddai’r cynnig yn niweidiol i ddiogelwch y briffordd, gan fynd yn groes i Nodyn Cyngor Technegol 18 Polisi Cynllunio Cymru a Pholisi DM06 CDLl sy’n mynnu, ymhlith pethau eraill, bod datblygiad newydd yn darparu amgylchedd diogel trwy sicrhau bod dyluniadau adeiladau a llwybrau mynediad cysylltiedig yn gweithredu egwyddorion diogelwch sylfaenol

3. Yn absenoldeb cytundeb cyfreithiol adran 106 wedi’i lofnodi, mae’r datblygiad arfaethedig wedi methu bodloni Polisi S05 Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2007-2022 (mabwysiadwyd 2013).

4. Ni chyflwynwyd Asesiad Effaith Cymunedol ac Ieithyddol (CLIA) i gefnogi’r cais, felly nid yw’r awdurdod cynllunio lleol mewn sefyllfa i asesu effeithiau’r datblygiad arfaethedig ar broffil Ieithyddol Brynhoffnant, gan fynd yn groes i DM01 Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2007-2022 (mabwysiadwyd 2013)

 

 

A220511 Codi annedd fforddiadwy, Lleine, Ferwig, Aberteifi

Pleidleisiodd yr aelodau fel a ganlyn -

 

O blaid yr argymhelliad i WRTHOD y cais:- Rhodri Davies a Mark Strong (2)

 

Yn erbyn yr argymhelliad i WRTHOD y cais:-  Ifan Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Rhodri Evans, Geraint Wyn Hughes, Hugh Hughes, Ceris Jones. Gareth Lloyd, Siân Maehrlein a Carl Worrall (10)

 

Yn dilyn y bleidlais, y penderfyniad felly oedd CYMERADWYO’R cais yn unol â gwaredu hawliau datblygu a ganiateir.

Nid oedd yr aelodau wedi cytuno ag argymhelliad y Swyddogion am y rhesymau canlynol:-

         Roedd yr annedd arfaethedig gerllaw’r anheddiad a chadarnhawyd hyn pan ymwelodd y panel archwilio safle â’r safle

         Rhoddir sylw i’r mater ynghylch maint trwy ddirymu’r hawliau datblygu a ganiateir ar yr annedd

 

 

 

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu; statudol a'r awdurdod lleol:-

 

      

A211019  Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Aberaeron gan gynnwys adeiladu morglawdd creigiau sy’n estyn allan o Bier y Gogledd, adnewyddu ac ailadeiladu pen Pier y De, adeiladu waliau llifogydd, adeiladu llifddor yn harbwr mewnol Pwll Cam a gwneud gwelliannau i’r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De, Harbwr Aberaeron a Thraeth y De, Aber

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau.

 

Yn dilyn y bleidlais, daeth yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Elizabeth Evans, i mewn i’r Siambr i ddiolch i Mr Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’i dîm am eu holl waith wrth gyflwyno’r cais cynllunio hwn.  Dywedodd y byddai cymeradwyo’r cais hwn yn sicrhau diogelwch preswylwyr yn Aberaeron a ffyniant y Dref ar gyfer y dyfodol.

 

 ____________________________________________________________

       

A220097  Codi pâr o dai pâr, Isfryn, Talsarn Llanbedr Pont Steffan

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraff 3 y meini prawf a gymeradwywyd gan y Cyngor a hefyd, gohirio’r cais er mwyn caniatáu amser pellach neu gyfnod ‘callio’ i ystyried y pwyntiau a fynegwyd gan Aelodau, er mwyn ystyried arwyddocâd y gwyro ac ystyried y risgiau, cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

       ________________________________________________________________

A220885  Codi un annedd teuluol a dau dŷ fforddiadwy ar dir y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo yn flaenorol at ddefnydd preswyl, Tir Gerllaw Sŵn Y Gwynt, Bontgoch, Tal-y-bont

Anerchodd Mr David Owen (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu

 

GOHIRIO’R cais er mwyn caniatáu amser pellach neu gyfnod ‘callio’ i ystyried y pwyntiau a fynegwyd gan Aelodau, er mwyn ystyried arwyddocâd y gwyro ac ystyried y risgiau, cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

  ________________________________________________________________

               

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi’r apeliadau a oedd wedi dod i law.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.